Ysgol Henblas

  • Newyddion
    • Archif Newyddion
    • Dyddiadur
    • Tymhorau
    • Cysylltu
    • Map
    • Albwm
  • Plant
    • Adnoddau
    • Archif Adnoddau
    • Albwm
    • Wal Fideo
    • Yr Urdd
  • Ysgol
    • Gwybodaeth
    • Pwy ydi Pwy
    • Ysgol Iach
    • Ysgol Werdd
    • Cyngor Ysgol
    • Taith Weledol
    • Llywodraethwyr
    • Adroddiad Estyn
    • Ein Gweledigaeth
  • Rhieni
    • Cysylltu
    • Y Cyfeillion
    • Adroddiadau
    • Llythyrau
    • Cymhwysedd Digidol
  • Y Gymuned
    • Meithrinfa Siwgwr Plwm Henblas
  • English

Nesaf
Diwethaf
Bookmark and Share

Newyddion

Archif Newyddion

Tymor y Gwanwyn 2025

 

Newyddion Ebrill 2025

Ffoaduriaid

Fel rhan o thema’r dosbarth ‘A oes heddwch?’ cafodd y disgyblion hynaf ym mlwyddyn 5 a 6 sgwrs ddiddorol iawn gan aelod o’r tîm ail sefydlu ffoaduriaid. Diolch yn fawr iawn am sesiwn mor arbennig a’r disgyblion yn ymateb mewn modd mor aeddfed.

  • Plant blwyddyn 5 a 6 yn trafod gyda aelod o tim ail sefydlu ffoaduriaid

Eisteddfod yr Urdd

Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n cynrychioli Ysgol Henblas yn eisteddfod cylch a sir yr Urdd! Gwych iawn! Pob dymuniad da i Carwen yn y genedlaethol ar ol derbyn y wobr gyntaf ar yr unawd cerdd dant! Llongyfarchiadau hefyd i Ned (ail unawd pres rhanbarth) a Beca (3ydd llefaru rhanbarth). Yn ogystal, dymuniadau gorau i griw y gân actol yn yr eisteddfod genedlaethol ar ôl eu perfformiad campus yn yr eisteddfod rhanbarth! A bydd Ned yn cystadlu yn cogurdd 2025! Gwych iawn bawb!

  • Tair plentyn wedi cael llwyddinat yn y Eisteddfod Rhanbarth
  • Can Actol Ysgol Heblas yn gwisgo fel anifeiliad

Argraffu 3D gydag Ysgol Pencarnisiog

Diolch yn fawr iawn i Ysgol Pencarnisiog am ddod draw i ddangos sut i ddefnyddio argraffydd 3D! Cawsom ddylunio eitem a gweld yr argraffydd yn gweithio!

  • Person yn gafael mewn cylch allweddi sydd wedi cael ei greu gan argraffydd 3D

Rygbi

Llongyfarchiadau mawr i’r ddau dîm rygbi fu’n cystadlu yn nhwrnament tag Urdd Ynys Môn. Genod blwyddyn 5 a 6 yw pencampwyr Ynys Môn rygbi tag 2025! Chwaraeodd tîm rygbi tag blwyddyn 3 a 4 cymysg yn wych hefyd a cholli o un sgôr yn unig yn y rownd gyn derfynol. Diwrnod da iawn. Diolch eto i Chris a Sioned am eu hyfforddi i safon mor arbennig!

  • Tim blwyddyn 5 a 6 a blwyddyn 3 a 4 yn cystadlu yn cystadleuaeth rygbi tag yn Ynys Mon

Gig Hwyl Henblas 2! 11/7/2025

Cadwch y dyddiad yn glir. Ydi - mae gig Hwyl Henblas yn ei ôl. Bydd manylion yr artistiaid yn dilyn yn fuan!


Newyddion Mawrth 2025

Eisteddfod yr Urdd

Llongyfarchiadau mawr i bawb ar eu llwyddiant yn Eisteddfod cylch yr Urdd. Rydym mor falch o lwyddiant pob un fu’n cystadlu a phob hwyl i’r rhai fydd yn cystadlu yn eisteddfod y rhanbarth ar Ebrill y 5ed.


Twrnament rygbi tacl yr Urdd

Llongyfarchiadau mawr i’r sgwad rygbi ar ennill twrnament rygbi tacl yr Urdd Ynys Môn. Fe wnaeth pob aelod berfformio yn wych. Diolch yn fawr iawn i Chris a Sioned am eu hyfforddi! Ymlaen â nhw i Aberystwyth nesaf!

  • plant ar cae
  • 280325-news-1

Y moch bach

Yn ystod ein trafodaeth o’r stori 3 Mochyn Bach awgrymodd plentyn y dylai moch bach ymweld â’r ysgol. Mae gan Anti Rhian foch bach ar ei fferm felly cawsom ymweliad arbennig iawn gan foch bach Anti Rhian a’r ffermwr, Gwyn. Cawsom gyfle i holi cwestiynau am y moch a’r fferm ac yna cwblhau gweithgareddau yn cyflwyno ein gwybodaeth newydd ar foch. Diolch o galon Anti Rhian a Gwyn!

 

  • children looking at pigs in a trailer
  • moch

Traws Gwlad

Fe gafwyd ymdrech arbennig gan bawb o’r dosbarth oren a glas yn y ras traws gwlad dalgylch. Llongyfarchiadau i’r nifer sydd yn mynd ymlaen i’r rownd trawsglwad sirol.


Taith y dosbarth oren i ‘r adran Bioleg Forol, Prifysgol Bangor

Cafodd y dosbarth oren ddiwrnod arbennig yn ymweld ag adran Bioleg Forol, Prifysgol Bangor yn dysgu am greaduriaid y môr, bwyd môr a chymryd rhan mewn arddangosiadau cefnforeg ryngweithiol.

Lluniau Adran Bioleg Forol

  • dosbarth o blant yn edrych ar anifail mor
  • 280325-news

 


Diwrnod y llyfr 2025

Roedd pob math o gymeriadau diddorol yn y neuadd i ddathlu diwrnod y llyfr 2025! Dyma rai ohonynt - tybed pa rai allwch chi eu hadnabod?! Lluniau Dwrnod y Llyfr 2025

 

  • plant wedi gwysgo i fyny
  • 280325-news-2

Peldroed Primary 5s

Chwaraeodd y sgwad peldroed bechgyn yn wych yn nhwrnament Primary 5s. Curo 2, 2 gem gyfartal a cholli 1. Diwrnod da iawn!

 

  • grwp peldroed yn sefyll oflaen gol
  • 280325-news-4

 

 

Tymor y Gaeaf 2025

Newyddion Chwefror 2025

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Yn anffodus, oherwydd y tywydd garw, nid oedd yn bosib i’r plant hymryd rhan yn yr orymdaith Gŵyl Dewi ar hyd strydoedd Llangefni. Ond wnaeth y tywydd ddim amharu ar frwdfrydedd y plant wrth gael eu diddanu gan ddisgyblion Ysgol y Bont ac Arfon Wyn a Catrin Toffoc ym Mhlas Arthur. Roedd yn wych gweld y plant yn mwynhau’r gerddoriaeth Gymraeg wrth gymysgu gyda’u cyfoedion o holl ysgolion dalgylch Llangefni!

  • plant yn gwysgo coch
  • 280225-news

Sioe Grîs

Fe wnaeth disgyblion hynaf Ysgol Henblas fwynhau gweld perfformiad Ysgol Gyfun Llangefni o Gris. Llongyfarchiadau mawr i bawb - y staff, ac yn enwedig y criw ifanc oedd yn actio, yn y corws, yn y band a’r criw technegol. Roedd yn gret gweld ein cyn ddisgyblion ar y llwyfan.


Diolch Anti Diane

Cawsom ddiolch yn ffurfiol i Anti Diane am ei gwasanaeth arbennig o 28 mlynedd yn Ysgol Henblas. Mae Anti Diane wedi gwneud cyfraniad arbennig i fywyd yr ysgol fel cymhorthydd dosbarth ac fel swyddog cefnogi.
Diolch i holl gymuned yr ysgol am eich casgliad caredig tuag at Anti Diane - casglwyd rhodd ariannol iddi, ac yn ogystal derbyniodd ffram hyfryd wedi ei greu gan Mrs Rowena Robinson yn nodi “diolch am roi’r gwreiddiau i blant Ysgol Henblas gael tyfu.” 
Mae ein diolch iddi yn ddiffuant ac edrychwn ymlaen at ei chroesawu yn ol yma unrhyw dro!

  • Plant gyda Anti Diane
  • 280225-news-1

 


Xplore

Mwynhaodd disgyblion y dosbarth melyn a gwyrdd  ddiwrnod gwerth chweil yng nghanolfan Xplore Wrecsam heddiw. Bu'r dosbarth gwyrdd yn rhan o weithdy y corff a'r dosbarth melyn yn rhan o weithdy adeiladu. Cafwyd llawer o hwyl wrth arbrofi gyda'r holl stondinau gwyddoniaeth. Diolch yn fawr iawn unwaith eto i’r Gyndeithas Rhieni Athrawon am eu cyfraniad hael tuag at leihau cost y daith hon. 

  • plant tu allan i xplore
  • 280225-news-2

Creu cynnyrch yn y clwb Urdd

Mae aelodau clwb yr Urdd yn griw creadigol dros ben! Dyma nhw wedi bod wrthi yn creu ‘coasters’ gyda’u fersiynau hwy o logo yr Urdd! Maent wedi bod yn gwneud defnydd campus o’r offer argraffu newydd sydd yn yr ysgol yn caniatau argraffu ar grysau, cwpanau a’r ‘coasters’!

  • myfyrwyr yn gafael ei cynnnyrch
  • 280225-news-3

 


Newyddion Ionawr 2025



Sesiwn cwsg

Diolch i Claire o gwmni CELS am gyflwyno gweithdy gwerthfawr am bwysigrwydd cwsg i ddisgyblion hynaf yr ysgol. Cafwyd trafodaeth aeddfed a phob disgybl yn gweld gwerth cael digon o gwsg.

Taith gerdded dosbarth melyn

Mwynhaodd disgyblion y dosbarth melyn daith o amgylch y pentref gan adnabod tirnodau Llangristiolus, gan wneud defnydd o’u synhwyrau wrth werthfawrogi eu hardal leol.

 

  • plant ar palmant yn gwysgo cotiau llachar
  • 040225-news

Gweithdy ffilmio blwyddyn 2

Diolch yn fawr iawn i Gwion Aled am ddod draw i gynnal gweithdy ‘Her chwedl un-dydd’ gyda disgyblion blwyddyn 2. Llwyddodd y disgyblion i greu chwedl newydd gan ddefnyddio eu dychymyg a dod a’r chwedl yn fyw drwy ei ffilmio. Rydym yn edrych ymlaen i weld ‘Chwedl Henblas’ yn fuan.

 

  • plant a gwion o flaen y llwyfan
  • 040225-news-1

Athletau dan do

Llongyfarchiadau mawr i’r sgwad athletau ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth athletau dan do Ynys Mon! Gwych iawn!

  • plant yn gwysgo ei medalau
  • 040225-news-2

Diwrnod Gyrfaoedd

Ar ddiwedd y tymor diwethaf trefnodd y dosbarth oren ddiwrnod gyrfaoedd i ddod a’r thema 'Blociau Bywyd' i ben. Roedd y plant wedi bod yn ysgrifennu at bobl oedd yn gwneud eu swyddi delfrydol a chawsom brynhawn hyfryd yn dysgu am wahanol swyddi a pha sgiliau sydd eu hangen i wneud y swyddi yma. Cafodd y plant eu hysbrydoli ac yn dilyn y diwrnod gyrfaoedd maent wedi penderfynu eu bod eisiau dysgu mwy am greaduriaid y môr ar ôl cyfarfod gyda’r adran Bioleg Môr, Prifysgol Bangor. O ganlyniad, thema’r dosbarth oren y tymor hwn ydi ‘Y Môr’.

 

  • 040225-news-3
  • plant ar lleyfan wedi gwysgo i fyny fel cymeriadau
  • 040225-news-3

 


Gala nofio

Llongyfarchiadau i’r sgwad nofio ddaeth yn drydydd yn y gala nofio. Cafwyd perfformiadau gwych gan bawb!

 

  • plant gyda medalau ag thystysgrifau
  • 040225-news-4

 


Amgueddfa Rhyfel Lerpwl

Cafodd disgyblion y dosbarth glas daith wych wrth ymweld a Lerpwl i weld yr Amgueddfa rhyfel Western Approaches. Roedd yn hynod o ddiddorol dysgu am wahanol agweddau o’r ymdrech i gadw’r wlad yn ddiogel ac roedd y plant yn glod i’r ysgol o ran eu gwybodaeth ac ymddygiad! Diolch i’r Gymdeithas Rhieni Athrawon am y cyfraniad hael tuag at leihau cost y daith.

 

  • plant yn sefyll oflaen amgueddfa lerpwl
  • 040225-news-5

 

Tymor yr Hydref 2024

Newyddion Rhagfyr 2024

 

Nadolig Llawen

Nadolig Llawen gan blant Ysgol Henblas!

Dosbarth oren a glas yn canu Engyl gân.
Dosbarth melyn a gwyrdd yn canu Lliwiau!


Diolch Miss Jones

Miss Josie Jones a dau ddisgybl

Hwyl fawr Miss Josie Jones. Diolch am roi profiadau arbennig i blant y dosbarth glas!


Offerynnwyr Talentog

Offerynnwyr Talentog

Tro yr offerynnwyr oedd perfformio mewn cyngerdd arbennig o flaen eu ffrindiau.
Da iawn bob un wnaeth gymryd y cyfle!
Lluniau Offerynnwyr Talentog


Ras Sion Corn

Plant yn cymryd rhan yn Ras Sion corn

Mae’r ras Sion Corn noddedig wedi codi £443 tuag at apel lleol Eisteddfod Genedlaethol Urdd Môn 2026. Diolch o galon am eich cefnogaeth wych unwaith eto a llongyfarchiadau mawr i’r plant! Llwyddodd disgyblion dosbarth glas ac oren redeg 1.5 milltir yr un, tra rhedodd disgyblion dosbarth melyn a gwyrdd 0.75milltir yr un. Cyfanswm i gyd o 108 milltir. Gwych iawn!

Lluniau Ras Sion Corn


Calendr Adfent o Chwith

plant yn dal bwyd gan y Calendr Adfent o Chwith

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gefnogi apel Calendr Adfent o Chwith. Mae’r holl nwyddau wedi cael eu casglu gan Mr Rhun ap Iorwerth a Mr Geraint Bebb heddiw!


Cinio Nadolig 2024!

Plany yn mwynhau cinio dolig

Cinio ardderchog Anti Sian ac Anti Tracy! Diolch iddyn nhw am ginio gwych bob dydd o’r flwyddyn! Mae plant Ysgol Henblas yn blant lwcus iawn.

Lluniau Cinio Nadolig 2024!


Llythyrau i Sion Corn

Dyn popst gyda disgyblion gyda llythyr i sion corn

Y Dyn Post wedi ymweld â disgyblion blwyddyn derbyn heddiw er mwyn casglu llythyrau pwysig iawn maent wedi bod yn ysgrifennu.


Christingle

Plant yn dal ei Christingle

Diolch i’r Parchedig Emlyn Williams a’i ffrindiau am ddod draw i’r ysgol i wneud Christingle!.


Sion Corn

Roedd cyffro mawr ar iard yr ysgol pan oedd ymwelydd arbennig yn hedfan uwchben!!


Rhaglen Trystan ac Emma ar Radio Cymru

Roedd holl blant yr ysgol yn canu ar raglen Trystan ac Emma ar BBC Radio Cymru! Dwy gân o’r sioeau Nadolig! Gallwch eu clywed ar y linc isod tua awr a 40 munud fewn i’r rhaglen!!

bbc.co.uk/sounds/play/m0025vn7


Canolfan Hen Ysgol Bodorgan

plant Canolfan Hen Ysgol Bodorgan

Bu disgyblion blwyddyn 4 yn diddanu yng nghanolfan hen ysgol Bodorgan wrth i drigolion lleol fwynhau cinio Nadolig. Hanner awr o ganu gwych gan y disgyblion!


Eglwys Sant Cyngar

plant yn sefyll yn y cyngerdd

Braint i gôr yr ysgol oedd canu yn Eglwys Cyngar Sant heno ar y cyd gyda chôr Bara Brith yn cefnogi elusen Hosbis Dewi Sant. Diolch i’r plant am ganu mor angerddol ac i’r rhieni a’r staff am eu cefnogi.

Can y clychau: youtube.com/shorts

Sion Corn sy’n galw draw: youtu.be/PUx8BZJ3PDE .


Helpu yn y Gymuned

Plant yn gweithio caled

Cafodd disgyblion y dosbarth glas fore bendigedig yn cymdeithasu gyda thrigolion y gymuned leol yn Neuadd Llangristiolus. Nod y bore oedd codi ymwybyddiaeth am anifeiliaid bregus sydd ar y strydoedd.Bu'r disgyblion yn brysur yn tacluso yr ardal tu allan i'r neuadd ac yn paratoi paned,coffi a chacen wrth gymdiethasu gyda'r trigolion. Diolch yn fawr i Sioned am y croeso ac i Chris CELS Character Education & Life Skills am drefnu.
Lluniau Helpu yn y Gymuned


Sioeau Nadolig 2024!

Plant di gwysgo fyny fel elf's

Cafwyd sioeau gwych dros dau ddiwrnod a’r holl blant wedi gweithio mor brysur er mwyn eu cynhyrchu. Cyflwynodd y Dosbarth melyn a gwyrdd sioe am y Lleidr Lliwiau, tra’r oedd y Dosbarth glas ac oren yn cyflwyno sioe am Culhwch ac Olwen. Llongyfarchiadau i bawb a diolch i’r staff am eu gwaith caled yn paratoi.

Lluniau Sioeau Nadolig 2024!


Grwp Mentergarwch

Llwyddodd gwerthu’r calendrau godi £219 – llongyfarchiadau i’r grwp mentergarwch am eu menter!


Sialens Ffitrwydd dosbarth melyn a gwyrdd

Llongyfarchiadau i blant y dosbarth gwyrdd a melyn ar gwblhau y sialens ffitrwydd ddiwedd Tachwedd gan godi £328 tuag at ymweliadau addysgol. Diolch am eich cefnogaeth.


Newyddion Tachwedd 2024

 

Cyngerdd Ein Dolig Ni: Rhagfyr 16

Dewch i fwynhau cyngerdd yn yr ysgol yng nghwmni’r Moniars, Guto ac Ynyr, Beca a chôr Ysgol Henblas. Arweinydd y noson yw Edward Morus Jones. Bydd tocynnau ar gael yn yr ysgol - Oedolion £6 a phlant £2. Bydd gwin poeth a mins pei ar gael! Elw at apel Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2026.


Diwrnod gyrfaoedd

dosbarth oren yn dysgu am wahanol swyddi a pha sgiliau sydd eu hangen i wneud swyddi gwahanol.

Cafodd y dosbarth oren brynhawn diddorol dros ben yn dysgu am wahanol swyddi a pha sgiliau sydd eu hangen i wneud swyddi gwahanol. Mae nifer o blant wedi cael eu hysbrydoli.

Gwyliwch fideo lluniau yma ar Facebook

Lluniau Diwrnod Gyrfaoedd Y Dosbarth Oren Rhagfyr 2024

 


Cartref Rhos

Cafodd plant y dosbarth gwyrdd bnawn bendigedig wrth ymweld â Chartref Rhos. Buont yn gwylio sioe hud a lledrith Kariad (sioe am wir ystyr y Nadolig) ac yna roedd cyfle i ganu a chymdeithasu gyda thrigolion Cartref Rhos. Diolch i menter Môn am drefnu ac i Ann a holl staff Cartref Rhos am y croeso cynnes a’r anrhegion

Gwyliwch fideo lluniau yma ar Facebook


Peldroed 5 bob ochr

tim peldroed y ysgol Peldroed 5 bob ochr

Pencampwyr twrnament peldroed 5 bob ochr ysgolion llai Ynys Môn 2024 yw Ysgol Henblas. Diolch i Môn Actif am drefnu. Fe wnaeth y sgwad chwarae a cyd chwarae yn ardderchog!


Llysgenhadon ifanc efydd 2024

Ngholeg Menai wrth dderbyn hyfforddiant llysgenhadon ifanc efydd 2024

Cafodd 4 o ddisgyblion hynaf yr ysgol fwynhad yng Ngholeg Menai wrth dderbyn hyfforddiant llysgenhadon ifanc efydd 2024. Diolch i MonActif.


Sialens ffitrwydd

plant yn y iard ty allan gyd gyda breichiau nhw fyny

Fe wnaeth holl ddisgyblion y dysgu sylfarn fwynhau cynryd rhan yn y Sialens Ffitrwydd Lliwgar gan fwynhau symud a chadw'n iach! Llwyddwyd i gasglu £203 wrth noddi'r plant i gwblhau'r sialens. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio tuag at ymweliadau addysgol yn y flwyddyn newydd.


Ffair Nadolig

Cafwyd Ffair Nadolig arbennig iawn. Diolch i bawb am helpu mewn cymaint o ffyrdd gwahanol a gobeithio fod y plant wedi mwynhau gweld Sion Corn yn y grotto hudolus! Gwnaethpwyd elw anhygoel o £1298.


Plant Mewn Angen

Diolch i gymuned yr ysgol am godi £143.50 tuag at apel Plant Mewn Angen 2024.


Athletau dan do

Plant yn sefyll yn erbyn wall gyda breichiau fyny yn tynnu llun

Roedd y tîm athletau yn hapus iawn ar ol dod yn gyntaf yng nghystadleuaeth athletau dan do Cylch Ysgolion Llangefni! Da iawn bawb!


Cydymdeimlo

Ym mis Tachwedd 2023 daeth Huw Roberts i Ysgol Henblas i roi sesiwn arbennig iawn i blant y dosbarth oren. Bu’n dangos offerynnau traddodiadol Cymru ac roedd y plant wedi ymgolli wrth wrando arno yn perfformio alawon traddodiadol. Bu Huw yn Ysgol Henblas nifer o weithiau ac roedd bob tro yn llwyddo i ddal sylw pob plentyn. Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â Bethan ei wraig a’i blant Sion a Megan.


Môn ar Lwy

hogyn a hogan wrth ymul bocs tubiau Môn ar Lwy

Diolch i Helen Holland o Môn ar Lwy am ddod i’r ysgol i siarad gyda’r disgyblion hynaf am sut aeth ati i greu busnes mor llwyddiannus. Diddorol oedd clywed am y broses o greu hufen ia a sut i farchnata. Ac uchafbwynt y pnawn i’r disgyblion oedd blasu’r hufen ia bendigedig. Diolch i Helen am ei charedigrwydd unwaith eto!


Teams4U

Plant yn sefyll wrth ymul bocsus doli.

Diolch i bawb am gefnogi drwy roi anrhegion mewn bocs.


Disgo Calan Gaeaf

Roedd llond neuadd o gymeriadau arswydus yn Ysgol Henblas ar gyfer disgo Calan Gaeaf ddiwedd Hydref. Diolch i bawb am gefnogi ac i'r tîm gwych fu mor brysur yn trefnu noson mor dda a hwyliog. Codwyd £600 gan y Gymdeithas Rhieni Athrawon.


Newyddion Hydref 2024

 

 

Creu Podlediad

tim peldroed y ysgol

Cafodd disgyblion y dosbarth glas fore cyffrous yn creu podlediad gyda Marc Griffiths. Mae Marc yn adnabyddus fel cyflwynydd ar Radio Cymru ac roedd y disgyblion wedi elwa yn fawr o dderbyn ei gyngor wrth gyflwyno a chreu podlediad.

Mae’r podlediad yn rhoi ffocws ar iechyd a ffitrwydd a’r arwyr o fyd chwaraeon sydd yn ysbrydoli’r disgyblion.

Lluniau o'r gweithdy podlediad


Disgo Calan Gaeaf

Plant wedi gwysgo fyny i disgo calan gaeaf

Roedd llond neuadd o gymeriadau arswydus yn Ysgol Henblas ar gyfer disgo Calan Gaeaf. Diolch i bawb am gefnogi ac i'r tim gwych fu mor brysur yn trefnu noson mor dda a hwyliog. Codwyd £600 gan y Gymdeithas Rhieni Athrawon. https://flic.kr/s/aHBqjBPrpz


Entrepreneuriaid

Bydd entrepreneuriaid brwdfrydig Ysgol Henblas yn creu nwyddau cyn hir. Mae Mr Tony Pritchard, sy’n ddyn busnes lleol, wedi bod yn garedig iawn yn cyflwyno amrywiaeth o offer argraffu ac argraffydd gwres proffesiynol. Wedi’i brynu gan Nova Chrome, busnes teuluol sydd wedi’i leoli ym Mona a chanddo dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant anrhegion wedi eu personoli – bydd yr offer hwn yn galluogi’r disgyblion i greu cwpanau, torch allwedd, magnetau oergell a matiau diod wedi eu personoli er mwyn gallu casglu arian ar gyfer yr ysgol. Mae Mr Pritchard wedi bod yn gyfaill i’r ysgol ers nifer o flynyddoedd. Ymwelodd y llynedd er mwyn siarad â’r plant am yr hen Ysgol Henblas a dangos lluniau iddynt am y ffordd y cafodd yr adeilad ei drawsnewid yn gartrefi a hynny fel rhan o’u gwaith dosbarth. Rydym yn hynod ddiolchgar i Mr Pritchard a Nova Chrome am eu caredigrwydd ac am y rhoddion rhagorol hyn. Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen yn arw i ddechrau ar eu menter newydd. Mae Aelodau’r Cyngor Ysgol a’i grŵp entrepreneuriaeth eisoes yn cynllunio creu nwyddau arbennig ar gyfer y Nadolig! Dangosodd Ian McDowall, Rheolwr Technegol Nova Chrome, i rai o’r plant sut i ddefnyddio eu hoffer newydd gan hefyd eu cyflwyno â mygiau, magnetau oergell a thorch allwedd wedi eu personoli. Bydd rhodd caredig arall yn gweld Nova Chrome yn ymweld â’r ysgol er mwyn darparu’r disgyblion â sesiynau hyfforddiant am ddim.

  • 281024-news-9
  • 281024-news-10
  • 281024-news-19
  • 281024-news-18
  • 281024-news-17
  • 281024-news-16
  • 281024-news-15
  • 281024-news-14
  • 281024-news-13
  • 281024-news-12
  • 281024-news-11
  • 281024-news-10
  • 281024-news-9
  • 281024-news-10
  • 281024-news-19
  • 281024-news-18
  • 281024-news-17
  • 281024-news-16
  • 281024-news-15
  • 281024-news-14
  • 281024-news-13
  • 281024-news-12
  • 281024-news-11
  • 281024-news-10

 


Peldroed yr Urdd

tim peldroed y ysgol

Chwaraeodd y tîm peldroed yn wych yn nhwrnament 7 bob ochr yr Urdd. Gweithiodd pob un yn dda fel tîm a sgoriwyd digon o goliau!


CogUrdd

Plant wedi gwysgo fyny i disgo calan gaeaf

Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd rhan yng  nghystadleuaeth CogUrdd. Gwelwyd sgiliau canolbwyntio a pharatoi campus ac roedd ansawdd y rap terfynol yn arbennig gan bob un. Llongyfarchiadau i bawb! Diolch yn fawr iawn i Mr Richard Holt am ddod draw i feirniadu'r gystadleuaeth. https://flic.kr/s/aHBqjBMqF2


Diwrnod T. Llew Jones

Roedd llond neuadd o forladron, lladron penffordd a phlant yn eu dillad lliwiau Cymru i ddathlu diwrnod yr awdur a’r bardd nodedig T.Llew Jones ar ddiwrnod ei eni sef Hydref 11eg. Cafodd plant y dobarth melyn a gwyrdd fwynhau gweld lliwiau dail yr hydref wrth fynd am dro o amgylch y pentref! Dawns y Dail a chrensian y dail o dan draed!

  • ysgol cyfan yn gwysgo coch
  • plant yn gwysgo hi-vis wrth mynd amdro
  • plant yn gwysgo hi-vis wrth mynd amdro
  • plant yn gwysgo hi-vis wrth mynd amdro
  • plant yn gwysgo hi-vis wrth mynd amdro
  • 281024-news-6
  • 281024-news-6
  • 281024-news-7
  • 281024-news-8
  • 281024-news-9

 


Gwobrau Menter Mon

Braint o’r mwyaf i ddisgyblion y dosbarth oren (2023-24) oedd derbyn gwobr Digwyddiad Cymunedol y flwyddyn yng ngwobrau Menter Môn. Clod mawr i’r plant, staff, rhieni, a Mrs Heather Williams a Mrs Sioned McGuigan yn benodol ar drefnu Hwyl Henblas - Gig gyda’n gilydd.  Digwyddiad fydd yn aros yn y cof am byth! Diolch yn fawr iawn i Balchder Bro am y grant tuag at y noson. Dyma'r clip bendigedig gafodd ei ddangos yn y seremoni wobrwyo. Arbennig iawn. https://youtu.be/b-P2S7Gq9YI?si=kxRfF5lvOYCMh85H

  • plant yn sefyll tu allan ir ysgol yn gafael mewn crys-t oren
  • gwobr menter mn
  • athrawes yn gafael yn y tlws
  • athrawes ar lwyfan yn gael y tlws
  • 281024-news-3
  • 281024-news-4
  • 281024-news-5
  • 281024-news-2

 


Amgueddfa siocled a Jade Village

plant yn eistedd o amgylch y bwrdd y jade village

Cafodd plant y dosbarth glas ddiwrnod da yn amgueddfa siocled Llandudno a bwyty Tsieineaidd/Cantonese Jade Village, Porthaethwy. Buont yn dysgu am hanes siocled, creu loli siocled a blasu gwledd o fwyd yn y bwyty! Doedd dim noodles na reis ar ol! https://flic.kr/s/aHBqjBN96R


Legoland

Plant dosbarth yn legoland

Cafodd y dosbarth oren ddiwrnod arbennig yn Legoland Discovery Centre Manceinion heddiw. Dyma lle oedd y plant wedi gofyn i gael mynd ar daith i gyd-fynd gyda'r thema 'Blociau Bywyd'. Diwrnod llawn cydweithio, adeiladu, chwarae, hwyl a chwerthin. https://flic.kr/s/aHBqjBNr1h


Diolchgarwch

Roedd llond y neuadd yn gwylio ein cyflwyniadau Diolchgarwch eleni. Roedd negeseuon gwerthfawr o ddiolch yn cael eu rhannu - diolch am fod yn ddiogel arlein, diolch am fyd o liwiau, a diolch am ser byd chwaraeon sydd yn ysbrydoli.

Diolch i’r plant am ddysgu eu rhannau a’r caneuon mor arbennig. Codwyd £326.18 tuag at Banc Bwyd Ynys Mon.


Y dosbarth oren yn mapio!

Plant dosbarth oren yn mapio

Cafodd y dosbarth oren brynhawn difyr iawn ar draeth Niwbwrch yn cymryd rhan ym mhrosiect Lle Llais. Roedd nifer o weithgareddau wedi cael eu darparu ar gyfer y plant ac fe wnaethon nhw fwynhau defnyddio eu synhwyrau a rhannu eu syniadau er mwyn cefnogi ymchwil.


Nionod yr ardd!

Diolch i bawb brynodd nionod a phlanhigion tŷ wythnos diwethaf. Cafodd yr arian ei wario ar fylbiau sydd eisoes wedi cael eu plannu!


Wythnos seiclo i’r ysgol

Braf oedd gweld cymaint o feics a sgwteri tu allan i’r ysgol. Diolch i chi am gefnogi wythnos seiclo / sgwter / cerdded i’r ysgol!


Beth sy’n coginio?!

Plant gyda Rhian Cadwaladr

Un o syniadau’r plant oedd gwahodd Rhian Cadwaladr i goginio a siarad am ysgrifennu llyfrau coginio. A dyna ddigwyddodd! Bu’r plant yn coginio teisennau Berffro, creu llyfr ryseitiau a dysgu am y broses o ysgrifennu llyfr ryseitiau! Diolch yn fawr i Rhian unwaith eto!


Ffenestr lliw

Plant gyda Claire yn sefyll o falen ffenestr lliw

Diolch o galon i Claire am gydweithio gyda disgyblion y dosbarth gwyrdd (2023-24) ar greu ffenest liw arbennig. Cafodd y dosbarth eu hysbrydoli ar ol gweld ffenest liw yng Nghastell Biwmares y llynedd a bu Claire a’r disgyblion yn datblygu eu syniadau ar y cyd. Mae’r ffenset derfynol yn hollol wych ac unigryw. Rydym mor lwcus o gael ffrind mor dda i’r ysgol.


Diolch Mike!

Plant gyda Milke Coyne

Am gyfnod o bum mlynedd bu Mike Coyne yn hyfforddi rygbi yn Ysgol Henblas. Heddiw cawsom gyfle o’r diwedd i ddiolch i Mike am ei holl amser er budd plant Ysgol Henblas. Diolch iddo am ysbrydoli chwaraewyr y dyfodol!


Taith Lliwgar

Plant Blwyddyn Meithrin 0, 1 a 2 yn mwynhau eu themau lliwiau

Mae’r dosbarth melyn a gwyrdd (bl meithrin, 0,1 a 2) wedi bod yn mwynhau eu themâu ‘lliwiau’ hyd yn hyn. Aethont ar daith gerdded o amgylch y pentref i ddarganfod lliwiau byd natur. Llwyddodd y plant ddarganfod murlun o liwiau a’u didoli ar ol cyrraedd yn ol i’r dosbarthiadau wedi eu taith. Braf oedd cael archwilio a myfyrio ar liwiau yn yr awyr agored wrth fwynhau haul mis Medi.

Tymor yr Haf 2024

Twrnament rygbi tag Ynys Mon

Tim Cymysgedd Ysgol Henblas yn Twrnament Rygbi Tag Ynys Mon

Cafodd y ddau dîm rygbi tag lwyddiant yn nhwrnament Ynys Môn. Roedd y tîm blwyddyn 3 a 4 yn ail mewn gem agos yn y ffeinal a thîm blwyddyn 5 a 6 wedi colli yn y rownd gynderfynol. Cafwyd ymdrech wych gan bawb. Diolch yn fawr i Chris a Sioned am eu hyfforddi mor dda!


Llangrannog

Plant yn Llangrannog

Cafodd disgyblion y Dosbarth glas dri diwrnod bythgofiadwy yn Llangrannog yn gwneud llawer o weithgareddau gan gynnwys sgio, gwibgartio, nofio, saethyddiaeth, a thaith i draeth Llangrannog! Cliciwch yma i weld y lluniau


Technocamps

Plant yn gwysgo sbectol haul

Cafodd disgyblion blwyddyn 4 ddiwrnod gwych yng nghystadleuaeth Roboteg Technocamps yng Nghanolfan Fusnes Conwy! Roeddent wedi creu robot eu hunain gan gyflwyno yn fedrus o flaen cynulleidfa.


Hwyl Henblas - Gig Gyda’n Gilydd

Plant yn gwylio Bwncath

Does dim geiriau i ddisgrifio y gig fawr gafwyd ddechrau mis Gorffennaf ar gae Ysgol Henblas. Diolch o galon i blant y dosbarth oren a Mrs Heather Williams a Mrs Sioned McGuigan am roi oriau o waith i drefnu digwyddiad bythgofiadwy gydag artistiaid a bandiau campus sef Bwncath, Rhwydwaith, y Brodyr Magee, Moniars ac Elin Fflur.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Fideo o'r Gig
Eitem Newyddion S4C


Peldroed 7 bob ochr

Tim cymysgedd 7 pob ochr Ysgol Henblas

Llongyfarchiadau mawr i dîm 7 bob ochr Ysgol Henblas. Nhw yw pencampwyr tlws Ieuan Wyn Jones 2024. Diolch yn fawr iawn iawn i Barry Edwards am hyfforddi’r plant. Plant lwcus iawn. Cliciwch yma i weld y lluniau


Egni

Plant yn cymryd rha mewn cystadleuaeth Egni

Llongyfarchiadau i’r pum disgybl fu’n cynrychioli’r ysgol yn rownd derfynol cystadleuaeth Egni yn Ty Gwyrddfai, Penygroes. Y pump yma oedd wedi ennill y gystadleuaeth fewnol yn Ysgol Henblas nol ym mis Chwefror. Fe wnaethont roi cyflwyniad arbennig yn egluro sut fuasent yn gwneud pentref Llangristiolus yn bentref eco gyfeillgar.


Ffarwelio

Mae’n ddiwedd cyfnod yn Ysgol Henblas gyda chyfnod pedwar aelod staff a chadeirydd y corff llywodraethol yn dod I ben.

Mae Mrs Eleri Stephen (cadeirydd y corff llywodraethol) wedi bod yn aelod ffyddlon, doeth a rhagweithiol dros y deng mlynedd diwethaf. Diolch iddi am fod yn gadeirydd y corff llywodraethol mor arbennig.

Mae Anti Pat wedi bod yn oruchwyliwr y clwb brecwast ac amser cinio ers 8 mlynedd a’r plant ieuengaf yn arbennig wedi cael llawer o hwyl yn ei chwmni! Dymuniadau gorau iddi yn Siwgwr Plwm Henblas!

Mae Mrs Kelly Owen wedi bod yn athrawes yn Ysgol Henblas ers 2014 ac yn ei hamser yma wedi bod yn addysgu pob oedran. Ers 2019 mae wedi bod yn addysgu’r dosbarth derbyn/meithrin ac ymhlith ei chyfrifoldebau mae wedi arwain y maes digidol a’r grwp eco. Rydym yn dymuno pob hapusrwydd i Mrs Owen yn ei swydd newydd gydag Academi Cyngor Gwynedd.

Dechreuodd Mrs Susan Legge (Miss Morris) yn Ysgol Henblas ym Mis Medi 2003. Dros gyfnod o 21 mlynedd mae wedi addysgu pob blwyddyn. Yn fwy diweddar mae wedi derbyn achrediad diploma Trauma Informed Schools ac wedi cynorthwyo disgyblion o ran iechyd a lles. Mae ei chyfraniad tuag at gynnal yr wythnos iechyd a ffitrwydd blynyddol wedi bod yn werthfawr iawn ac mae’r wythnos yma yn un o uchafbwyntiau bywyd Ysgol Henblas.

Yn 2019 ddechreuodd Mrs Paula Harvey (Anti Paula) yn Ysgol Henblas fel gwirfoddolwraig darllen yn ymweld unwaith yr wythnos. Cafodd ei phenodi yn gymhorthydd dosbarth ym mis Mawrth 2020. Ers hynny mae wedi gweithio yn bennaf yn yr adran iau yn cefnogi llawer o ddisgyblion. Eleni llwyddodd i dderbyn achrediad diploma Trauma Informed Schools ac mae wedi bod yn rhan fawr o sichrau llwyddiant y gig Hwyl Henblas. Diolch i rieni am staff am eich haelioni tuag at Mrs Owen, Mrs Legge a Mrs Harvey. Aeth y casgliad tuag at daleb, blodau a’r gwaith celf hyfryd hwn gan ein aelod staff Mrs Rowena Robinson.

  • ffarwelio

Rap blwyddyn 6 Prosiect Pontio cynradd/uwchradd

Cliciwch yma i weld fideo o rap Blwyddyn 6


Uchafbwyntiau 2023/24 yn Ysgol Henblas

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur llawn profiadau! Cliciwch yma i wylio y fideo


Blwyddyn 6

Plant Blwyddyn 6 yn gafael llun

Pob dymuniad da i’r 16 disgybl sydd yn gadael i fynd i Ysgol Gyfun Llangefni. Maent yn ddisgyblion arbennig iawn a phob un yn serennu mewn meysydd gwahanol. Cliciwch yma i wylio y fideo


Hwyl Henblas Gig gyda’n gilydd

poster hwyl henblas

Bu plant y dosbarth oren yn son am y gig fawr ar blatfform Newyddion S4C y mis hwn gan son am yr holl waith paratoi. Rydym yn edrych ymlaen at weld Bwncath, Elin Fflur, Y Moniars, Rhwydwaith a’r Brodyr Magee. Mae tocynnau dal ar gael drwy gysylltu gyda hwylhenblas@gmail.com neu yrru neges destun i 07739948883.


Fideo Newyddion S4C
  • hwyl-henblas

Glanllyn

plant yn glanllyn

Cafodd criw o ddisgyblion blwyddyn 4 hwyl bendigedig yng ngwersyll yr Urdd, Glanllyn. Roeddent yn griw ardderchog a diolch i Mrs Heather Williams a Mrs Paula Harvey am eu gofal hyfryd ohonynt.

Lluniau Glanllyn

  • glanllyn

 


Teithio i gopa’r Wyddfa

plant ysgol henblas ar dop Y Wyddfa

Profiad bythgofiadwy i blant y dosbarth gwyrdd oedd teithio i gopa’r Wyddfa. Syniad ar y cyd rhwng plant a staff y dosbarth oedd hyn wrth fapio syniadau ar y thema ‘Teithio’. Roedd y plant yn awyddus i ddysgu am fynyddoedd felly doedd dim amdani ond mentro ar y tren i gopa’r Wyddfa!

 

  • snowdon

Mabolgampau 2024

Ar y trydydd cynnig (oherwydd tywydd gwael haf 2024!!) cafwyd diwrnod da ym mabolgampau’r ysgol a llongyfarchiadau i dim Seiriol am ennill y dydd!

Lluniau Mabolgampau 2024

 


Prosiect Pontio cynradd uwchradd

Diolch eto y flwyddyn yma i Rhian Cadwaladr am ddod i weithio gyda disgyblion blwyddyn 6 i greu ffilm fer yn cyfeirio at argraffiadau y plant o’r ardal leol. Fe lwyddwyd i greu rap gyffrous ac roedd creu y fideo yn brofiad hwyliog iawn!

Fideo y Prosiect


India

Cafodd disgyblion y dosbarth glas sesiwn bendigedig yn siarad gyda ffrindiau yn Ysgol Solan (Solan Public School) yn yr Himalayas yn India. Cafwyd sesiwn ioga oedd yn fodd arbennig o ddechrau diwrnod newydd yn yr ysgol! Yna buont yn canu caneuon ac yn holi eu ffrindiau am chwaraeon yn India. Roedd yn sesiwn hyfryd iawn.
Lluniau India

 


Osian Perrin - athletwr o fri!

plant gyda osian

Diolch i Osian Perrin am siarad gyda’r dosbarth glas am ei yrfa yn rhedeg. Fe wnaeth Osian, sydd yn gyn ddisgybl yn Ysgol Henblas, sôn am ei lwyddiannau yn lleol a rhyngwladol. Mae’n sicr wedi ysbrydoli disgyblion y dosbarth glas!

 

  • osian

 


Swim Safe 2024

plant mewn gwisg nofio ar lan y mor

Diolch i Môn Actif am ddiwrnod gwych a phrofiad gwerthfawr o ddiogelwch y mor. Fel y dywedodd un o’r plant - “dyna oedd diwrnod i’w gofio!” Roedd y plant yn arbennig drwy’r dydd a staff Môn Actif mor barod i helpu a’u hybu wrth badlfyrddio a syrffio ger traeth Bae Trearddur.

Lluniau Swim Safe 2024

  • treaddur-bay

 


Cyngerdd dathlu Rhian Khardani

poster cyngerdd dathlu

Fe wnaeth cor yr ysgol ganu yng nghygerdd dathlu bywyd Rhian Khardani ar y cyd gyda chor Adlais a gwesteion eraill. Braint oedd cael bod yn rhan o noson oedd yn cofio am un fu mor annwyl ac a roddodd flynyddoedd o wasanaeth i Ysgol Henblas yn rhinwedd ei swydd fel clerc y corff llywodraethol.

 

  • cyngerdd

 


Peldroed i ferched

tim peldroed merched

Aeth criw o genod blwyddyn 0-3 i wyl peldroed FAW ym Mhlas Arthur a chael mwynhau datblygu sgilau pel. Pwy a wyr - efallai fod Jess Fishlock y dyfodol yn eu plith!

 

  • football

 


Gwyl griced

tim criced

Cafodd criw o blant hynaf yr ysgol ddiwrnod da yn nhwrnment criced ar gae criced Porthaethwy, wedi ei drefnu gan Criced Cymru.Da iawn bawb fu’n batio a maesu yn frwdfrydig drwy’r dydd!

 

  • cricket

 


Ras rafft Menai

Llongyfarchiadau Tîm Henblas unwaith eto ar ennill y ras rafftio rhwng Y Felinheli a Phorthaethwy! Roedd llawer o rieni plant yr ysgol ymhlith y tim dan arweiniad y capten Berwyn Girffiths!


Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024

Llongyfarchiadau mawr i Ned am ddod yn ail yn y gystadleuaeth Cogurdd blwyddyn 4,5 a 6. Tipyn o gamp o feddwl fod 18 drwy Gymru yn cystadlu! Llongyfarchiadau mawr hefyd i Sara am berfformio yr unawd cerdd dant mor arbennig a hithau hefyd yn cynrychioli Ynys Mon yn y genedlaethol.

Fideo Eisteddfod 2024

  • merch yn sefyll oflaen logo urdd
  • canlyniad yr urdd
  • myfyrwr yn gafal yn tysgysgrif ag medal
  • urdd2
  • irdd1
  • urdd

 


Ffair haf

Codwyd £1229.60 yn ein ffair haf. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a chyfraniad i bnawn ardderchog. Diolch anferthol i’r Gymdeithas Rhieni Athrawon am eu gwaith gwych. Diolch yn fawr iawn i Menter Mon am y grant Balchder Bro wnaeth sicrhau fod Alex y diddanwr o gwmni syrcas Cimera yn rhan arbennig o’r pnawn. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o rieni, teuluoedd, ffrindiau a chyn ddisgyblion. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr.

Lluniau Ffair Haf


Wythnos iechyd a ffitrwydd

Cawsom wythnos iechyd a ffitrwydd wych eto eleni ddiwedd mis Mai a’r plant yn cael profiadau ardderchog. Hoffem son yn arbennig am Claire a John am y croeso hyfryd gafodd y disgyblion hynaf; i Lois a Sion yn Cwt Llefrith yn croesawu disgyblion dosbarthiadau gwyrdd a melyn; i Barry, Amy, Iolo a Jodie o Mon Actif am baratoi sesiynau ffitrwydd; Chris am y sesiwn rygbi; Mel am y sesiwn yn Ffitrwydd Môn; Emily am y sesiwn swmba ac i Martin o Golff Hari am y sesiwn golff! Yn ogystal cafodd y disgyblion brofiad gwerthfawr o ddysgu am yr heriau sydd yn wynebu athletwyr Paralympaidd. Roedd y kebabs ffrwythau yn flasus iawn hefyd! Diolch i Kelly o Dole Foodservice Anglesey am fod mor garedig yn rhoi'r holl ffrwythau i ni.

Lluniau wythnos iechyd a ffitrwydd

 


Mini marathon Llundain

Mae’r plant wedi llwyddo codi £720 drwy redeg 2.6milltir. Diolch anferthol i bawb am eu noddi. Aeth yr arian tuag at yr wythnos iechyd a ffitrwydd a gweithgareddau lles.
Fideo Mini marathon Llundain

 


Prosiect pontio cynradd/uwchradd

Fel rhan o'r broses drosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd mae disgyblion hynaf yr ysgol wedi mwynhau gweithdai drama gyda'r actores a'r awdures Rhian Cadwaladr yn dysgu am daith yr iaith Gymraeg ar hyd y canrifoedd. Roedd gweld y disgyblion yn ymgolli yn yr hanes yn arbennig a diolch i Rhian am ei gyflwyno mewn dull mor fywiog.

Lluniau Prosiect pontio cynradd/uwchradd


Hwyl Henblas Gig Gyda’n Gilyddposter hwyl henblas

I gyd-fynd gyda’r thema 'Bandiau Enwog' mae'r dosbarth oren wrthi'n brysur yn trefnu gig. Rydym wedi bod yn ffodus iawn o dderbyn grant Balchder Bro Môn gan Menter Iaith Môn ac rydym yn falch o gyhoeddi bydd gig Hwyl Henblas- Gig Gyda'n Gilydd yn cymryd lle ar ddydd Mercher, Gorffennaf 10fed. Gellir prynu tocynnau drwy gysylltu gyda'r rhif ffôn neu e-bost ar y poster.

07739 948883

hwylhenblas@gmail.com


Cyngor ecoplan mewn gardd gyda rhaw

Mae’r  cyngor eco dan arweiniad Mrs Kelly Owen wedi bod yn llwyddiannus yn cael grant er mwyn creu gardd bywyd gwyllt yn yr ysgol – gyda diolch i  Cadw Cymru'n Daclus.  Mae'r grant wedi ein galluogi i godi pedwar gwely uchel yn llawn planhigion i ddenu bywyd gwyllt i'r ysgol.  Hoffem ddiolch i Gareth Owen o Cadw Cymru'n Daclus a'r rhieni am ddod draw i'n helpu wrth eu gosod.


Twrnament rygbi tag ysgolion Llangefniplant mewn dillad rygbi ar y cae

Aeth 4 tîm rygbi tag o flynyddoedd 3,4,5 a 6 i dwrnament dalgylch ysgolion Llangefni. Cafwyd diwrnod da iawn a phawb yn chwarae yn fendigedig. Llongyfarchiadau i dîm blwyddyn 3 a 4 ar ennill eu categori ac i dîm blwyddyn 5 a 6 ar ddod yn ail. Diolch unwaith eto i Chris a Sioned am hyfforddi!

 


Rygbi tag cenedlaethol, yr Urddtim rygbi ysgol henblas

Chwaraeodd y tîm rygbi tag blwyddyn 3 a 4 yn wych yn erbyn timau o ogledd a de Cymru yn nhwrnament cenedlaethol yr Urdd. Curo 1, dwy gem gyfartal a cholli 1. Cyd chwarae arbennig fel tîm a phob un yn rhoi ei orau hyd chwiban terfynol y gem olaf. Diolch o galon i Chris a Sioned am eu paratoi mor dda.


Celf a Chrefft Urdd Ynys Mondarn o celf melin

Llongyfarchiadau mawr i'r dosbarth gwyrdd am gael 1af yn Eisteddfod Celf, Dylunio a Thechnoleg rhanbarth Ynys Môn gyda eu gwaith model 3D ar y thema Egni.


Gala nofio Ynys Mon

Aeth 9 o’r sgwad nofio i gala nofio ysgolion Ynys Mon. Llwyddodd 5 gyrraedd y tri uchaf yn eu rasus a llongyfarchiadau i bob un ohonynt am berfformio yn wych mewn cystadlaethau o safon uchel.

 


Ffair Haf

Cynhelir Ffair Haf Ysgol Henblas dydd Iau Mai 23ain rhwng 3:15 a 5:30pm Bydd stondinau lu, adloniant i bob oed a phaned a chacen ar gael. Croeso cynnes i bawb o’r gym

uned. Rhannwch y neges os gwelwch yn dda!


Tri o blant yn sefyll yn gafael llyfr o'r enw "Dyma Fi"

Rhodd llyfrau "Dyma Fi"

Diolch o galon i’r awdures Ann Aldred am ei rhodd caredig o’i llyfr ‘Dyma Fi’ i ddisgyblion yr ysgol. Dyma stori gyffrous sydd wedi cydio yn nychymyg darllenwyr ifanc Ysgol Henblas!


 

Patagonia - Rhian Lloyd

Heddiw bu disgyblion y dosbarth glas yn dysgu am hoff chwaraeon plant Ysgol Y Cwm, Trevelin yn Patagonia - gyda llawer o ddiolch i Rhian Lloyd am y cyswllt arbennig. Roedd clywed plant y dosbarth glas yn gweiddi enw Messi wedi plesio eu ffrindiau yn fawr. Profiad arbennig iawn!


Disgyblion yn y dosbarth yn cael galwad fideo.4 o blant yn sefyll tu allan yn yr haul gyda cylchgrawn.

Cylchgrawn WCW

Hyfryd oedd darllen cylchgrawn WCW mis yma a gweld gwaith rhai o’r disgyblion wedi ei gyhoeddi ynddo yn dilyn gweithdy gyda Sion Tomos Owen, artist a chartwnydd WCW. Da iawn chi!


Plant yn cymryd rhan mewn sesiwn ffitrwydd yn gampfa yr ysgol

Sesiwn ffitrwydd

Sesiwn ffitrwydd - dysgu am fyd chwaraeon proffesiynol:
Cafodd disgyblion y dosbarth glas sesiwn gwych gydag Amy Edwards o Athletau Cymru yn dysgu am fanteision cadw'n iach, effaith ymarfer ar y corff, a pharatoadau athletwr proffesiynol at gystadleuaeth. Yn ogystal, cawsont sesiwn ffitrwydd lle bu pob disgybl yn gweithio'n egniol dros ben. Diolch o galon i Amy am sesiwn diddorol dros ben.


Awstralia - Gwyneth a Ned

Roedd yn gret siarad gyda Ned a Gwyneth o ben draw'r byd yn Awstralia. Cafodd eu ffrindiau yn y dosbarth gwyrdd a glas ofyn cwestiynau iddynt am Awstralia gan ddysgu llawer a chlywed hanesion am y bwydydd, y tywydd braf a phoeth, Doler Awstralia a'r koala a'r cangarw. Ac oedd - roeddent wedi cael ychydig o law yn Awstralia hyd yn oed!


Tim rygbi yn cael tynnu llun yn ei kit yn gwisgo "gum shield"

Twrnament rygbi tacl yr Urdd

Cafwyd diwrnod da yn nhwrnament rygbi taclo blwyddyn 5/6 Ynys Môn yr Urdd heddiw. Fe weithiodd y sgwad yn galed iawn a diolch i Chris am roi cymaint o’i amser gwirfoddol i’w paratoi.


Grwp Traws gwlad yn cael llun grwp tu allan ar y cae.

Traws gwlad

Llongyfarchiadau i’r 17 o Ysgol Henblas oedd wedi llwyddo cyrraedd rownd derfynol traws gwlad ysgolion cyntadd Ynys Môn heddiw. Rhedodd pob un yn gampus mewn rasus o safon uchel. Llongyfarchiadau i Morgan ar ddod yn drydydd yn ras bechgyn blwyddyn 5 a 6. Ardderchog!

   

 

 

Bachgen yn gafael tlws yn sefyll ar y cae

5 plentyn yn gafael mewn racedi.

Sesiwn sboncen

Cafodd disgyblion y dosbarthiadau gwyrdd, oren a glas sesiwn sboncen gyda Shaun o Sboncen Cymru. Mae clwb sboncen ar gael am ddim i’r plant yn Plas Arthur,Llangefni bob nos Fawrth rhwng 5-6 yh

Tymor y Gwanwyn 2024

Plant yr ysgol wedi derbyn gradd prifysgol y plant yn Pontio, Bangor

Graddio Prifysgol Plant

Llongyfarchiadau i blant hynaf yr ysgol ar dderbyn gradd Prifysgol y Plant mewn seremoni hyfryd yn Pontio, Bangor. Gwych iawn!
Cliciwch yma i weld y lluniau


Traws gwlad ysgolion dalgylch Cefni

Fe wnaeth bron i 50 gymryd rhan yn ras traws gwlad ysgolion dalgylch Llangefni. Da iawn bawb. Llongyfarchiadau i Heidi a Morgan am ddod yn gyntaf yn eu categoriau, Cadi am gael yr ail safle a Macsen yn drydydd.


Eisteddfod yr Urdd

Llongyfarchiadau i bob un fu’n cystadlu yn eisteddfod rhanbarth yr Urdd. Fe wnaeth pob plentyn berfformio yn arbennig. Pob dymuniad da i Sara fydd yn mynd drwodd ar yr unawd cerdd dant yn y genedlaethol ddiwedd Mai! Llongyfarchiadau hefyd i Carwen am dderbyn y drydedd wobr yn yr unawd cerdd dant ac i Begw ar gael y drydedd wobr ar yr unawd!


Darganfod dawns

Cafodd y dosbarth glas bnawn da yn gwylio sioe ddawns rhyngweithiol ‘Darganfod Dawns’ gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn theatr Galeri Caernarfon. Roedd yn wych gweld cymaint o’r disgyblion yn ymuno gyda’r dawnswyr proffesiynol ar y llwyfan!


Pontydd

Diolch i Elystan ac Osian o YGC (Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy) am roi sesiwn diddorol dros ben i'r disgyblion hynaf am strwythurau pontydd.


Plant yn gwysgo i fynu fel cymeriadau o wahanol llyfrau

Diwrnod y llyfr 2024!

Ar ddiwrnod y llyfr 2024 roedd llond yr ysgol o gymeriadau diddorol a chyffro wrth gyfnewid llyfrau. Diolch i'r grwp eco am drefnu!


Tim rygbi blwyddyn 3 a 4 yr ysgol

Twrnament rygbi tag Urdd Ynys Mon

Cafwyd diwrnod da yn nhwrnament rygbi tag yr Urdd Ynys Mon ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4, a genethod blynyddoedd 5 a 6. Pob un wedi chwarae yn wych - a diolch anferthol i Chris am eu hyfforddi! Tîm glas blwyddyn 3 a 4 wnaeth ennill y twrnament ac felly byddant yn cynrychioli Ynys Mon yn y twrnament cenedlaethol mis Mai yn Aberystwyth!


Plant yn Sw Bae Colwyn yn dysgu amdan anifeiliaid

Sw Bae Colwyn

Cafodd y dosbarth melyn a gwyrdd ddiwrnod gwerth chweil yn Sŵ Bae Colwyn yn dysgu am anifeiliaid a‘u cynefinoedd.


Plant yr ysgol yn gwysgo crysau chwaraeon newydd gan Banc Gweledig Henblas a Cwt Llefrrith

Crysau chwaraeon newydd

Diolch o galon i Barc Gwledig Henblas a Cwt Llefrith am eu rhodd hael a charedig o grysau chwaraeon newydd i Ysgol Henblas. Mae’r crysau yn fendigedig ac o answadd gwych. Diolch i Mathew a Heather Barrett (Parc Gwledig Henblas), a Sion a Lois Roberts (Cwt Llefrith). Diolch hefyd i Sioned McGuigan am drefnu’r cyswllt hwn.


Genod yr ysgol yn cymryd rhan mewn gwyl pel droed yn Llangefni

Twrnament Peldroed

Da iawn i’r criw o genod fu’n cynrychioli’r ysgol yng ngŵyl bel droed ‘Primary 5’s’ Ynys Môn ym Mhlas Arthur Llangefni. Gwelwyd chwarae a chyd weithio ar ei orau a phawb yn smart iawn yn y crysau newydd.


Plant yr ysgol wedi codi £496.50 ar gyfer Dydd Gwyl Dewi

Dydd Gwyl Dewi

Llongyfarchiadau mawr i holl blant yr ysgol - y plant ieuengaf wedi dysgu deg hwiangerdd, a’r plant hynaf wedi dysgu deg englyn ar y cof ar gyfer barddoniaeth noddedig. Diolch i Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Mon am ddod i wrando ar eu camp a diolch i’r plant, rhieni a ffrindiau’r ysgol am lwyddo i godi £496.50 at gronfa’r ysgol.


Plant yr ysgol wedi codi £496.50 ar gyfer Dydd Gwyl Dewi

Arddangosfa T.G. Walker gan y dosbarth oren yn Oriel Môn

Bu’r dosbarth oren yn ffodus iawn o gael benthyg llawer iawn o waith cyn bennaeth Ysgol Henblas, T.G. Walker gan Daid Ella sef Mr Cledwyn Hughes. Rydym wedi bod yn cydweithio gydag Oriel Môn er mwyn arddangos y gwaith yma ac arteffactau eraill. Mae’r disgyblion wedi bod wrthi yn brysur yn ymchwilio i’r maes ymhellach er mwyn creu labeli gwybodaeth i’r Oriel ddefnyddio yn yr arddangosfa. Diolch yn fawr iawn i Mr Cledwyn Hughes. Mae’r arddangosfa wedi agor dydd Gwener, Mawrth 22ain, gyda’r gobaith y bydd yno tan yr haf. Gobeithio yn arw y cewch chi gyfle i fynd yno!
Cliciwch yma i weld y lluniau


Drymio Samba

Mwynhaodd disgyblion y dosbarth oren sesiwn drymio samba gyda Colin Diamond fel rhan o gynllun ‘Profiadau Cyntaf Cerdd’. Roedd yn fore llawn cyffro a synau rhythmau cryf yn treiddio drwy’r ysgol fel petaen ni i gyd ar strydoedd Rio!


Plant wedi ymweld a Eglwys Sant Cristiolus fel rhan o thema Hanes Henblas

Eglwys Sant Cristiolus

Cafodd y dosbarth oren ymweld ag Eglwys Sant Cristiolus fel rhan o’r thema 'Hanes Henblas'. Dysgodd y disgyblion lawer iawn am hanes yr eglwys gan Y Parchedig Emlyn Williams a diolch iddo am roi ei amser unwaith eto.


Barddoniaeth noddedig

Llongyfarchiadau mawr i holl blant yr ysgol - y plant ieuengaf wedi dysgu deg hwiangerdd, a’r plant hynaf wedi dysgu deg englyn ar y cof ar gyfer barddoniaeth noddedig. Diolch i Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Mon am ddod i wrando ar eu camp a diolch i’r plant, rhieni a ffrindiau’r ysgol am lwyddo i godi swm arbennig o £496.50 hyd yma at gronfa’r ysgol.

Dyma glipiau fideo o’r disgyblion yn llefaru

Dosbarth oren a glas

Blwyddyn 0,1 a 2:

Dosbarth gwyrdd a melyn:

Tymor yr Hydref 2023/24

Newyddion diweddaraf Ysgol Henblas Ionawr 2024

 

Technocamps

Technocamps

Fe wnaeth y dosbarth oren fwynhau sesiwn gyda Lois o Technocamps lle buom yn dysgu sut i raglennu Microbit. Yn dilyn y sesiwn aethom ymlaen i raglennu Microbit er mwyn creu synhwyrydd lleithder pridd i'w ddefnyddio yng ngardd yr ysgol.


Hanes Yr Ysgol

Hanes Henblas

Mae'r dosbarth oren yn dysgu am hanes Ysgol Henblas a phentref Llangristiolus. Cawsom ymweliad gwerth chweil i Oriel Môn lle buom yn dysgu am TG Walker (gyn bennaeth yr ysgol) a Charles Tunnicliffe. Cawsom hefyd fynd am dro i weld safle hen Ysgol Henblas. Rydym wedi bod yn ffodus iawn o gael benthyg llawer o waith TG Walker gan Daid Ella, ac rydym yn brysur iawn yn paratoi arddangosfa gyda'r gwaith.



Newyddion diweddaraf Ysgol Henblas Rhagfyr 2023

 

ras

Ras noddedig Sion Corn

Ar ddiwedd y tymor bu plant heini Ysgol Henblas yn cymryd rhan yn y ras noddedig Sion Corn bore 'ma. Da iawn pawb am roi ymdrech arbennig a diolch i bawb am gefnogi gan lwyddo i godi £933.00.


ras

Ras noddedig Sion Corn

Ar ddiwedd y tymor bu plant heini Ysgol Henblas yn cymryd rhan yn y ras noddedig Sion Corn bore 'ma. Da iawn pawb am roi ymdrech arbennig a diolch i bawb am gefnogi gan lwyddo i godi £933.00.


miss erin owen

Erin Owen

Diolch yn fawr iawn i Miss Erin Owen am ei gwaith gwych yn addysgu’r dosbarth melyn. Mae wedi rhoi profiadau arbennig i’r plant gan sichrau safonau uchel. Yn ogystal mae wedi arwain ar ymgyrch teithio llesol i’r ysgol, blaenoriaeth addysgeg, a hithau oedd yn gyfrifol bod Ysgol Henblas wedi derbyn £1000 o ganlyniad i’r gymuned yn rhoi tocynnau yn Tescos tuag at sichrau datblygiad yn y ddarpariaeth garddio. Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda Miss Owen a’i chael yn aelod mor gydwybodol o staff Ysgol Henblas. Dymunwn bob llwyddiant iddi i’r dyfodol ac edrychwn ymlaen i’w chroesawu yn ol i Ysgol Henblas fel athrawes lanw.

 


miss lois jones

Gwasanaethau Nadolig

Bu cor yr ysgol yn cymryd rhan mewn nifer o wasanaethau Nadolig. Braint oedd cael bod yn rhan o noson hyfryd clwb Rotari Llangefni yn Eglwys Sant Cyngar er budd Hosbis Dewi Sant. Canodd y côr yn fendigedig. Fe ganodd y parti bach yma yn fendigedig yng ngwasanaeth Carolau Eglwys Pisgah, Rhostrehwfa. Diolch hefyd i’r criw fu’n canu yn noson carolau’r Urdd cylch Cefni. Cafwyd perfformiadau hyfryd bob tro.

 

Miss Lois Jones - myfyrwraig

Diolch o galon i Miss Lois Jones am roi profiadau arbennig i blant y dosbarth oren dros y deufis diwethaf. Pob dymuniad da i'r dyfodol Miss Jones a gweddill y cwrs yn hyfforddi i fod yn athrawes.

grwp menter

Cinio Nadolig 2023

Diolch i Anti Sian ac Anti Tracy am ginio Nadolig rhagorol 2023!.
https://flic.kr/s/aHBqjB7zmX

Sioeau Nadolig

Dros ddau ddiwrnod, perfformiodd 94 o blant yr ysgol bedair sioe! Rhaid rhoi clod mawr i bob un ohonynt am yr actio, y canu a’r holl hwyl gafwyd nid yn unig wrth ymarfer ond wrth gyflwyno’r sioeau terfynol. Llwyddodd y gwerthiant tocynnau godi £767.50 tuag at gronfa’r ysgol.
https://flic.kr/s/aHBqjB6ME8

Diwrnod siwmper Nadolig

Diolch i’r plant am godi £108.50 tuag at elusen Achub y Plant.

Grwp mentergarwch

Mae'r grŵp Mentergarwch wedi bod yn brysur yn creu calendr 2024. Gwerthwyd llawer iawn o galendrau gan godi £190

 


adfent

Calendr Adfent o chwith

Casglwyd llawer iawn o nwyddau ar gyfer ymgyrch Calendr Adfent unwaith eto eleni.  Dyma ymgyrch arbennig iawn sydd yn cefnogi’r banc bwyd. Diolch o galon i bawb am gefnogi.

 


llun collage

Clwb yr Urdd

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawn sydd yn rhoi eu hamser i ddarparu profiadau arbennig i’n plant. Diolch i Barry am y sesiynau peldroed, i Kirsty am y sesiynau Ffrangeg, i Chris a Mike am y sesiynau rygbi ac i Mrs Williams am y clwb Urdd.
Me wedi bod yn dymor prysur iawn yng nghlwb yr Urdd.
Diolch yn fawr iawn i Ffrindiau Mon am y grant ar gyfer cynnal y sesiynau tymor yma.
⭐️ Celf a chrefft
⭐️ Cystadleuaeth CogUrdd gyda Mr Richard Holt Melin Llynon Mr Holt’s Mônuts
⭐️ Cerfio pwmpenni
⭐️ Sesiwn drymio gydag OsianUrdd Ynys Môn
⭐️ Sesiwn "beat boxing" gyda Ed Holden Mr Phormula
⭐️ Sesiwn gemau gyda Mari
⭐️ Noson bingo

 


tim pel droed

Cartref Rhos

Aeth criw o flwyddyn 6 i gartref Rhos, Malltraeth i ddiddanu trigolion y cartref ar ddiwrnod olaf y tymor. “Rydach chi wedi gwneud fy Nadolig i…” oedd ymateb un o’r preswylwyr. Diolch am y fraint o gael mynd yno a chael cynulleidfa hyfryd dros ben.

 

Peldroed 5 bob ochr

Cafwyd perfformiadau gwych gan y sgwad peldroed yn nhwrnament 5 bob ochr dalgylch Llangefni. Da iawn bawb a diolch unwaith eto i Barry am eu hyfforddi i gystal safon.

 

 


christingle

Christingle

Diolch i’r Parchedig Emlyn Williams am ddod draw a’r holl adnoddau i wneud Christingle gyda’r plant!

 

 


Pili Palas

Ar ddiwrnod olaf y tymor aeth disgyblion y dosbarth gwyrdd a melyn i Pili Palas lle gwelon nhw Siôn Corn!
https://flic.kr/s/aHBqjB7Fdp

Nadolig Llawen

Dymunwn Nadolig Llawen iawn i chi gyda diolch am bob haelioni a chefnogaeth dros y tymor diwethaf. Blwyddyn newydd dda i chi yn 2024 ac edrychwn ymlaen i weld y plant yn ol ddydd Llun Ionawr 8ed.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf Ysgol Henblas Tachwedd 2023

Wythnos Diogelwch y Ffrydd Wythnos Diogelwch y Ffyrdd

Diolch i Debbie o Sustrans am gynnal gwasanaeth “Bod yn Llachar” ynglŷn â chadw’n ddiogel wrth seiclo a cherdded ar hyd y ffyrdd dros y gaeaf. Cofiwch wisgo’n llachar a lliwgar! Bu’r dosbarth Melyn yn ymarfer hyn wrth fynd am dro i ddysgu mwy am sut i fod yn ddiogel wrth gerdded ar hyd y ffyrdd a sut i groesi lôn yn ddiogel. Cofiwch: gafael llaw, stop, edrych a gwrando.


Gweithdy creigiau Gweithdy creigiau

Cafodd y dosbarth glas weithdy hynod ddiddorol yn astudio pob mathau o greigiau wedi eu darganfod ar hyd a lled y byd - rhai yn arallfydol! Yna buont yn creu ffrwydron llosgfynyddoedd yn efelychu yr hyn fuont yn astudio am ffrwydrad enwog Eyjafjallajökull yng ngwlad yr Ia yn 2010.


Plant Mewn Angen Plant mewn angen

Diolch i bawb am gefnogi Plant Mewn Angen 2023 a chodi £178 tuag elusen arbennig iawn.


Sglefrfyrddio Sglefrfyrddio

Cafodd disgyblion y dosbarth oren a glas fore llawn hwyl o sglefrfyrddio gyda Tom (o gwmni On Ya Board) yn dysgu sgiliau newydd i rai wrth reoli’r sglefrfwrdd.


Athletau dan do Athletau dan do

Rydym yn falch iawn o’r tîm athletau dan do ddaeth yn gydradd cyntaf yn nhalgylch Llangefni. Fe wnaeth pob un berfformio yn arbennig. Diolch o galon i Amy Edwards am eu hyfforddi cyn y gystadleuaeth!


Athletau dan do Teams4U

Diolch i bawb am eich cefnogaeth gyda bocsys Teams4U eto eleni. Roedd car yn orlawn o focsys yn cludo’r anrhegion hael i’r gyrchfan leol cyn cychwyn ar eu taith.


Offerynnau traddodiadol Cymru Offerynnau traddodiadol Cymru

Cafodd y dosbarth oren sesiwn gwych gyda Huw Roberts yn dysgu am offerynnau traddodiadol Cymru! Son am hwyl, dawnsio a chlapio rhythmau bywiog a gafwyd a rhyfeddu at y pibgorn a’r delyn deires hardd.


Paid cyffwrdd dweud

Diolch yn fawr i Kazia am ddod draw i rannu neges bwysig i fod yn ddiogel wrth ymwneud a sylweddau. Roedd y plant wedi dysgu na ddylid cyffwrdd mewn unrhyw beth nad ydynt yn ei adnabod gan gofio’r neges bwysig - “paid cyffwrdd, dweud.”


Cogurdd Cogurdd

Llongyfarchiadau mawr i Ned ar ol ennill rownd Cogurdd Sir Ynys Mon oedran cynradd. Roedd wedi derbyn clod mawr gan y beirniad am greu pasta. Da iawn Sara hefyd am gyrraedd y rownd derfynol sirol. Pob lwc i Ned yn awr yn y rownd derfynol cenedlaethol.


Newyddion diweddaraf Ysgol Henblas Hydref 2023

Margaret Roberts

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth cyn aelod staff Ysgol Henblas sef Mrs Margaret Roberts. Bu Mrs Roberts yn addysgu yn Ysgol Henblas am dros ugain mlynedd cyn ymddeol yn Haf 2015. Estynwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda’r teulu.


Sesiynau offerynnol y dosbarth oren

Yn ffodus iawn i blant y dosbarth oren, maent wedi bod yn rhan o gynllun profiadau cyntaf cerdd. Mae Charlotte Green wedi bod yn dod i’r ysgol yn wythnosol i gynnal sesiynau cerddorol ac yn dysgu’r plant sut i chwarae’r offeryn pbuzz. Yn dilyn llwyddiant y sesiynau cynhaliwyd cyngerdd arbennig i weddill yr ysgol.


Llun o plant gyda Mr Richard Holt Cogurdd

Bu 13 o gogyddion brwd ifanc yn brysur yn neuadd yr ysgol wrth iddynt gymryd rhan yng nghystadleuaeth CogUrdd - pob un yn canolbwyntio, creu a chynhyrchu salad o ansawdd arbennig. Llongyfarchiadau i bawb! Diolch yn fawr iawn i Mr Richard Holt am ddod draw i feirniadu'r gystadleuaeth.


Diolchgarwch

Cafwyd cyflwyniadau hyfryd gan y pedwar dosbarth a’r neuadd dan ei sang. Llongyfarchiadau i bob disgybl am berfformio mor angerddol ac am gyfleu eu diolch mor arbennig. Da iawn pawb! Llwyddwyd i godi £333.17 tuag at Banc Bwyd Ynys Mon. Diolch i’r gynulleidfa am eich haelioni. Lluniau Diolchgarwch


Wil o gwmni Life and Limb Puppets gyda Rhian Cadwaladr o Noson Allan a Rhiannon, Enlli a Bili Sioe bypedau y Ddraig

Mae cael y cyfle i wylio sioe bypedau yn ein hardal leol yn beth prin. Felly diolch o galon i’r dosbarth glas am drefnu sioe i gymuned yr ysgol ar y cyd gyda Rhian Cadwaladr o ‘Noson Allan’. Roeddent wedi bod yn trefnu’r noson ers saith wythnos gan wahodd cwmni Life and Limb Puppets i berfformio eu sioe ‘Y Ddraig’. Buont yn creu posteri, cysylltu gyda’r wasg wrth farchnata’r noson, ymweld a Theatr Pontio er mwyn cael blas o fywyd theatr, coginio bisgedi, ac apelio am wobrau raffl. Roedd y neuadd yn orlawn i wylio sioe arbennig iawn a da oedd clywed y plant yn trafod y sioe mor aeddfed y bore wedyn. Ac ar ddiwedd y cwbl cawsont dystysgrif Hyrwyddwyr Ifanc yn cydnabod eu gwaith trefnu campus. “Y gynulleidfa orau…” oedd geiriau aelod o’r cwmni pypedau! Lluniau Hyrwyddwyr Ifanc


Plentyn gyda llun Dangos y cerdyn coch i hiliaeth

Roedd disgyblion yr ysgol yn eu crysau coch ganol fis Hydref yn dangos eu gwrthwynebiad i hiliaeth ac yn gwneud safiad clir nad oes lle i hiliaeth yn ein cymdeithas.


Tim Pel Droed Merched Tim peldroed merched

Llongyfarchiadau mawr i dîm peldroed merched yr ysgol yn nhwrnament 5 bob ochr Ynys Môn. Fe wnaethont chwarae yn wych fel tîm yn y gemau grwp, curo’r gem gynderfynol cyn colli yn y rownd derfynol. Roedd pob un yn chwarae gydag agwedd arbennig a da oedd gweld y wen lydan ar eu wynebau wrth ddathlu eu llwyddiant!


Ffrindiau yn India

Cafodd y dosbarth glas fore diddorol yn dysgu am fywyd yn y 1960au yn India wrth siarad gyda'n ffrindiau yn Ysgol Solan yng nghysgod yr Himalayas. Roedd yn ddiddorol cymharu tebygrwydd a’r gwahaniaethau o ran y newidiadau hanesyddol yn y ddwy wlad. Edrychwn ymlaen at fwy o gydweithio rhwng y ddwy ysgol. Lluniau o'r Sesiwn


Tim Pel Droed Bechgyn Peldroed 7 bob ochr bechgyn Urdd

Aeth tîm peldroed 7 bob ochr y bechgyn i Gaergybi i chwarae o dan amodau heriol y gwynt. Ond chafodd hynny ddim effaith negyddol wrth iddynt fynd ati i chwarae’n ardderchog yn y chwe gem grwp. Roeddent wedi mwynhau yn fawr gan gydweithio yn gampus ac arddangos agwedd wych.


Y dosbarth melyn yn dathlu diwrnod T. Llew Jones Diwrnod T.Llew Jones

Roedd llond lle o forladron a chrysau coch yn yr ysgol i ddathlu diwrnod T. Llew Jones ganol Hydref. Cafwyd diwrnod o lefaru ei farddoniaeth a dathlu ei gampweithiau llenyddol.


Beirdd Henblas

Thema’r dosbarth oren y tymor yma ydi Enwogion o Fri. Maent wedi mwynhau dysgu am dywysogion Cymru ac fel rhan o ddathliadau Diwrnod T. Llew Jones ysbrydolwyd y plant i ysgrifennu cerddi eu hunain.

Diolch!
Diolch am ein byd ni,
Byd mawr hefo chi a fi.

Diolch am anifeiliaid bach,
Rhai yn biws a rhai yn las.

Diolch am gael canu yn y côr,
A nofio yn y môr.

Diolch am yr Urdd,
Ac am flodau a dail gwyrdd.

Daniel Mason


Dosbarth melyn gyda mwyar duon Dydd Llun Lles y Dosbarth Melyn

Fe wnaeth plant y dosbarth melyn fwynhau mynd am dro o amgylch pentref Llangristiolus yn chwilio am arwyddion o’r Hydref a hel mwyar duon. Aethom ati i greu ‘tie dye’ gyda’r mwyar duon!


Dosbarth gwyrdd yn creu ty bwystfilod bach yn yr ardd Dosbarth gwyrdd

Mae plant y dosbarth gwyrdd wedi mwynhau creu tŷ bwystfilod bach yn yr ardd. Roedd llawer o gynnwrf wrth fynd o amgylch yr ardd yn chwilio am fwystfilod bach ar gyfer eu cartref newydd!


Newyddion diweddaraf Ysgol Henblas Medi 2023

Llun o plant dosbarth oren tu allan i castell Criccieth Castell Criccieth

I Gastell Criccieth aeth disgyblion y dosbarth oren er mwyn dysgu am hanes cestyll a thywysogion Cymru. Roedd yn ddiwrnod i‘w gofio ac mae cael dysgu am hanes Cymru yn nodwedd bwysig iawn o’r cwricwlwm yn Ysgol Henblas.


Llun o plant dosbarth gwyrdd tu allan i castell Biwmares Castell Biwmares

Fe wnaeth y dosbarth gwyrdd fwynhau dysgu am gastell Biwmares fel rhan o thema ‘cestyll’. Cafwyd diwrnod gwerth chweil gan ddysgu am hanes diddorol y castell. Diolch i’r gwirfoddolwyr am helpu.


Llun o plant meithrin tu allan i castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Cafodd y dosbarth melyn fore hyfryd yng Nghastell Caernarfon fel rhan o’r profiadau yn ymwneud a’r thema “Cestyll.” Mae naw o blant meithrin wedi hen setlo yn y dosbarth erbyn hyn ac yn mwynhau eu hamser yn Ysgol Henblas a chael dysgu yng nghwmni Miss Owen, Anti Diane ac Anti Rozena.


Llun o plant tu allan i Jodrell Bank

Jodrell Bank

Mwynhaodd y dosbarth glas ddiwrnod arbennig yn Jodrell Bank yn dysgu am gysawd yr haul a'r bydysawd mawr fel rhan o’r thema yn dysgu am y planedau. Roedd yn werth gweld wynebau’r plant wrth iddynt ryfeddu at fawredd telesgop Lovell!


Wythnos feicio i’r ysgol

Diolch i’r plant a’r rhieni am gefnogi’r wythnos feicio i’r ysgol. Cafwyd nifer helaeth yn teithio i’r ysgol ar feic, sgwter a cherdded. Ymdrech wych. Fe wnaeth plant y dosbarth melyn fwynhau prynhawn ar y beics yn dysgu am reolau’r ffyrdd a sut i gadw’n ddiogel tra’n seiclo i’r ysgol.


Ardal allanol

Cafodd y disgyblion hynaf sesiwn diddorol gan Adrian o fanc HSBC yn dysgu am yr agwedd o gyllido! Cafwyd cyngor arbennig wrth ystyried dewisiadau doeth wrth fwynhau diwrnod yn gwylio camp chwaraeon.


Cyllido gyda HSBC

Cafodd y disgyblion hynaf sesiwn diddorol gan Adrian o fanc HSBC yn dysgu am yr agwedd o gyllido! Cafwyd cyngor arbennig wrth ystyried dewisiadau doeth wrth fwynhau diwrnod yn gwylio camp chwaraeon.


Flag Owain GlyndwrOwain Glyndwr

Bu holl ddisgyblion yr ysgol yn dathlu bywyd Owain Glyndwr gan wisgo mewn melyn a choch. Uchafbwynt y diwrnod oedd clywed pawb yn canu ‘Ie Glyndwr’ yn llawn angerdd!
“Clywyd son am hwn ymhobman,
Dyma fo y mab darogan,
Dyma’r union ddyn i’n harwain ni – Glyndwr!”


Lluniau Diweddaraf

Lleoliad


Gweld Ysgol Henblas mewn map mwy

Cysylltu

  • Pennaeth: Mr Huw Jones
    Ysgol Henblas
    Llangristiolus
    Bodorgan
    Ynys Môn
    LL62 5DR

  • 6602156_pennaeth.henblas@hwbcymru.net
  • 01248 723 944

Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Pobl Ifanc
Hawlfraint © 2025 Ysgol Henblas ~ Gwefan gan Delwedd.