Ein Gweledigaeth
Mae gweledigaeth ar gyfer Ysgol Henblas yn seiliedig ar:
• hybu balchder y disgyblion yn eu Cymreictod, parch at ei gilydd gan wneud eu gorau glas.
• gymuned hapus, ofalgar ac amrywiol lle caiff pob un o’r disgyblion eu gwerthfawrogi’n gyfartal
• bob disgybl yn gwneud cynnydd cadarn iawn ac yn cyflawni’n dda (gwreiddiau i dyfu)
• safonau, lles ac agweddau y disgyblion tuag at ddysgu yn gryf
• bwysigrwydd llais y disgybl a’i fod yn cael ei barchu drwy’r ysgol
• berthynas weithio llwyddiannus rhwng staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni sy’n seiliedig ar ddisgwyliadau uchel, her a chymorth effeithiol
• y disgyblion yn derbyn gweithgareddau difyr a heriol, gyda’r staff yn eu hannog i fod yn ddysgwyr sy’n gynyddol annibynnol (adenydd i hedfan)
• arweinwyr yn darparu arweinyddiaeth strategol effeithiol sy’n seiliedig ar ffocws cryf a chyson ar gynnal safonau uchel o gyrhaeddiad a lles
Darllennwch fwy am gwricwlwm Ysgol Henblas yma.