Ysgol Henblas

  • Newyddion
    • Archif Newyddion
    • Dyddiadur
    • Tymhorau
    • Cysylltu
    • Map
    • Albwm
  • Plant
    • Adnoddau
    • Archif Adnoddau
    • Albwm
    • Wal Fideo
    • Yr Urdd
  • Ysgol
    • Gwybodaeth
    • Pwy ydi Pwy
    • Ysgol Iach
    • Ysgol Werdd
    • Cyngor Ysgol
    • Taith Weledol
    • Llywodraethwyr
    • Adroddiad Estyn
    • Ein Gweledigaeth
  • Rhieni
    • Cysylltu
    • Y Cyfeillion
    • Adroddiadau
    • Llythyrau
    • Cymhwysedd Digidol
  • Y Gymuned
    • Meithrinfa Siwgwr Plwm Henblas
  • English

Nesaf
Diwethaf
Bookmark and Share

Archif Newyddiom 2022-2023

Archif Newyddion

Tymor yr Haf


Newyddion diweddaraf Ysgol Henblas Mehefin 2023

Gwyliau Haf:

Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hoffwn ddymuno yn dda i’r plant dros gyfnod y gwyliau haf. Mae wedi bod yn flwyddyn brysur a llwyddiannus arall yn Ysgol Henblas, gyda llawer o brofiadau arbennig wedi eu mwynhau gan y plant. Dyma flas o’r flwyddyn:

 


Crynodeb o’r flwyddyn ddiwethaf ac edrych ymlaen:

Bydd eich plentyn wedi dod a thaflen adref yn crynhoi ein llwyddiannau fel ysgol ers Medi 2022, ac yn edrych ymlaen i’r flwyddyn academaidd nesaf. Byddwn yn gofyn i chi fel rhieni am eich syniadau er mwyn cydfynd a’r bedair blaenoriaeth fydd gennym yn 2023-24. I ddarllen mwy am Gynllun Gwella Ysgol Henblas cliciwch yma

 

  • Poster bychain o'r PDF
  • Poster bychain o'r PDF

Ail agor:

Bydd Ysgol Henblas yn ail agor i’r plant ar ddydd Mawrth Medi 5ed.

 


Gwirfoddolwyr:

Diolch i bawb sydd wedi helpu mewn ffyrdd gwahanol dros y flwyddyn. Rydym yn lwcus iawn o gael cymaint o rieni a ffrindiau i’r ysgol sydd mor barod i wirfoddoli, mewn clybiau chwaraeon peldroed, rygbi, Urdd, pelrwyd, sgiliau pel; y ras rafft; yn yr ardd; darllen gyda’r plant; y Gymdeithas Rhieni Athrawon; a siaradwyr sydd yn barod i rannu eu profiadau.


Diolch i’r staff am eu brwdfrydedd tuag at addysg eich plentyn, i aelodau y corff llywodraethol am roi eu hamser mor barod, ac i chi rieni/gwarcheidwaid am eich cefnogaeth a’ch parodrwydd i gydweithio.

 


Dyddiadau HMS 2023-24:

  • Medi 1af
  • Medi 4ydd
  • Tachwedd 6ed
  • Rhagfyr 22ain
  • (Bydd dyddiadau 2024 i ddilyn)

     


    Clwb brecwast:

    Noder, ni fydd newid i bris clwb gofal o fis Medi. Bydd y pris yn parhau i fod yn £1.25 (8:00-8:25a.m.)

     


    Ffarwel blwyddyn 6!

    Pob hwyl i bob un disgybl ym mlwyddyn 6! Rydym yn dymuno’n dda iawn i’r 14 sydd yn gadael i fynd i’r ysgol uwchradd ac yn gwybod y byddant yn mwynhau llwyddiannau pellach yno. Byddwch wych! Cofiwch eiriau anthem Ysgol Henblas:

    ‘Fel bu adar T.G.’n mentro,

    Fe ddaw amser i mi fudo,

    Ac os af ymhell i nythu,

    Boed haul braf neu storm yn chwythu,

    I hedfan dros pob her o’m cwmpas,

    Yn gefn i mi fydd Ysgol Henblas.’


    Dyma’r 14 disgybl arbennig sydd yn ffarwelio:

     


    Pnawn agored:

    Cafwyd prynhawn bendigedig o sgwrsio ac edrych ar waith y plant ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ! Diolch i bawb am gefnogi ac i Siwgwr Plwm Henblas am agor eu drysau!

    Gweld holl luniau Pnawn Agored

     


    Poster gyda gwybodath am y sialensSialens ddarllen:

    Cefnogwch yr her ddarllen dros wythnosau’r haf!

     


    Gardd Ysgol:

    Cynnyrch o’r ardd i gegin Ysgol Henblas ar ddechrau mis Gorffennaf yn barod i’w coginio gan Anti Sian ac Anti Tracy! Daeth Stuart ac Eleni o gwmni ICL i weld gardd yr ysgol. Cwmni ICL oedd tu ol i’r ymgyrch tyfu tatws yn y cartref. Roeddent wrth eu bodd yng ngardd yr ysgol yng nghwmni Mike, Alwyn a Medwyn Williams. Roedd Eleni wedi teithio yr holl ffordd o wlad Groeg! Diolch yn fawr i bawb uchod am eu cefnogaeth mewn menter sydd wedi tanio diddordeb y plant mewn tyfu llysiau!

     



    • ychydig o'r llyseuau sy'n cael eu dyfu
    • llun o pawb o flaen yr gardd
    • athrawes yn cael sgwrs gyda'r disgyblion
    • Pobl yn tynnu llyniau o'r gardd
    • ychydig o'r llyseuau sy'n cael eu dyfu
    • llun o pawb o flaen yr gardd
    • athrawes yn cael sgwrs gyda'r disgyblion
    • Pobl yn tynnu llyniau o'r gardd

    Garddio a mwy (S4C):

    Gwelwyd gardd Ysgol Henblas yn ei gogoniant ar raglen Garddio a Mwy! Rydym yn ddiolchgar iawn i Mike a Louise am roi eu hamser gyda’r plant bob wythnos ac i Alwyn am ddarprau cymaint o blanhigion hefyd!

     

    • Criw yn tynnu llun o'r gardd, ongl 1
    • Criw yn tynnu llun o'r gardd, ongl 2
    • Criw yn tynnu llun o'r gardd, ongl 1
    • Criw yn tynnu llun o'r gardd, ongl 2

    Athletwr rhyngwladol Osian Jones

    Cafodd holl ddisgyblion yr ysgol ddiwrnod gwych yng nghwmni y taflwr gordd rhyngwladol Osian Jones. Bu pob disgybl yn cymryd rhan mewn sesiwn ffitrwydd gydag Amy a Josie o Athletau Cymru. Ac yn ogystal buont yn cymryd rhan mewn gweithdy coginio gydag Elwen a Laura o Hybu Cig Cymru. Maent wedi dysgu am fywyd athletwr a sut mae’n paratoi at gystadleuaeth drwy fwyta’n iachus ac hyfforddi’n ofalus. Diolch i bawb!

    Gweld holl luniau Osian Jones

     


    Dosbarth meithrin Medi 2023

    Bendigedig oedd cael croesawu plant Dosbarth Meithrin 2023-2024 i’w sesiynau blasu. Criw o blant bach hyfryd tu hwnt! Edrychwn ymlaen at eu croesawu ym mis Medi!

     

    • Disgylbion yn eistedd mewn cwt
    • Disgylbion yn eistedd mewn cwt
    • Disgylbion yn eistedd mewn cwt
    • Disgylbion yn eistedd mewn cwt
    • Disgylbion yn eistedd mewn cwt
    • Disgylbion yn eistedd mewn cwt

    Y tim pel droed o flaen golTwrnament peldroed 7 bob ochr

    Llongyfarchiadau mawr i dîm peldroed 7 bob ochr Ysgol Henblas ar ddod yn ail yn nhwrnament Tlws Ieuan Wyn Jones. Er y glaw trwm doedd hynny ddim yn ddigon i lethu’r sgwad. Chwarae’n wych fel tîm yn y gemau grwp. Epic o gem gynderfynol yn curo ar ôl ciciau o’r smotyn ar ôl amser ychwanegol. Yna epic arall yn y ffeinal yn colli i unig gôl wych y gêm yn erbyn Ysgol Bodedern ar ôl amser ychwanegol. Anodd oedd dewis un seren o’r sgwad - Osian dderbyniodd y wobr honno am ei berfformiadau a goliau campus. Diolch anferthol i Barry Edwards heddiw a thrwy’r flwyddyn am roi cymaint o’i amser i hyfforddi’r plant.

     


     

    Edrych yn ol ac ymlaen!

    Cynllun gwella Ysgol Henblas - Edrych yn ol ac i'r dyfodol

    UCHAFBWYNTIAU’R FLWYDDYN 2022-23

    “Llongyfarchiadau i chi i gyd ar ddiwrnod chwaraeon hollol wych. Roedd yr ymdrech a wnaeth staff yr ysgol yn rhagorol...oedd yn golygu fod y prynhawn yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn wych gweld cymaint o blant heini a hapus yn mwynhau chwaraeon gyda'u ffrindiau. Cefais sioc o weld faint o rieni oedd yno, angen tair ras ar gyfer y ras wy ar lwy yn dweud y cyfan. Digwyddiad cymunedol go iawn a oedd yn glod gwirioneddol i'r ysgol.” Cynghorydd Doug Fowlie.

    I ddarllen mwy ar Gynllun gwella Ysgol Henblas cliciwch yma

     


    Criw yn Borthaethwy efo'u rafft yn gwenuRas rafft Menai 2023

    Llongyfarchiadau arbennig unwaith eto i dîm rafft Ysgol Henblas ar guro ras rafft Menai 2023. Dyma’r trydydd tro yn olynol i’r tîm ennill y ras! Diolch i bawb am godi £564 tuag at yr ysgol!

     


    Plant yn gwenu yn dal baner gwyrddDylunio Baner

    Bu’r dosbarth oren yn brysur iawn yn cynllunio ac yn creu baner ar gyfer rafft Ysgol Henblas. Roedd angen sicrhau bod pob llythyren yr un taldra a lled cyn mynd ati i lifio a hoelio'r llythrennau yn eu lle. Llawer iawn o gydweithio gwych! Daeth a'r faner lwc dda i'r tîm rafftio Henblas wrth iddynt ennill y ras eto eleni.

     


    Plant bach yn Fferm Foel o flaen tractor gwyrddYmweliad Fferm y Foel

    Cafodd y plant ieuengaf ddiwrnod bendigedig yn yr haul draw yn Fferm y Foel. Roeddent wrth eu boddau yn cael anwesu anifeiliaid, helpu eu bwydo a chael taith o amgylch y fferm ar dractor a beic cwad. Maent wedi bod yn brysur yn dysgu am fywyd fferm yn y dosbarth, felly roedd y cyfle i weld fferm byw yn un arbennig iddynt!

     


    Tim rygbi tag yn hapus yn eu kit du a melynTwrnament Rygbi tag Ynys Môn

    Fe wnaeth tîm rygbi tag blwyddyn 3 a 4 chwarae’n wych yn y gemau grŵp cyn colli yn yr amser ychwanegol yn rownd cyn derfynol twrnament rygbi tag Ynys Môn. Diolch i Mike a Chris am eu hyfforddi i safon arbennig!

     


    Grwp mawr o blant mewn dillad lliwgar yn gwenu yn Glan LlynGlan-llyn

    Aeth 35 o ddisgyblion i Glanllyn i dreulio penwythnos llawn antur ar y llyn, yn y coed a llawer mwy o weithgareddau cyffrous. Roeddent yn blant arbennig drwy’r penwythnos a diolch i’r oedolion am roi eu hamser i sicrhau fod y fath brofiad yn bosib. Atgofion am oes!

    Gweld holl luniau Glan-llyn


    Criw o blant wrth y mor mewn wetsuits yn dysgu sut i syrffioSwimsafe!

    Cafodd y dosbarth glas hwyl ym Mae Trearddur ar y traeth ac yn y dwr yn mentro ar weithgareddau syrffio! Diolch i Môn Actif am drefnu.

    Gweld holl luniau Swimsafe


    Grwp Eco

    Mae Grŵp Eco Ysgol Henblas wedi bod yn llwyddiannus yn ymgeisio ar gyfer Cynllun Grantiau Cymunedol Tesco. Gobeithiwn ddefnyddio’r arian grant er mwyn gosod system ddyfrhau ar gyfer eginblanhigion, er mwyn eu tyfu’n effeithiol yn yr ‘ystafell ddosbarth coch’ cyn eu symud i ardd hyfryd yr ysgol. Dywedwch wrth eich teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion os gwelwch yn dda! Gobeithio gyda digon o gefnogaeth y byddwn yn llwyddo i dderbyn yr uchafswm o arian grant.Bydd posib cefnogi yn Tesco Bethesda a Bangor!


    Plant mewn dosbarth yn cael gweithdy dramaDa 'di drama

    Cafodd disgyblion blwyddyn 6 ddiwrnod gwych o weithdy drama yng nghwmni yr actorion Rhian Cadwaladr a Gwion Williams. Ymunodd eu ffrindiau o flwyddyn 6 Ysgol Bodffordd hefyd ac roedd digon o egni, hwyl, bwrlwm a chreadigrwydd yn y neuadd. Diolch yn fawr iawn i Rhian a Gwion am eu hafiaith a’u brwdfrydedd.

    Gweld holl luniau'r Gweithdy Drama


    Plant tu allan gyda bwrdd yn llawn llysiauGarddio a mwy!

    Mae’n werth gweld y tyfiant yng ngardd Ysgol Henblas unwaith eto eleni. Cafodd y llysiau eu gwerthu ganol Mehefin a chnwd da ar gael. Daeth Cwmni Da draw i’r ysgol i ffilmio ar gyfer y rhaglen Garddio a Mwy ar S4C gan holi’r plant a Mike. Diolch hefyd i Louise am ei holl waith. Bydd y rhaglen i’w weld yn fuan!

    Gweld holl luniau'r Siop Lysiau


    Theatr Pontio - Jemima

    Aeth 54 o ddisgyblion hynaf yr ysgol i Theatr Pontio i wylio drama am fywyd Jemima Nicholas o Sir Benfro ddiwedd y ddeunawfed gantif. Profiad arbennig o theatr byw i’r disgyblion o wylio cynhyrchiad cwmni Theatr Arad Goch.


    Plant ar cae yr ysgol yn gwneud chwaraeon yn yr wythnos iechyd a ffitrwyddWythnos Iechyd a Ffitrwydd

    Mi fuodd yn wythnos brysur dros ben acw ganol Mehefin! Diolch i bawb wnaeth gyfrannu gan roi profiadau cyffrous i’r plant! Diolch hefyd i Lidl, Total Produce (Gaerwen) ac Iceland am gyfrannu ffrwythau a photeli dŵr.
    ● Ffitrwydd gyda Mel’s Fitness
    ● Karate gyda Karate Cymru
    ● Sgiliau pel gyda Rhodd o Urdd Gobaith Cymru
    ● Swmba gyda Emily Bratherton
    ● Ioga
    ● Sgwrs iechyd meddwl
    ● Sgiliau Scooters
    ● Rygbi
    ● Criced
    ● Dodgeball
    ● Creu kebabs
    ● Gemau pel
    ● Golff troed
    ● Tennis
    ● Gemau amrywiol wedi ei drefnu gan y plant
    ● Taith gerdded i Cwt Llefrith
    ● Meddwlgarwch
    ● Mabolgampau

    Gweld holl luniau'r Wythnos Iechyd


    Plant mewn dillad ymarfer corff yn gwenu yn y mabolgampauMabolgampau Ysgol 2023

    Cafwyd diwrnod arbennig o gystadlu brwd yn y mabolgampau yng ngwres tanbaid Mehefin. Ar ôl cystadleuaeth glos rhwng y ddau dim - Seiriol aeth âhi yn y diwedd!

    Gweld holl luniau'r Mabolgampau


    Ffair Hâf

    Yn dilyn y mabolgampau cynhaliwyd ein ffair hâf - a llwyddwyd i godi yn agos i £800 sydd yn swm anhygoel. Diolch i bawb am gefnogi ac i’r tîm arbennig o’r Gymdeithas Rhieni Athrawon am drefnu!


    Criw o genod yn mwynhau gwersi comet chasersComet Chasers

    Cafodd disgyblion y dosbarth Glas sesiwn arbennig gyda Cai Stoddart Jones yn dysgu am y bydysawd gyda nifer o dasgau ymchwiliol a chyffrous. Diolch Cai am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf!

    Gweld holl luniau'r Comet Chasers


    Plant gyda helmedi a siacedi llachar yn gwenu ar eu beicsBeicio

    Llwyddodd disgyblion blwyddyn 6 dderbyn tystysgrif lefel 1 a 2 yn yr hyfforddiant beicio ddiwedd Mehefin. Da iawn chi a diolch i Ceri a Julie am eu hyfforddi.


    Plant yn Fferm y LlanFferm y Llan

    Bu’r dosbarth gwyrdd i ymweld a fferm odro lleol fel rhan o’r gwaith thema. Cafodd y plant fwynhad mawr wrth gael trafod sut maent yn godro ar y fferm ac yn gofalu am y lloi bach gyda’r perchnogion Lois a Sion. Cafodd pawb gyfle i roi llefrith i’r lloi a gwylio’r gwartheg yn cael eu godro. Roedd y plant wedi dychryn o ddysgu sawl litr oedd y tanc llefrith yn ei ddal yn ddyddiol ac wrth gwrs wedi mwynhau cael blasu ysgytlaeth mefus cyn mynd adref o’r fferm!


     

    Newyddion diweddaraf Ysgol Henblas Mai 2023

     

    Amser stori yn yr ardd!Amser stori yn yr ardd!

    Mae plant y dosbarth gwyrdd wedi mwynhau sesiwn ddarllen yn eu gardd newydd ar ddiwrnod braf o Wanwyn. Wrth wrando ar y stori, braf oedd clywed yr adar yn canu a gweld penbyliaid yn nofio yn y pwll.

     


    plant yn bwydo Wyn Bach
Ffrindiau newydd - yr ŵyn bach!

    Mae’r dosbarth melyn wedi cael edrych ar ôl 2 oen bach fel rhan o’u thema ‘Y Fferm’ mis yma. Cwblhawyd nifer o weithgareddau gyda’r wyn bach gan gynnwys mesur eu taldra, bwydo, tynnu llun byw a darllen stori iddynt. 

     


    plant yn twnel blue plantet a pysgod yn nofio oi gwmpas.Blue Planet

    Cafodd disgyblion y dosbarth oren ddiwrnod bendigedig yn Acwariwm Blue Planet yn dysgu am greaduriaid y môr ac am lygredd môr. Syniad un o’r plant oedd ymweld â’r lleoliad ac roeddent pob un wrth ei fodd yn syllu a rhyfeddu at liwiau’r pysgod amrywiol!

     


    criw Tag rugbyRygbi tag

    Cafodd timau rygbi yr ysgol ddiwrnod gwych yn nhwrnament rygbi tag y dalgylch. Fe wnaeth tri tîm gymryd rhan ac roedd safon y rygbi yn arbennig - llawn cyffro o un pen y cae i’r llall. Llongyfarchiadau i dîm blwyddyn 3 a 4 ar ddod yn ail yn eu hoedran - roedd gweld y criw ifanc yn ymgolli yn y rygbi yn ardderchog! Llongyfarchiadau i dîm blwyddyn 5 a 6 lwyddodd i gyrraedd y rownd gyn derfynol cyn colli yn amser ychwanegol mewn gêm wych. A gêm hynod gyffrous arall wrth golli yn y gêm trydydd safle! Llongyfarchiadau i dîm arall blwyddyn 5 a 6 am ddangos y gallu i gydweithio fel tîm yn dda iawn - a phob un wedi rhoi 100%.

    Clod mawr i Mike a Chris am eu paratoi!


    Selog

    Daeth Selog y ddraig i ganu gyda phlant ieuengaf yr ysgol a phlant y cylch meithrin – sôn am hwyl yn bing bong bongio yn yr awyr agored!


    Plant wedi gwneud posteriCompostio

    Cafodd llawer o bosteri gwych eu creu yn ein dysgu am yr hyn sydd angen ei roi yn y bin compost. Dyma’r posteri ddaeth i’r brig!


    Yr Tim Hoci

    Hoci

    Roedd timau hoci’r ysgol wedi mwynhau yng ngwyl hoci Ynys Môn! Cafwyd gemau cyffrous, a da gweld fod hoci yn cael lle blaenllaw yng nghalendr chwaraeon ysgolion cynradd Ynys Môn.


    Plant ar cefn beciau

    Sgiliau beicio

    Cafodd disgyblion blwyddyn 4 a 5 hyfforddiant beicio gyda’n ffrind da – Debbie o Sustrans! Mae dysgu’r sgiliau cywir cyn mentro ar y beic ar y ffordd fawr yn bwysig iawn ac roedd yn dda gweld pob un yn parchu’r hyfforddiant a’I ddiben. Beicio diogel i bawb – a chofiwch am yr helmed!

     


     

    Newyddion diweddaraf Ysgol Henblas Ebrill 2023

     

    Twrnament rygbi

    Twrnament rygbi

    Cafodd y plant hynaf ddiwrnod da yn nhwrnament rygbi’r Urdd ar gaeau clwb rygbi Llangefni. Enillodd yr hogia ddwy gêm yn eu grŵp taclo. Enillodd y genod bob gêm yn eu grwp tag cyn colli yn y rownd gyn derfynol. Diolch yn fawr i Mike a Chris am eu hyfforddi!


     

    Pedwerydd drwy Gymru!

    Llongyfarchiadau mawr Ysgol Henblas!
    Rydym wedi dod yn bedwerydd yng nghategori Ysgolion Bach Cymru yn yr ymgyrch Stroliwch a Rholiwch! Diolch i bawb am gefnogi! HWRE!


    Fferm odro

    Fferm odro

    Bu’r dosbarth melyn yn ymweld â fferm godro Fferam y Llan (Cwt Llefrith) fel rhan o’u thema ‘Y Fferm’. Diolch o galon i Lois a’r teulu am eu croesawu a chynnig profiadau gwerth chweil. Cafodd y plant ddiwrnod bendigedig!


    Twrnament peldroed

    Twrnament peldroed

    Bu’r tîm peldroed yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth peldroed 5 ochr er cof am Mr Alun Wyn Mummery. Cafwyd gemau da a phob un yn trio ei orau glas. Da iawn bawb a diolch i Barry am eu hyfforddi!


    Trawsgwlad sirol

    Trawsgwlad sirol

    Aeth 15 o ddisgyblion i gynrychioli’r ysgol yn rownd derfynol trawsgwlad Ynys Mon ar gaeau Ysgol Gyfun Llangefni. Da iawn bawb am gymryd rhan - ac yn enwedig i Morgan am ddod yn drydydd yn y ras i fechgyn blwyddyn 5 a 6.

    Tymor y Gwanwyn 2023

    Newyddion diweddaraf Ysgol Henblas Mawrth 2023

     

    Helen Munro yn gyflwyno hanes Private John WalshPrivate John Walsh

    Diolch yn fawr iawn i Helen Munro am gyflwyno hanes Private John Walsh (sef taid Donny a hen daid Jacob a Harry) yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu’n filwr yn Ffrainc ac yn Affrica ac fe ddychwelodd i fod yn rhan o ymgyrch D-Day. Roedd gan Helen lawer o ddogfennau diddorol yn ogystal â medalau John i’w dangos i’r plant. Mae’r plant yn sylweddoli mor bwysig yw cofio am ymdrech rhai fel John.

    Gweld yr holl luniau Private John Walsh


    Garddio a her tyfu tatwsGarddio a her tyfu tatws

    Mae’r plant wedi bod yn plannu yn yr ardd dan arweiniad Mike a Louise - nionod, letys a thatws. Edrychwn ymlaen at weld y cynnyrch terfynol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cafodd y plant gyflwyniad gan Stuart o ICL am dyfu llysiau. Mae Stuart wedi gosod sialens tyfu tatws i'r plant rhwng y gwanwyn a mis Mehefin a bydd gwobr i'r rhai sy'n llwyddo i dyfu y mwyaf o datws a'r rhai sy'n llwyddo tyfu y tatws mwyaf!! Ewch amdani blant! Dyma blant y dosbarth melyn yn plannu yn yr ardd!

    Gweld yr holl luniau Garddio a her tyfu tatws


    Stroliwch a Rholiwch a Dr BeicStroliwch a Rholiwch a Dr Beic

    Mae’r plant yn ddiolchgar i Dr Beic am ddod i’r ysgol i wirio fod beic y disgyblion yn addas ar gyfer teithio ar hyd ffyrdd a llwybrau lleol. Rhoddwyd sylw i’r brêcs, y gadwyn, y sedd a’r teiars. Mwynhewch y beicio diogel blantos! Dros bythefnos olaf Mawrth roedd yn wych gweld y beics, y sgwters, skateboards a’r cerddwyr yn cefnogi ymgyrch Stroliwch a Rholiwch! Mae’n grêt bod y plant yn gwerthfawrogi dulliau teithio uach sy’n llesol i’r amgylchedd. Fe wnaeth Heidi deithio 5 milltir gyda’i rhieni er mwyn cyrraedd yr ysgol. Ymdrech arbennig iawn!

     


    enillwyr y TrawsgwladTrawsgwlad

    Llongyfarchiadau i bob disgybl am gymryd rhan yn y ras traws gwlad i ysgolion y dalgylch. Fe wnaeth pawb orffen y cwrs ar ddiwrnod heriol i redeg. Llongyfarchiadau arbennig i Morgan ddaeth yn gyntaf ynoedran blwyddyn 5/6 ac i Gwilym ddaeth yn drydydd yn yr oedran blwyddyn 3/4. Gwych iawn.

    Gweld yr holl luniau Trawsgwlad

     


    Neuadd LlangristiolusNeuadd Llangristiolus

    Diolch o galon am y croeso gafodd y dosbarth glas yn Neuadd Llangristiolus. Cafodd y plant gyfle i holi’r trigolion am yr Ail Ryfel Byd ac roedd yr ymatebion yn sôn am berthnasau oedd wedi byw drwy’r cyfnod yn ddiddorol dros ben e.e.y bomiau oedd wedi disgyn yn Holland Arms a Gwalchmai, y siopau oedd yn arfer bodoli yn Llangristiolus, dysgu am T.G.Walker, a’r stori pam nad oedd ifaciwis wedi aros yng Nghaergeiliog. Bore arbennig o ddysgu am gyfnod anodd iawn.

    Gweld yr holl luniau Neuadd Llangristiolus


    Disgyblion yn castell caernarfonCastell Caernarfon

    Dysgodd y dosbarth glas lawer am ryfel ac heddwch yn ystod y daith i Gastell Caernarfon wrth ymweld ag arddangosfa y Ffiwsilwyr Cymreig. Roedd ymatebion y disgyblion yn dangos eu brwdfrydedd amlwg tuag at y testun gan drafod y digwyddiadau mewn modd aeddfed a sensitif.

    Gweld yr holl luniau Castell Caernarfon

     


    Eisteddfodau yr Urdd

    Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n cystadlu yn eisteddfodau cylch yr Urdd. Yn yr eisteddfod rhanbarth cafwyd diwrnod pellach o lwyddiannau - llongyfarchiadau arbennig i Carwen ar dderbyn y wobr gyntaf yn yr unawd cerdd dant blwyddyn 3 a 4, i Sara ar dderbyn y drydedd wobr ar lefaru blwyddyn 5 a 6, i’r cor ar dderbyn y drydedd wobr, ac i Beca am gystadlu mor dda yn y llefaru blwyddyn 3 a 4. Rydym yn falch iawn ohonoch. Diolch i’r plant am eu holl ymdrechion wrth ymarfer dros yr wythnosau diwethaf ac i’r rhai fu’n hyfforddi a chyfeilio. Diolch hefyd i’r rhai fu’n stiwardio ar ran Ysgol Henblas.Pob hwyl i Carwen yn yr eisteddfod genedlaethol ddiwedd Mai.


    Urdd eisteddfodSet Rownd a Rownd

    Fe wnaeth disgyblion y dosbarth oren fwynhau cael ymweld â set Rownd a Rownd yn stiwdio Aria. Cafwyd blas o’r amserlen ar gyfer ffilmio fan ddysgu sut mae cyfres fel hyn yn cael ei chreu. Mae’r disgyblion wrth eu boddau gyda Rownd a Rownd a diolch i’r cwmni am y wefr o flasu byd ffilmio yn y stiwdio newydd.

     

     


    Gorymdaith Gwyl DewiGorymdaith Gwyl Dewi

    Ymunodd disgyblion y dosbarth glas gyda’u cyfoedion o’r dalgylch gan fwynhau gorymdaith Dydd Gwyl Dewi ar strydoedd Llangefni! Ymlwybrodd yr orymdaith tuag at ganolfan

     

     


    Disgylion yn Pentre peryglonPentre peryglon

    Cafodd disgyblion y dosbarth oren a glas ymweliad campus â chanolfan Pentre Peryglon yn dysgu am ddulliau pwysig o gadw’n ddiogel yn y cartref a thu hwnt i’r cartref.

    Gweld yr holl luniau Pentre peryglon

     

     


    Disgylion di gysgo fyny i Diwrnod y llyfrDiwrnod y llyfr

    Roedd disgyblion yr ysgol wedi mwynhau dathlu diwrnod y llyfr wrth wisgo i fyny fel eu hoff gymeriadau o lyfr. Gweler isod blant y dosbarth gwyrdd yn eu gwisgoedd - cafwyd llawer o straeon diddorol yn ystod y diwrnod!

     

     

    Tymor yr Hydref 2022/23

    Newyddion diweddaraf Ysgol Henblas Tachwedd i Chwefror 2023

    Ardal allanolLlongyfarchiadau mawr i’r tîm pelrwyd

    Llongyfarchiadau mawr i’r tîm pelrwyd ar ddod yn ail yn nhwrnament y dalgylch. Cafwyd perfformiadau campus a gwaith tîm ardderchog. Da iawn chi blantos. Rydym yn falch iawn o’ch llwyddiant.


    Pupiles taking a picture with the Team Wales Weightlifting with Hannah Powell and Christie Williams Codi Pwysau Tîm Cymru

    Rhoddodd disgyblion y dosbarth oren groeso i Hannah Powell a Christie Williams, athletwyr codi pwysau Tîm Cymru. Cawsont wybod am ddulliau hyfforddi a diet athletwyr elit wrth baratoi ar gyfer cystadlaethau pwysig. Diolch i’r ddwy am brynhawn difyr dros ben.


    Ardal allanol

    Gofodwyr Ifanc

    Mae’r dosbarth gwyrdd wedi trawsnewid i fod yn long ofod y tymor hwn. Aeth y gofodwyr ifanc i’r lleuad yn eu helmedau unigryw i fwynhau picnic! Dysgu byw ar ei orau!


    The Very Hungry Caterpillar

    Y Lindysyn llwglyd iawn

    Diolch i gwmni Chartwells am rannu stori ‘Y Lindysyn llwglyd iawn’ gyda phlant y dosbarth melyn a gwyrdd a rhoi cyfle i bawb flasu bwydydd iach.


    Farewell to Mrs Llio Tomos

    Ffarwel i Mrs Llio Tomos

    Diolch o galon a ffarwel i Mrs Llio Tomos am ei gwasanaeth arbennig yn Ysgol Henblas dros y misoedd diwethaf. Mae wedi bod yn bleser cael cydweithio gyda Mrs Tomos ac fe fyddwn yn gweld ei cholli yma. Pob dymuniad da i’r dyfodol ac fe fydd croeso i chi yma bob tro.


    Ardal allanolArdal allanol

    Diolch o galon i gwmni Premier developments Ltd am sicrhau fod mynediad i’r gazebo yn lan a diogel ar hyd y flwyddyn i’r plant.
    Yn ogystal, erbyn hyn mae ffram chwarae newydd ar yr iard sydd yn boblogaidd iawn gyda’r plant i gyd. Dyma adnodd cyffrous newydd i’r ysgol sydd yn diddanu’r plant yn ystod cyfnodau amser chwarae!

    Gweld yr holl luniau Ardal Allanol


    Plant yn creu smwthiesSmwddis

    Bu’r dosbarth oren a glas yn creu smwddis blasus gan ddefnyddio amrediad eang o ffrwythau a llysiau. Ond nid trydan oedd yn gwasgu’r cwbl i hylif trwchus terfynol – ond pwer y pedalau ar y beic. Roedd cyfle i bawb flasu y smwddis unigryw iawn!

    Gweld yr holl luniau Creu Smwddis


    Gala nofioGala Nofio

    Aeth y sgwad nofio draw i bwll nofio Plas Arthur i gymryd rhan yn y gala nofio. Llongyfarchiadau i bob un am gystadlu mor bositif!

    Gweld yr holl luniau Gala Nofio


    dau o blant gyda athrawes yn gafael blodau, anrheg a cerdynFfarwel Miss Manon Jones

    Rydym hefyd yn diolch i Miss Manon Jones am ei gwasanaeth gyda’r dosbarth glas dros y ddeufis diwethaf. Myfyrwraig yw Miss Jones sydd wedi mwynhau ei hamser gyda’r disgyblion hynaf. Pob hwyl iddi ar ei phrofiad ysgol nesaf.


    criw o blant gyda athrawes yn gafael blodauFfarwel Mrs Sian Herbert

    Ar ddiwedd y tymor – roedd yn ddiwrnod rhyfedd i ni yn Ysgol Henblas - wrth ffarwelio gyda Mrs Sian Herbert sydd wedi bod yn addysgu’r dosbarth melyn ers Ebrill 2022. Mae wedi bod yn wir bleser cael Mrs Herbert fel aelod staff yn Ysgol Henblas - mae hi’n berson hyfryd ac hynaws ac mae’r plant yn meddwl y byd ohoni. Rydym yn dymuno pob hapusrwydd iddi yn ei swydd newydd yn Ysgol Waunfawr gan ddatgan y bydd croeso cynnes iddi bob tro yn Ysgol Henblas.


    7 o blant ar lwyfan yn chware guitarCyngerdd offerynnol

    Mae 14 o ddisgyblion yn cael gwersi offerynnol ac ar ddiwedd y tymor fe wnaethont berfformio o flaen eu ffrindiau mewn cyngerdd. Mae’n gret eu gweld yn perfformio mor hyderus.


    criw o blant yn gafael calendr mae nhw wedi greu.Grwp mentergarwch

    Rydym yn llongyfarch y grwp mentergarwch wrthy iddynt ymwneud a’r fenter ddiweddaraf o greu a gwerthu calendrau ar gyfer 2023. Llwyddodd y fenter hon godi £188 – edrychwn ymlaen at weld mwy o fenter yn ytsod 2023!


    Ffair Nadolig

    Diolch yn fawr iawn i dim ffantastig Cymdeithas Rhieni Athrawon sydd wedi trefnu’r Ffair Nadolig eleni. Cwta bythefnos yn ol oedd dyddiad y ffair yn cael ei drefnu, ond eto mewn cyfnod byr iawn mae’r pwyllgor wedi llwyddo i drefnu noson arbennig iawn. Roedd yr ysgol yn orlawn a llwyddwyd i godi £825. Diolch i bawb am genfogi unwaith eto.

     

    • 030123-ffair-nadolig-a
    • 030123-ffair-nadolig-b
    • 030123-ffair-nadolig-c
    • 030123-ffair-nadolig-a
    • 030123-ffair-nadolig-b
    • 030123-ffair-nadolig-c

    Diwrnod Siwmper Nadolig

    Casglwyd £115 tuag at Achub y Plant wrth i’r plant a;r staff wisgo yn Nadoligaidd er mwyn cefnogi elusen arbennig iawn.


    plant wedi gwisgo mewn gwisgoedd i adrodd stori'r geniAgor y Llyfr

    Diolch i griw Agor y Llyfr am gyflwyno hanes y geni i’r ysgol gyfan. Roedd yn wych eich croesawu eto i’r ysgol wedi cyfnod y pandemic. Edrychwn ymlaen at eich gweld eto yn 2023!


    Dw Dolig

    Aeth criw o’r ysgol i neuadd bentref Llangristiolus i ganu yn y Dw Dolig ar ddydd Sadwrn Rhagfyr 10ed – digwyddiad cymunedol oedd hwn. Roedd y neuadd yn orlawn a naws hyfryd yno.


    Criw o blant yn y capel yn cannu carolauNoson Carolau’r Urdd

    Diolch i’r cor o Ysgol Henblas fu’n canu ‘Eira’n disgyn’ yng Nghapel Moreia mewn noson hyfryd o ganu carolau wedi ei drefnu gan yr Urdd.


    criw o blant yn ei hetiau Nadolig yn bwyta cinio Nadolig yn yr ysgolCinio Nadolig

    Diolch i Anti Sian ac Anti Tracy am ginio Nadolig ardderhcog eleni!

    Gweld yr holl luniau Cinio Nadolig


    Sion Corn yn codi llaw o helicopterSion Corn

    Roedd ymwelydd arbennig yn hofran mewn hofrennydd uwchben ddwywaith ganol Rhagfyr – neb llai na Sion Corn ei hun gyda chymorth gan wylwyr y glannau a’r llu awyr. Roedd y plant wedi gwirioni yn lan! Ho ho ho!


    criw o blant ar ei sgwteri a beic wedi addurno gyda tinselBlingio Beic

    Roedd mynediad yr ysgol yn Nadoligaidd iawn ar fore dydd Gwener Rhagfyr 16eg. Roedd llu o feiciau a sgwteri wedi eu haddurno gyda thinsel – diolch I bawb am gefnogi ein ymgyrch ysgol teithiau llesol.

    Gweld yr holl luniau Blingio Beic


    criw o blant yn sefyll o flaen yr ysgol yn gafael bagiau bwydCalendr Adfent o chwith

    Daeth Rhun ap Iorwerth AS a’r Cynghorydd Geraint Bebb i gasglu eich holl roddion tuag at banc bwyd Ynys Mon. Diolch o galon am eich haelioni.


    criw o blant yn sefyll ar llwyfan mewn dillad nadoligCyngherddau Nadolig

    Mae’r wythnos ddiwethaf hon wedi bod yn un arbennig yn Ysgol Henblas gyda pherfformiadau ardderchog gan y plant wrth gyflwyno gwasanaeth a sioe Nadolig. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt - maent yn haeddu pob clod.

    Gweld yr holl luniau o'r Cyngherddau Nadolig


    bocsus o anrhegion wedi lapioTeams4U

    Diolch i bawb am gefnogi’r apel bocsys Nadolig eto eleni. Mae eich cyfraniadau yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn.


    y tim peldroed yn ei kit yn sefyll gyda'i gilyddPel droed 5 bob ochr

    Dyma’r sgwad peldroed 5 bob ochr fu’n cystadlu yn nhwrnament y dalgylch. Da iawn bawb am berfformio mor dda gydag agwedd bositif.


    Cyngor Ysgol

    Cafodd aelodau hynaf y cyngor ysgol fore bendigedig gyda’u cyfoedion o’r dalgylch yn Ysgol Gyfun Llangefni yn dod i adnabod ei gilydd. Dyma ddechrau ar raglen waith benodol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn ogystal fe gafodd holl aelodau Cyngor Ysgol Henblas sgwrs ddifyr gydag aelodau y corff llywodraethol yn trafod eu gwaith a’u dyheadau ar gyfer y flwyddyn i ddod.


    criw o blant yn codi bawdAthletau

    Cafodd y criw athletau hynaf ddiwrnod da ym Mhlas Arthur yn cymryd rhan yn yr wyl athletau dalgylchol. Llongyfarchiadau i bob un am berfformio mor dda.


    Plant mewn Angen

    Diolch i bawb am godi £192 tuag at elusen Plant Mewn Angen 2022.


    Criw o blant yn plannu cennin pedr yn plas NewyddPlas Newydd

    Cafodd y dosbarth oren ddiwrnod hyfryd ym Mhlas Newydd yn plannu dros 800 o gennin pedr. Edrychwn ymlaen at eu gweld wedi blaguro yn y flwyddyn newydd.


    grwp o blant wedi gwisgo mewn dillad Cymru neu coch o flaen yr ysgolCwpan y Byd

    Roedd llawer o gyffro yn Ysgol Henblas drwy gydol mis Tachwedd wrth baratoi at gwpan y byd peldroed 2022. Ymunodd y plant ag ysgolion ar hyd a lled Cymru wrth gymryd rhan yn jambori cwpan y byd yr Urdd. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Dylan Griffiths sef sylwebydd peldroed BBC Radio Cymru am yrru diweddariadau o Qatar yn arbennig i blant Ysgol Henblas. Rydym yn falch iawn o lwyddiant y tim peldroed a’r holl gyffro mae’r twrnament wedi dod yn ei sgil.


    dau o blant ar laptop gyda Robin WilliamsCodio

    Cafodd disgyblion y dosbarth glas ddiwrnod bendigedig o godio gyda Robin Williams. Buont yn arbrofi gyda meddalwedd Scratch, Microbit ac yn hedfan drôn o amgylch y dosbarth! Diolch i Robin am danio brwdfrydedd pob disgybl.


    Sesiwn drymio Urdd

    Cynhaliodd Osian Rhys Roberts sesiwn ardderchog o ddrymio gyda chlwb yr Urdd. Diolch Osian am danio brwdfrydedd y disgyblion!

     

    • 030123-sesiwn-drymio-urdd-a
    • 030123-sesiwn-drymio-urdd-b-sm
    • 030123-sesiwn-drymio-urdd-a
    • 030123-sesiwn-drymio-urdd-b-sm

    grwp o ferched yn sefyll gyda dau masgotPeldroed i ferched

    Cafodd genethod blwyddyn 1,2 a 3 ddiwrnod llawn hwyl yn yr UEFA Disney Playmaker. Diolch i Mon Actif am drefnu.


    Plant yn sefyll tu allan gyda Merfyn JonesDiolch i Merfyn Jones

    Mae’r ardal allanol ar gyfer y plant ieuengaf wedi trawsnewid dros y misoedd diwethaf. Yn ddiweddar cawsom fel ysgol ddiolch i Merfyn Jones am ei waith arbennig yn cynllunio ac yn ail greu yr ardal. Mae’r plant a’r staff wrth eu boddau yn defnyddio’r cyfleusterau newydd sydd ar gael drwy’r flwyddyn gron.


    plant yn mwynhau yn melin llynonMelin Llynnon

    Bu’r dosbarth gwyrdd yn ymweld a’r tai crynion yn Melin Llynnon. Cawsom gyfle i ddysgu sut oedd tai yn cael eu hadeiladu dros 2000 o flynyddoedd yn ôl. Cafodd pawb llawer o hwyl yn dysgu ffeithiau am y tai crynion gyda Richard Holt.


    plant yn gwisgo siacedi diogelwch ofalen jac-codi-bawAdeiladu

    Mae’r dosbarth gwyrdd wedi cael profiad gwych o gael eu hyfforddi ar sut i adeiladu waliau a defnyddio peiriannau gan Joey Taylor o gwmni Premier Development fel rhan o waith ‘Y tri mochyn bach’. Roedd pawb yn llawn cyffro cael bod yn adeiladwyr am y diwrnod ac wedi mwynhau y profiad yn fawr iawn. Rydym yn diolch yn fawr iawn iddo am ei amser ac i Huws Gray am gyfranu deunyddiau ar gyfer y sesiwn.

    Gweld yr holl luniau o'r dosbarth Gwyrdd yn Adeiladu


    plant yn edrych ar froga bachAm dro

    Roedd y dosbarth melyn wedi mwynhau taith o amgylch y pentref yn chwilio am arwyddion yr Hydref. Roedd y plant wrth eu boddau yn clywed sŵn y dail o dan eu traed a chanu ‘dail yr Hydref’ ar y daith. Diolch i Louise Martin a Mike Allen am ymuno yn y daith ac i Mike am ddangos y bywyd gwyllt sydd yn byw yn eu pwll dwr! Roedd cyffro mawr wrth i bawb gyfarfod y broga bach!


    casgliad o luniau o blant yn y goedwigAm dro i’r goedwig

    Cafodd y dosbarth oren brynhawn difyr yn y goedwig yn creu offerynnau gyda deunyddiau naturiol cyn mynd ati i ganu cân am y goedwig. Mae’r plant wrth eu boddau yn manteisio ar yr amgylchedd arbennig sydd o amgylch yr ysgol


    Grwp o blant tu allan i CarreglwydCyfeiriannu

    Cafodd y dosbarth glas brynhawn bendigedig yn Carreglwyd, Llanfaethlu yn datblygu eu medrau cyfeiriannu. Ar ol picnic yn amgylchedd hyfryd Carreglwyd buont wrthi yn brysur yn chwilio am y targedau amrywiol ar hyd y caeau ac o amgylch y llyn. Da iawn bawb am fod mor frwdfrydig yn ystod y diwrnod.

    Gweld mwy o luniau o ddiwrnod dosbarth Glas yn Cyfeiriannu


    Dangos y cerdyn coch i hiliaeth

    Ar ddiwrnod dangos y cerdyn coch i hiliaeth daeth y disgyblion i’r ysgol mewn dillad coch i ddangos eu cefnogaeth yn erbyn hiliaeth ar unrhyw lefel yn eu bywydau. Neges bwysig ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn.


    Wythnos seiclo i’r ysgol

    Roedd golygfa wych o lawer o feiciau a sgwteri y tu allan i’r brif fynedfa a mynedfa plant y cyfnod sylfaen yn ystod wythnos seiclo i’r ysgol rhwng Hydref 3-7. Mae hyn yn rhan o ymwneud yr ysgol ȃ chynllun ‘Teithiau Iach Sustrans’. Diolch i bawb am gefnogi’r ymgyrch hyd yma - bydd mwy o weithgareddau yn ystod y flwyddyn!


    Diolchgarwch

    Ar ddiwedd y tymor cafwyd dau berfformiad o wasanaeth diolchgarwch Ysgol Henblas 2022. Roedd y neuadd yn llawn ar gyfer y ddau berfformiad a’r plant yn rhoi o’u gorau. Mae mor braf cael agor ein drysau unwaith eto i’r gymuned gael bod yn rhan o gynulleidfa fyw yn yr ysgol. Cafwyd perfformiadau llawn bwrlwm gan y pedwar dosbarth cyn i baw

    b ymuno fel un côr mawr i ganu i gloi. Gwnaethpwyd casgliad o £269 tuag at Banc Bwyd Ynys Mon.

    Lluniau Diweddaraf

    Lleoliad


    Gweld Ysgol Henblas mewn map mwy

    Cysylltu

    • Pennaeth: Mr Huw Jones
      Ysgol Henblas
      Llangristiolus
      Bodorgan
      Ynys Môn
      LL62 5DR

    • 6602156_pennaeth.henblas@hwbcymru.net
    • 01248 723 944

    Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd Pobl Ifanc
    Hawlfraint © 2025 Ysgol Henblas ~ Gwefan gan Delwedd.