Croeso i Ysgol Henblas
Anthem Ysgol Henblas
Lle bu Ifan o Baradwys, 
								            Lle bu gerddi hardda’r Ynys,
								            Heb fod yn bell o gloch Cristiolus,
								            Mae 'na ysgol hardd, hudolus, 
								            Lle mae parch at fyd a ffrindiau,
								            Lle rwy’n dod i fagu gwreiddiau. 
Cytgan:
                                            Henblas! Ysgol Henblas! Yw fy nghri!
                                          Diolch Ysgol Henblas am fy ysbrydoli i.
 O dan un to mae awch am wybod,
                                            Am ein byd mawr a’i ryfeddod, 
                                            Rhwng y muriau cadarn, lliwgar 
                                            Y mae aelwyd clên cyfeillgar.
                                            Lle daw fory at ei gilydd,
                                            Lle mae croeso byth a beunydd. 
Cytgan:
								            Henblas! Ysgol Henblas! Yw fy nghri!
							              Diolch Ysgol Henblas am fod yn ffrind i mi.
 Fel bu adar T.G.’n mentro,
                                            Fe ddaw amser i mi fudo,
                                            Ac os af ymhell i nythu,
                                            Boed haul braf neu storm yn chwythu,
                                            I hedfan dros pob her o’m cwmpas,
                                            Yn gefn i mi fydd Ysgol Henblas. 
Cytgan:
                                            Henblas! Ysgol Henblas! Yw fy nghri!
                                            Diolch Ysgol Henblas am fy ngwarchod i. 
Llawlyfr - Llawrlwytho ein llawlyfr yma
Wal Fideo
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025 
 Cân Actol 
							                Diwrnod a phrofiad bythgofiadwy i’r criw arbennig yma yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Rydan ni fel staff mor mor falch ohonynt i gyd. Fe wnaethon nhw roi pob ymdrech a pherfformio yn wych. Diolch yn fawr iddynt ac i’r rhieni am gefnogi mor arbennig. Diolch hefyd i’r plant oedd ddim yn gallu bod efo ni yn y genedlaethol, ond wnaeth gyfrannu mor ardderchog wrth gystadlu yn y sir!
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025 
 Unawd Cerdd Dant 
                                            Llongyfarchiadau mawr i Carwen ar gynrychioli Ysgol Henblas ac Ynys Môn mor wych yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Perfformiodd Carwen i safon uchel iawn.
 
                                              Plant
Dyma ran bwysicaf yr holl wefan! Cliciwch yma i gael gwybod am gyfraniad y disgyblion i fywyd a gwaith Ysgol Henblas. Darllen mwy...
 
                                              Rhieni
Credwn fod cydweithrediad agos rhwng yr ysgol a’r cartref yn hanfodol a gweithredwn bolisi “drws agored”. Hynny yw, mae croeso i rieni wneud trefniadau i’n cwrdd i drafod unrhyw fater ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Darllen mwy...

 
  
 