Archif Newyddion 2021-2022
Gorffennaf 2022
Gwyliau haf
Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hoffwn ddymuno yn dda i’r plant dros gyfnod y gwyliau haf. Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall yn Ysgol Henblas, gyda llawer o brofiadau arbennig wedi eu mwynhau gan y plant. Dyma flas i chi o’r profiadau hynny:
Ffarwelio
Pob hwyl i bob disgybl ym mlwyddyn 6! Rydym yn dymuno’n dda iawn i’r 20 sydd yn gadael i fynd i’r ysgol uwchradd ac yn gwybod y byddant yn mwynhau llwyddiannau pellach yno. Cofiwch eiriau anthem Ysgol Henblas:
‘Fel bu adar T.G.’n mentro,
Fe ddaw amser i mi fudo,
Ac os af ymhell i nythu,
Boed haul braf neu storm yn chwythu,
I hedfan dros pob her o’m cwmpas,
Yn gefn i mi fydd Ysgol Henblas.’
Dyma’r 20 sydd yn ffarwelio:
Ail agor
Bydd Ysgol Henblas yn ail agor i’r plant ar ddydd Llun Medi 5ed.
Gwirfoddolwyr
Diolch i bawb sydd wedi helpu mewn ffyrdd gwahanol dros y flwyddyn. Rydym yn lwcus iawn o gael cymaint o rieni a ffrindiau i’r ysgol sydd mor barod i wirfoddoli, mewn clybiau chwaraeon; yn yr ardd; y Gymdeithas Rhieni Athrawon; a siaradwyr sydd yn barod i rannu eu profiadau mewn amrywiol feysydd.
Dyddiadau HMS 2022-23
Medi 1af
Medi 2il
Tachwedd 7fed
Chwefror 17eg
Mehefn 5ed
Canolfan Conway
Cafodd y dosbarth glas ddau ddiwrnod llawn hwyl yng Nghanolfan Conway! Atgofion am oes a chwmni da!
Lluniau ar Flickr
Ffair haf 2022
Diolch i chi am gefnogi’r ffair haf ysgol drefnwyd gan y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon er mwyn codi arian i’r ysgol. Llwyddwyd i godi cyfanswm gwych o £980. Diolch i Helen, Carys a’r tîm a staff yr ysgol.
Ysgol Gyfun Llangefni
Cafodd disgyblion blwyddyn 6 dri diwrnod campus yn Ysgol Gyfun Llangefni fel blas ar gyfer trosglwyddo ym mis Medi!
Gwyl rygbi tag Ynys Môn 2022
Ysgol Henblas yw pencampwyr rygbi Ynys Môn 2022(blwyddyn 5a6)! Fe wnaeth pob aelod o’r sgwad berfformio’n wych.
Roedd tîm blwyddyn 3 a 4 ar ben eu grwp cyn colli yn y rownd gyn derfynol. Perfformiadau gwych eto!
Diolch anferthol i Mike Coyne!
Marchnad Cynnyrch Lleol
Wel dyna oedd prynhawn penigamp! Clod mawr i’r dosbarth oren am drefnu chwip o farchnad. Diolch i‘n rhieni caredig a thrigolion yr ardal am gefnogi unwaith eto. Diolch i’n cymuned gefnogol.
Ffarwelio
Dymuniadau gorau i Anti Chereece wrth iddi ddechrau pennod newydd. Ers mis Medi bu Chereece yn y dosbarth gwyrdd yn bennaf wrth iddi gwblhau cwrs coleg. Diolch yn fawr iawn iddi am ei gwaith arbennig yn helpu plant y dosbarth.
Ras rafft – diolch Berwyn
Diolch o galon i Berwyn am ddod i’r ysgol er mwyn i ni gael cydnabod y gamp o ennill ras rafft Menai 2022. Llwyddodd Berwyn a’r teulu godi £2320 tuag at y £991 godwyd gan weddill rhieni a ffrindiau’r ysgol. Cyfanswm anhygoel felly o £3311 tuag at gronfa’r ysgol. Diolch i bawb am fod mor garedig ac i lawer o fusnesau lleol am ein cefnogi.
Peldroed Urdd
Llwyddodd y tîm 7 bob ochr ddod yn drydydd yn nhwrnament Urdd Ynys Môn. Curo’r grwp cyn colli mewn gem agos yn y rownd gyn derfynol. Da iawn hogia!
Rygbi ar y traeth
Cafodd y criw rygbi hwyl yn yr ŵyl gyfeillgar! Cafwyd perfformiadau campus gan bob un o’r sgwad a’r wobr am adeiladu’r castell gorau!
Everest
Diolch i Richard Bale am roi ei hanes yn cyrraedd copa Everest i ddisgyblion dosbarth glas heddiw. Sesiwn arbennig iawn a phawb wedi mwynhau clywed am ddrama’r antur!
Fferam y Llan
Cafodd y dosbarth glas ddiwrnod bendigedig ar gae Fferam y Llan. Diolch i Lois am y croeso eto eleni. Heb anghofio’r diod arbennig o Cwt Llefrith!
Diwrnod hwyl cyfnod sylfaen
Roedd plant y cyfnod Sylfaen yn wlyb socian wrth chwarae ar gae’r ysgol ddiwedd y tymor. Diolch i staff Mon Actif am eu diddori ac am eu holl sesiynau gwych drwy’r flwyddyn.
Te prynhawn dosbarth oren
Cafodd disgyblion y dosbarth oren orffen y flwyddyn mewn steil yng ngardd yr ysgol wrth fwynhau te prynhawn. Prynhawn hyfryd a chwmni hapus a llon.
Ras Rafft Menai
Daeth Ysgol Henblas yn gyntaf eto flwyddyn yma yn Ras Rafft Menai 2022. Diolch i bawb am gefnogi ac am eich caredigrwydd drwy noddi er mwyn codi £2811 tuag at gronfa’r ysgol. Diolch i’r tîm ffantastig o rieni a staff oedd ar y rafft. A’r diolch mwyaf i’r Capten Berwyn Griffiths.
Mis o chwaraeon prysur!
Pel droed saith bob ochr: Enillwyr tlws saith bob ochr peldroed Ieuan Wyn Jones 2022 yw Ysgol Henblas. Chwarae 6 - curo 6 oedd record y tîm yn heulwen poeth Mehefin. Perfformiodd pob un o’r deg aelod yn y sgwad yn ardderchog a buddugoliaeth hapus iawn ar ddiwedd y dydd oedd y canlyniad. Diolch i Barry Edwards am eu paratoi i gystal safon.
Rhedeg trawsgwlad: Llongyfarchiadau i’r rhedwyr fu’n rhedeg yn rownd derfynol Trawsgwlad Môn Actif yn Nhreborth. Rhedodd pawb yn wych a derbyn medal!
Llongyfarchiadau enfawr i Morgan John am ddod yn ail yn ras y bechgyn Blwyddyn 3 a 4, ac i Leo Saxon am ddod yn gyntaf yn ras y bechgyn Blwyddyn 5 a 6!
Peldroed 5 bob ochr: Cafwyd perfformiadau campus gan y tîm pel droed 5 bob ochr yn nhwrnament Ynys Mon. Roedd y tim yn ddi guro ac ar frig y grwp ar ôl 7 gêm cyn colli yn y rownd gyn derfynol.
Sboncen: Diolch i Sboncen Ynys Mon am ddod draw i roi sesiwn i ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4. Anaml y ceir y cyfle i fwynhau sboncen yn yr ysgol gynradd ond roedd yn brofiad cofiadwy a hwyliog iawn.
Mabolgampau a ffair ysgol 2022
Mor braf oedd cael pawb yn ol efo’i gilydd yn gyflawn unwaith eto yn ystod y prynhawn o fabolgampau ysgol a’r ffair ysgol oedd yn dilyn. Diolch i bawb wnaeth yr achlysur yn un arbennig i’w gofio. Codwyd £850.16 yn ystod y ffair tuag at gronfa’r ysgol
Thema Byd o Deithio:
Gyrrwy trenau - Mr Donny Munro
Mae disgyblion y dosbarth glas wedi dysgu llawer am deithio dros yr wythnosau diwethaf. Y ffocws diweddar oedd trenau. Casglwyd rhestr o gwestiynau gan y disgyblion ac fe aeth Jacob ati i gyfweld ei dad Donny sydd yn yrrwr trenau. Cafwyd gwaith ysgrifenedig ffurfiol a chreadigol campus ar sail atebion Donny. Diolch iddo am ei amser ac i Jacob am ei gyfweld mor fedrus.
Porthladd Caergybi
Cafodd disgyblion y dosbarth glas daith fythgofiadwy i borthladd Caergybi ddechrau Mehefin. Gwelwyd y llongau yn docio. Yna cafodd y disgyblion grwydro ar y llong a mentro i adran y capten - a braint oedd cael treulio amser yn ei gwmni. Rhoddodd gyngor i’r disgyblion ar y daith i fod yn gapten - a phwy a ŵyr - efallai fod capten y dyfodol ymhlith y dosbarth glas!
Rholiwch a Stroliwch
Diolch i Debbie Humphreys am ddod draw i’r ysgol i roi gwobr am ddod yn ail drwy Gymru yn y categori ysgolion llai yn dilyn yr ymdrech wych yn ystod yr ymgyrch fis Ebrill.
Melin Llynon
Cafodd plant y dosbarth oren ddiwrnod hyfryd ym Melin Llynon yn dysgu am y felin, tai’r Celtiaid ac wrth gwrs y ffatri siocled. I ddilyn cafwyd antur o amgylch y saffari ac adeiladu den. Diolch i’r criw brwdfrydig ym Melin Llynon wnaeth y profiad yn un mor arbennig i’r plantos.
Cychwyn busnes
Cafodd y dosbarth oren fore diddorol iawn gyda Mr Alun Roberts o Môn CF Anglesey & Gwynedd yn dysgu am wahanol gwmnïau ar Ynys Môn a sut i gychwyn busnes. Roedd hyn yn gyngor gwerthfawr iawn wrth i’r dosbarth baratoi at eu marchnad cynnyrch lleol fydd yn cael ei gynnal ddechrau Gorffennaf.
Mentergarwch
Braint oedd cael bod yn rhan o ffeinal Miwtini Bach yn MSPARC gyda 9 ysgol arall o’r ynys. Roedd grwp Ysgol Henblas yn son am eu busnes unigryw sef ceir wedi eu pweru drwy eu ffenestri solar. Syniad ardderchog. Llongyfarchiadau i’r tri gyflwynodd eu busnes i’r beirniaid mor glir ac hyderus!
Mai 2022
Pili Palas
Cafodd plant y dosbarth melyn ddiwrnod bendigedig yn Pili Palas yn dysgu am fyd natur fel rhan o’r thema Anifeiliaid. Roedd y plant wedi gwirioni o weld yr holl drychfilod, gloynnod byw a’r anifeiliaid amrywiol.
Codio gyda Lego!
Cafodd holl ddisgyblion yr adran iau sesiwn arbennig yn adeiladu peiriant ffair gan ddefnyddio lego. Yna, roeddent yn rhaglennu y peiriant i symud gan ddefnyddio rhaglen ar y cyfrifiadur. Diolch i Megan o Technocamps am eu harwain drwy’r creu rhyfeddol!
Gŵyl rygbi
Fe wnaeth tri tîm rygbi’r ysgol berfformio’n wych yn yr ŵyl rygbi dalgylchol gyda dau dîm drwodd i dwrnament Môn. Daeth tîm blwyddyn 5 a 6 yn fuddugol a thîm blwyddyn 3 a 4 yn ail. Diolch i Mike Coyne am eu hyfforddi i safon mor dda.
Bore Coffi
Cafodd y dosbarth oren gyfle i fynd i gyfarfod a sgwrsio gydag aelodau’r gymuned leol yn neuadd yr henoed yn y pentref. Roedd y plant wedi ymgolli yn y sgwrsio gyda’r trigolion a braint oedd treulio’r bore yn eu cwmni.
Sw Gaer
I Sw Gaer aeth plant y dosbarth gwyrdd i ddysgu am anifeiliaid y byd fel rhan o’r thema. Cafwyd diwrnod bythgofiadwy a’r holl blant yn wych drwy’r dydd.
Gŵyl hoci
Cafodd disgyblion y dosbarth glas brynhaen gwych yn yr ŵyl hoci yn RAF Valley! Roedd sgiliau addawol i’w gweld gan yr holl ddisgyblion a phob un wedi cymryd rhan yn frwdfrydig.
Mentergarwch
Ar ôl dysgu am fyd mentergarwch yn MSPARC yn ddiweddar tro’r timau oedd cyflwyno eu syniadau busnes i’r beirniaid ganol fis Mai. Fe wnaeth pob grwp gyflwyno’n glir, trefnus a llwyddiannus. Llongyfarchiadau i’r grwp ddaeth yn fuddugol ac edrychwn ymlaen at y rownd derfynol yn MSPARC!
McLaren
Roedd cyffro mawr tu allan i’r ysgol ganol fis Mai pan ymddangosodd car McLaren yn y maes parcio. Roedd y disgyblion wedi gwirioni gweld y McLaren gan ryfeddu at swn a phwer yr injan Fel rhan o’r thema ’byd o deithio’ roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu am fathau ceir gwahanol! Diolch i Martin a Gwion!
Byd busnes
Mae'r dosbarth oren yn dysgu pa effaith mae busnesau yn gael ar y gymuned leol. Ddechrau mis Mai cafodd y plant gyfle i gyfarfod cwmni Clyd yn neuadd yr henoed. Gofynnodd y plant amrywiaeth o gwestiynau diddorol, ac maent wedi dysgu llawer iawn am fusnes lleol. Diolch Mr a Mrs Clyd!
Traws gwlad
Cafwyd ymdrech arwrol gan y disgyblion yn y trawsgwlad ddiwedd mis Ebrill. Aeth pob disgybl i gae rygbi Llangefni i gymryd rhan a llwyddodd llawer i ddod i’r pymtheg uchaf sydd yn sicrhau eu lle yn y rownd sirol nesaf.
Ebrill 2022
Ail trwy Gymru!
Ar ddechrau tymor yr haf cafwyd newyddion gwych - llwyddodd Ysgol Henblas orffen yn yr ail safle trwy Gymru yng nghategori ysgolion bach yn ystod yr ymgyrch Stroliwch a Roliwch. Diolch i’r plant a’r rhieni am gefnogi ac i Mrs Kelly Owen am gydlynnu’r ymgyrch.
Pob dymuniad da!
Dymuniadau gorau i Mrs Kelly Owen dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Byddwn yn meddwl amdanoch yn fawr.
Cyngerdd Campus!
Mae rhai o’n disgyblion yn elwa yn fawr o dderbyn gwersi offerynnol yn yr ysgol drwy Wasanaeth Cerdd William Mathias. Ddechrau Ebrill, tro’r disgyblion oedd gwrando ar diwtoriaid offerynnol Gwynedd a Môn mewn cyngerdd bendigedig. Roedd y mwynhad yn amlwg wrth i’r disgyblion glapio a symud i’r rhythmau cyffrous!
Dwr glân
Mae Mr Alun Pritchard yn ffrind arbennig i blant Ysgol Henblas ac maent wrth eu boddau yn gwrando arno yn siarad. Y tro hwn daeth i siarad gyda phlant y cyfnod sylfaen am bwysigrwydd cael dŵr glân yn Kenya. Gofynodd y plant gwestiynau aeddfed iawn a diolch i Mr Pritchard am ei amser unwaith eto.
Canolfan Conway
Yn heulwen braf y gwanwyn ar ddiwedd mis Mawrth mwynhaodd y dosbarth oren ddiwrnod cyffrous o weithgareddau awyr agored yng Nghanolfan Conway - yn dringo ac yn canwio ar yr afon Fenai.
Rhun ap Iorwerth AS
“Beth am ofyn i Rhun ap Iorwerth AS ddod draw i siarad am effaith twristiaeth ar Ynys Môn?” Dyna gwestiwn un o ddisgyblion y dosbarth glas ar ddechrau’r thema ‘Mon Mam Cymru’! A dyna ddigwyddodd wrth i Rhun ymweld a’r dosbarth! Cafodd cwestiynau arbennig eu holi gan y disgyblion a da oedd cael ymatebion manwl gan Rhun. Diolch yn fawr iawn iddo am ddod draw i siarad.
Eisteddfod yr Urdd
Bu criw helaeth o’r ysgol yn cystadlu yn eisteddfod yr Urdd yn Amlwch. Da iawn bawb fu’n cystadlu yn enw’r ysgol - yn unigol ac yn aelodau o gôr, parti unsain, grwp llefaru a’r ymgom. Rydym yn falch iawn o bob disgybl am roi eu gorau wrth ymarfer ac wrth berfformio - gyda diolch enfawr i Mrs Elen Keen am gyfeilio.
Sachau Wyau Pasg!
Llawer o ddiolch i Mrs Irene Williams,Llangrisgiolus fu wrthi’n brysur iawn ddechrau’r flwyddyn yn gwnio 14 o sachau ar gyfer wyau Pasg. Roedd hyn er mwyn dathlu canmlwyddiant yr Urdd. Aeth y plant oed meithrin adref yn hapus iawn ar ol derbyn yr wyau!
Mawrth 2022
Cydymdeimlo
Rydym yn anfon ein cofion annwylaf at Anti Diane yn dilyn ei phrofedigaeth ddiweddar o golli ei mam. Yn yr un modd rydym yn meddwl am Anti Rozena, Barry a Carwyn. Yn ogystal, estynwn ein cydymdeimladau â chyn aelod staff diweddar yr ysgol sef Mrs Erin Ashton yn dilyn marwolaeth ei thad. Rydym yn gyrru pob nerth i’r ddau deulu yn eu hiraeth.
Tim rygbi
Llongyfarchiadau mawr i dîm rygbi Ysgol Henblas am guro twrnament taclo Ynys Môn ganol fis Mawrth. Chwarae 4, ennill 4. Chwaraeodd pawb yn ardderchog a diolch anferthol i Mike am eu hyfforddi i safon mor uchel.
(y tîm rygbi gyda Mike)
Diwrnod glas a melyn
Ar ddiwrnod braf o fis Mawrth daeth y plant i’r ysgol mewn dillad glas a melyn - mewn arwydd o gefnogaeth i drigolion Wcrain. Codwyd £411 tuag at apel diwrnod trwyn coch sydd hefyd yn ariannu mudiadau sydd yn cefnogi pobl yn yr Wcrain ar hyn o bryd.
(y dosbarth gwyrdd yn eu gas a melyn)
Apêl Wcrain
Diolch i gymuned yr ysgol am fod mor feddylgar yn darparu nwyddau i helpu trigolion Wcrain. Aeth Anti Carol a llond car o’r nwyddau i’r ganolfan gasglu, cyn dechrau ar y daith yr holl ffordd i’r Wcrain.
(Rhai o blant y cyfnod Sylfaen gyda’r nwyddau i helpu trigolion Wcrain)
T.G.Walker
Cafodd y dosbarth oren fore diddorol dros ben yn Oriel Môn yn gwerthfawrogi ac edmygu campweithiau T.G.Walker a Charles Tunnicliffe. Maent wedi bod yn dysgu llawer am T.G.Walker sef cyn bennaeth Ysgol Henblas fel rhan o’r thema. Enghraifft arbennig o addysg yn dechrau wrth droed y plentyn, a da eu gweld yn gwerthfawrogi gwaith person hynod bwysig yn hanes yr ysgol a’r fro.
Rhodri Owen
Diolch i Rhodri Owen, sy'n riant yn yr ysgol wrth gwrs, am ddod i rannu ei atgofion byw o fywyd yn Ysgol Henblas. Mwynhaodd y plant ei straeon yn fawr iawn a bu llawer o chwerthin a chwestiynau treiddgar yn ystod y sesiwn! Roedd yr atgofion mor fendigedig a diddorol.
(Mr Rhodri Owen gyda’r dosbarth oren)
Diwrnod y llyfr
Roedd pob math o gymeriadau a gwisgoedd lliwgar yn Ysgol Henblas ddydd Iau, Mawrth 3ydd. Pob math o gymeriadau o lyfrau gwahanol i ddathlu diwrnod y llyfr. Mae’n wych gweld y plant yn ymgolli ym myd llyfrau ac yn gwerthfawrogi testunau mor eang!
(Plant y dosbarth melyn ar ddiwrnod y llyfr)
Gorymdaith Gwyl Dewi!
Aeth disgyblion yr adran iau i ddathlu Gwyl Dewi gyda’u ffrindiau o ysgolion y dalgylch yn Llangefni yn yr orymdaith flynyddol. Buont yn cerdded strydoedd y dref cyn ymuno mewn cȃn gydag Arfon Wyn. Cafwyd bore llawn bwrlwm a da oedd gweld y disgyblion yn dathlu eu diwylliant gyda balchder.
(Rhai o genod y dosbarth oren yn dathlu Gwyl Dewi)
Arfon Wyn - dydd Gwyl Dewi
Canu gyda’r anfarwol Arfon Wyn a Richard Synnott - pa ffordd well o ddathlu dydd Gwyl Dewi?! Diolch i Arfon a Richard am ddiddanu holl blant yr ysgol a digon o ganu hwyliog. Braint plant Ysgol Henblas oedd cael y fath brofiad. Ac yn ol y son roedd deuawd ardderchog Arfon a Mr Meilir Jones (ein myfyriwr talentog) wedi creu argraff fawr ar y plant a’r staff!
(Arfon Wyn, Richard Synnott a phlant y cyfnod Sylfaen)
Huw John Hughes - Y Royal Charter
Braint oedd cael croesawu Huw John Hughes i’r dosbarth glas. Siaradodd am hanes mordaith y Royal Charter ac roedd y disgyblion wedi ymgolli’n llwyr yn ei gyflwyniad manwl a diddorol. Mae ganddo ddawn arbennig o siarad gyda’r disgyblion ac roedd sylw pob un wedi hoelio arno, gan ychwanegu i’w dealltwriaeth o’r hanes. Diolch o galon iddo am ddod i Ysgol Henblas.
(Huw John Hughes a’r dosbarth glas)
Chwefror 2022
Sw Môr
Cafodd plant y ddau ddosbarth yn y cyfnod Sylfaen ymweliad addysgol gwych yn Sw Môr yn dysgu am greaduriaid y môr. Roedd gweld eu wynebau wrth ryfeddu at y pysgod a’r creaduriaid eraill yn ddigon o sioe, ac roeddent wrth eu boddau yn eu dilyn yn symud yn chwim.
Gardd eirlysiau
Cafodd disgyblion y dosbarth glas fore arbennig yn crwydro ar hyd llwybrau cyhoeddus yr ardal wrth gyrraedd y gyrchfan o weld yr eirlysiau tlws mewn gardd gyfagos. Diolch i Claire a Lucy y ci am y croeso arbennig. Cafwyd bore hwyliog yn cerdded o amgylch yr ardd, siglo ar y siglen a siocled poeth anfarwol. Yn ogystal, aethont i weld ty crwn gerllaw a diolch i Derek Ralph am y gwahoddiad i fynd i’w weld yn ogystal ac i Wil Ty’n y Graig am drefnu.
Athletau
Cafodd y tîm athletau fore gwych yng nghystadleuaeth athletau dan dô Ynys Môn gan sicrhau y trydydd safle. Roedd perfformiadau gwych gan bawb a chydweithio da fel tîm a phob disgybl yn rhoi 100%.
Ffarwel i Anti Aloma
Dymuniadau gorau i Anti Aloma wrth iddi ddechrau ar bennod newydd cyffrous yn ei gyrfa mewn ysgol gyfagos. Diolch iddi am baratoi bwyd mor arbennig i blant Ysgol Henblas, ac am ei holl wasanaeth arbennig dros y pymtheg mlynedd diwethaf. Bydd croeso bob tro iddi yma!
Derec Owen
Bu plant y dosbarth oren yn ffodus iawn o gael ymweliad gan Mr Derec Owen a chael clywed yr holl hanesion am ei fywyd yn tyfu fyny yn Llangristiolus yn y 1950au. Cafwyd prynhawn hynod o ddiddorol yn gwrando ar straeon Mr Owen o’i amser yn yr hen Ysgol Henblas lle'r oedd o’n cael y cwstard gorau yn y byd, sef ‘Cwstard Cet Tomos’! Mae’r plant wedi mwynhau gwneud cymariaethau rhwng Ysgol Henblas yn y 1950au ac Ysgol Henblas heddiw. Cafwyd llawer o hanesion am Mr T G Walker a’i angerdd tuag at fyd natur. Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Owen am ddod draw i rannu ei hanesion gyda ni, ac am adael nifer o eitemau hanesyddol gyda ni yn yr ysgol gan gynnwys llyfr ‘Adar y Glannau’ wedi ei arwyddo gan Mr Walker, a chyllell oedd yn cael ei hadnabod fel cloch yr ysgol!
Rhodri Owen
Diolch hefyd i Mr Rhodri Owen sy'n rhiant yn yr ysgol wrth gwrs am ddod i mewn i rannu ei atgofion byw o fywyd yn Ysgol Henblas. Mwynhaodd y plant ei straeon yn fawr iawn a bu llawer o chwerthin a chwestiynau yn ystod y sesiwn. Atgofion bendigedig yn wir.
Ionawr 2022
Sioeau Nadolig
Cynhyrchwyd tair sioe rithiol gan holl blant yr ysgol eleni – yn adrodd hanes stori’r geni mewn cyd destunau gwahanol. Aeth plant y cyfnod sylfaen i wlad y Rwla i gyflwyno’r hanes trwy lygaid y cymeriadau enwog gan Angharad Tomos. Cyflwynodd y dosbarth oren yr hanes trwy lygaid dau blentyn yn holi eu mam am yr hyn ddigwyddodd, tra bod disgyblion y dosbarth glas wedi dilyn hynt estroniaid yn glanio ar y ddaear er mwyn deall gwir ystyr y Nadolig. Diolch i bob plentyn roddodd o’u gorau er mwyn cyflawni sioeau campus.
(plant y cyfnod sylfaen yn perfformio Sioe Nadolig)
Calendr Adfent o chwith
Diolch i bawb gefnogodd yr apel eleni – daeth Rhun ap Iorwerth AS draw i’r ysgol i lenwi dau lond car gyda nwyddau ar gyfer y banc bwyd.
(Rhun a’r plant yn cludo’r holl nwyddau)
Diwrnod Siwmper Nadolig
Daeth holl blant yr ysgol yn eu siwmperi a dillad Nadoligaidd ar Ragfyr 10ed gan lwyddo i godi £320.50 ar gyfer elusen Achub y Plant ac apel leol. Diolch i bawb am gefnogi.
Ardal allanol
Yn ystod cyfnod adeiladu’r caban newydd roedd cryn lanast tu allan i fynedfa y cyfnod sylfaen, ac fe ddiflanodd y pwll dwr yn llwyr. Ond dros yr wythnosau diwethaf mae Mike a Louise – sef dau o rieni’r ysgol wedi bod yn adfer y sefyllfa a bellach mae’r ardal yn edrych cystal ag erioed – ac mae’r pwll yn ol yn ei le! Edrychwn ymlaen at weld y penbyliaid yn fuan!
(Mrs Owen gyda rhai o blant y dosbarth melyn ger y pwll dwr)
Urdd 100
Ar ddydd Mawrth Ionawr 25ain bu holl ddisgyblion yr ysgol yn rhan o ymgais lwyddiannus yr Urdd yn torri record byd er mwyn dathlu canmlwyddiant y mudiad. Dros y blynyddoedd mae cymaint o blant Ysgol Henblas wedi cael profiadau arbennig wrth gael y cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Urdd – ymlaen i’r can mlynedd nesaf!
(plant y cyfnod sylfaen yn canu Hei Mr Urdd)
Diwrnod Santes Dwynwen
Ar ddiwrnod Santes Dwynwen roedd yn hyfryd gweld y plant yn rhannu geiriau caredig gyda’i gilydd. Bu disgyblion yr adran iau yn creu cardiau caredigrwydd ar gyfer ei gilydd yn y dosbarthiadau – yn diolch i’w gilydd am fod yn ffrindiau da. Roedd yn wych gweld effaith pwer geiriau gwerthfawrogol wrth ddathlu caredigrwydd.
(disgyblion y dosbarth glas yn rhannu caredigrwydd)
Llangristiolus ddoe a heddiw – antur y dosbarth oren!
Fel rhan o’r thema ‘Llangristiolus Ddoe a Heddiw’ mae plant y dosbarth oren wedi bod yn dysgu am hanes yr ysgol. Cafodd y plant fynd am dro i weld yr hen Ysgol Henblas. Mi wnaethon fwynhau cael gwneud cymariaethau rhwng llun o’r hen ysgol a sut mae’r adeilad yn edrych erbyn hyn. Mae’r hen ddogfennau am fywyd yr ysgol yn y log ysgol dyddiol yn hynod ddiddorol, ac os oes gan ddarllenwyr y Glorian unrhyw hanesion diddorol buasai’r plant wrth eu boddau yn cael eu clywed.
Erin Ashton
Rydym yn dymuno yn dda i Mrs Erin Ashton sydd wedi cael penodiad fel athrawes dros gyfnod mamolaeth mewn ysgol gyfagos. Mae gan y plant a’r staff feddwl mawr o Mrs Ashton ac mae hi wedi rhoi cymaint o egni er mwyn codi safonau yn Ysgol Henblas. Rydym yn gwybod y bydd yn llwyddo ymhellach ac mae wedi bod yn bleser pur cydweithio.
Sengl BBC Radio Cymru
Braint y dosbarth glas oedd cael bod yn rhan o sengl elusennol BBC Radio Cymru ar gyfer Plant Mewn Angen wrth iddynt ganu fersiwn o glasur Caryl Parry Jones ‘Yn y dechreuad’ gyda phobl ar hyd a lled Cymru. Gallwch wrando ar y trac ar wefan BBC Radio Cymru.
Cylch meithrin
Mae adeilad newydd y cylch meithrin wedi agor bellach ers mis Tachwedd ac mae Anti Ffion ac Anti Sophie a’r plant bach wrth eu boddau yno. Dyma nhw ar fore heulog o Ionawr ar iard crand newydd y cylch!
(Anti Ffion, Anti Sophie, Anti Elen a’r plant tu allan i’r cylch meithrin newydd)