Ysgol Werdd
Mae aelodau Criw Gwyrdd Ysgol Henblas yn sicrhau ein bod fel ysgol yn hybu dulliau gwyrdd o fyw. Rhai o’n swyddi fydd diffodd golau yr ystafelloedd pan maent yn wag, casglu sbwriel o amgylch yr ysgol, edrych ar ol ein gardd ysgol ac ailddefnyddio/ailgylchu amrywiol ddefnyddiau.