Ysgol Iach
Mae’r ysgol wedi ennill Cam 4 o’r Cynllun Ysgolion Iach. Cynllun yw hwn sy’n hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at ffordd o fyw iach.
Fel rhan o’n hymdrechion, rydym yn trefnu Wythnos Iechyd a Ffitrwydd pob mis Gorffennaf pan mae’r plant yn cael cyfle i brofi amrywiol weithgareddau sydd yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymarfer, deiet, hylendid a diogelwch personol mewn ffordd hwyliog.
Byddwn yn meddwl am syniadau sut i hybu plant yr ysgol i gadw’n ffit ac yn iach. Mae cadw’n ffit ac yn iach yn ein helpu i fod yn hapus.