Archif Newyddion 2018-2021
Tachwedd 2021
Llythyr Diwedd Tymor
Penpals
Mae disgyblion hynaf yr ysgol wedi bod yn ysgrifennu at drigolion mewn rhai o gartrefi gofal Ynys Môn mewn ymgyrch wedi ei gydlynnu gan Menter Môn. Yn ddiweddar daeth Aaron Morris heibio o Menter Môn gyda llythyrau yn ateb ac roedd y disgyblion wedi gwirioni eu derbyn. Bydd mwy o lythyrau yn dychwelyd y ffordd arall cyn y Nadolig.
Plant Mewn Angen
Diolch i bawb fu mor hael yn helpu i gasglu £200 tuag at Plant Mewn Angen. Gwisgodd y plant yn eu pyjamas neu ddillad lliwgar ar y diwrnod ac rydym mor falch o allu helpu achos mor deilwng.
Bocs Nadolig
Achos arall sydd yn golygu llawer i blant Ysgol Henblas yw’r ymgyrch creu bocs Nadolig ar gyfer plant llai ffodus. Aethpwyd â llond car o focsus i’r ganolfan gasglu leol - diolch i’r plant a’r rhieni am eich haelioni unwaith eto eleni.
Cofio
Cafodd y plant brofiad arbennig o sefyll yn dawel yn eu dosbarthiadau yn gwrando ar Mike Allen yn chwarae y ‘post olaf’ yn neuadd yr ysgol. Dangoswyd parch arbennig gan y plant. Cofiwn ac nid anghofiwn.
Athletau
Cafodd y tîm athletau fore campus yng nghanolfan chwaraeon Plas Arthur yng nghystadleuaeth athletau drefnwyd gan Môn Actif. Cafwyd llawer o berfformiadau arbennig a’r disgyblion wedi mwynhau yn fawr. Ymlaen i’r rownd nesaf fis Ionawr!
Priodas Pum Mil
Cofiwch wylio y rhaglen boblogaidd ‘Priodas Pum Mil’ ar S4C nos Sul Rhagfyr 12ed. Bydd Gwenllian - merch Anti Sian y gegin yn priodi. Rydym yn gwybod am ddoniau Mrs Manon Roberts fel athrawes arbennig, ac ar y rhaglen fe welwch ei dawn fel cogydd gan mai hi greodd y gacen briodas! Gwych iawn.
Calendr adfent o chwith
Byddwn fel ysgol yn cefnogi ymgyrch Calendr Adfent o Chwith. Bwriad y cynllun yw casglu eitemau drwy gydol mis Rhagfyr a’u cyflwyno i’r banc bwyd lleol ar ddiwedd y mis. Drwy wneud hyn, gobeithiwn y gall disgyblion Ysgol Henblas wneud gwahaniaeth i fywydau trigolion lleol ar drothwy’r Nadolig. Gellir gadael yr eitemau a restrir yn y llun uchod yn y stondin llysiau ger mynedfa’r ysgol. Diolch i Rhun ap Iorwerth AS am ddod draw i’r ysgol i sôn am yr ymgyrch arbennig yma.
Dymuniadau da
Rydym yn croesawu Mrs Rozena Edwards Hughes sydd wedi ymuno gyda’r tîm yn y cyfnod sylfaen. Yn ogystal, rydym yn cydymdeimlo gydag Anti Diane yn dilyn profedigaeth cymar ei mam. Estynwn ein cofion cynhesaf tuag at Anti Diane a’r teulu yn eu hiraeth.
Cegin fwd
Rydym yn ddiolchgar iawn i Barry, Katie a Peter am greu cegin fwd newydd sbon ar gyfer plant y dosbarth melyn gydag arian gafodd ei sicrhau drwy grant gan ‘Ffrindiau Mon’. Mae’r plant wrth eu boddau yn defnyddio eu dychymyg gyda’r offer newydd – ac mae’r wynebau hapus uchod gyda Barry yn dweud y cwbl! Diolch i Ffrindiau Mon am y grant.
Hydref 2021
Arlunwyr o fri!
Mae disgyblion y dosbarth gwyrdd wedi bod yn brysur ac yn greadigol iawn yn efelychu gwaith artistiaid yr hanner tymor hwn. Maent wedi creu lluniau wyneb ffrwythau fel yr arlunydd Giuseppe, wedi creu wynebau lliwgar fel Picasso ac wedi creu coed y tymhorau yn defnyddio arddull Kandinsky.
Popart
Mae disgyblion y dosbarth glas wedi bod yn astudio arddull ‘popart’ fel rhan o’r thema 1960au. Wedi sesiynau yn creu portreadau o bobl o’r cyfnod yn cynnwys Dafydd Iwan, Gwynfor Evans, Shirley Bassey a Cilla Black aethont ati i drawsnewid y portreadau ar ffurf popart. Mae’r oriel derfynol yn werth ei gweld.
Blasu a chreu bara
Mae disgyblion y dosbarth oren wedi bod yn dysgu am gynnyrch lleol, ac fel rhan o’r gwaith maent wedi bod yn blasu ac yn gwerthuso amrywiaeth o fara gwahanol cyn mynd ati i bobi bara eu hunain. Roedd hi’n fore prysur o ddilyn cyfarwyddiadau rysait, pwyso, amseru a chyd-weithio. Roedd arogl arbennig o’r dosbarth ar ddiwrnod y pobi. Yn ôl pob sôn roedd y bara ffres yn werth ei flasu!
Ymweld ag Eglwys Llangristiolus
Braf oedd clywed lleisiau swynol y plant yn canu yn ystod ymweliad y cyfnod sylfaen ag Eglwys Llangristiolus. Diolch yn fawr i’r Parchedig Emlyn Williams am y croeso a’i sgwrs ddifyr gyda’r plant.
Cyfeirannu
Cafodd disgyblion y dosbarth glas fore llawn hwyl yn cyfeiriannu yng Ngharreglwyd, Llanfaethlu. Roedd digon o antur wrth chwilio am y targedau penodol ar y map o amgylch harddwch yr ystâd.
Pacedi creision
Diolch i’r plant am gasglu cymaint o bacedi creision gwag er mwyn cefnogi ymgyrch leol i greu blancedi ar gyfer y di-gartref.
Diolchgarwch
Cafwyd pedwar cyflwyniad arbennig gan y dosbarthiadau i ddathlu diolchgarwch 2021. Da iawn chi blantos!
Ymwelydd!
Mae ffrind newydd wedi ymddangos yng ngardd Ysgol Henblas! Mae’r ardd yn datblygu wythnos ar ôl wythnos ac mae’r bwgan brain, y gwesty pryfetach a’r llwybr troed wedi ychwanegu at ardal sy’n ysbrydoli!
Anti Emma ac Anti Chereece
Rydym yn dymuno’n dda i Anti Emma ac yn ei llongyfarch ar ôl derbyn swydd gyda chanolfan ABC. Rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei gwasanaeth i Ysgol Henblas dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn yr un modd rydym yn croesawu Anti Chereece sydd yn fyfyrwraig yn y dosbarth gwyrdd
Medi 2021
Fferam y Llan
Fel rhan o’r thema Bwyd a Ffermio cafodd y dosbarth oren ymweld â Fferam y Llan er mwyn dysgu am fywyd fferm. Fel yr arfer – cawsont groeso cynnes iawn gan Sion a Lois ac roedd y plant wrth eu boddau – ac wedi gwirioni wrth fwydo’r lloeau!
Plant newydd
Rydym wedi croesawu 14 o blant bach newydd i’r dosbarth meithrin ac 11 i’r dosbarth derbyn y mis Medi hwn. Mae’r croeso i’r plant a’u rhieni i Ysgol Henblas yn un cynnes iawn ac mae’r staff yn cael amser difyr iawn yn eu cwmni eisoes!
Owain Glyndwr
Ar Fedi 16eg bu holl blant yr ysgol yn dathlu diwrnod Owain Glyndwr gan ganu’r gân eiconig ‘Ie Glyndwr’ ar y cyd ar iard yr ysgol. Cafwyd canu angerddol ac ysbrydoledig, ac fe allwch wrando ar y fersiwn llais drwy ddilyn y linc: https://bit.ly/2WgsLj8
Garddio
Diolch i’r nifer dda o rieni ddaeth draw i ardd Ysgol Henblas ar brynhawn dydd Sul braf ym mis Medi. Trefnwyd y digwyddiad gan y Gymdeithas Rhieni Athrawon ac fe wnaethpwyd gwaith aruthrol mewn cwta ddwy awr – clirio, chwynu a thocio. A chyfle hyfryd i gymdeithasu dros baned o de a chacen!
Anti Carol
Rydym yn anfon ein cofion annwylaf at Anti Carol yn dilyn ei phrofedigaeth o golli ei thad. Mae cymuned yr ysgol yn meddwl amdanoch Anti Carol ac yn edrych ymlaen i’ch croesawu yn ôl.
Peintio’r Ysgol
Dros wythnosau olaf Awst cafodd yr ysgol ei pheintio gan Martin Jones, Llanfairpwll. Mae’n werth ei gweld ac mae’r plant wedi gwirioni gyda’r effaith Balamory yng nghefn yr ysgol yn cydfynd gyda lliwiau’r dosbarthiadau!
Caban newydd
Mae’n siwr fod y trigolion lleol wedi sylwi hefyd ar y gwaith dymchwel sydd wedi digwydd dros yr haf. Mae’r hen gaban ar gyfer y cylch meithrin wedi diflannu ac mae’r caban newydd wedi cyrraedd mewn 4 darn – a’i godi yn urddasol i’w le gyda chymorth craen anferth! Bydd y cylch meithrin yn symud yn ôl yno fis Tachwedd – dyddiad i’w gadarnhau.
Newyddion Gorffennaf
Pob hwyl Blwyddyn 6! Farewell Year 6
Ffilm fer yn dathlu’r deuddeg disglair sydd yn ein gadael o flwyddyn 6.
https://youtu.be/T04rpFPA5VM
Hwyl y diwrnod olaf
Cawsom ddiwrnod hyfryd yn ffarwelio a dawnsio gyda blwyddyn 6. Gweler y lluniau isod:
https://flic.kr/s/aHsmWcUvTD
Uchafbwyntiau’r flwyddyn
Uchafbwnytniau’r flwyddyn mewn llai na 6 munud!
https://youtu.be/HgVXK2nlTSw
Prynhawn hwyl y cyfnod sylfaen!
Cafodd plant y cyfnod sylfaen lond trol o hwyl yn chwarae gemau (ac yn gwlychu) ar gae’r ysgol. Diolch eto i Barry a Dwynwen Draig am ddod draw! Diolch hefyd i'r CRA am y rhodd caredig tuag at yr hufen ia i’r holl blant!
https://www.facebook.com/YsgolHenblas2019/videos/1245844702516056/
Diwrnod ar y traeth!
Cafodd y dosbarth oren ddiwrnod i'w gofio ar y traeth ddiwedd y tymor - gweithgareddau, gemau a barbeciw yn yr haul. Diolch i staff Urdd Ynys Môn am yr hwyl a’r cwmni a’r chwarae!
Diwrnod yn Fferam y Llan!
Faint o hwyl gewch chi mewn cae, gyda 31 o blant, un ci, ac ysgytlaeth gorau Cymru? Mae’r ateb i’w weld yn y lluniau isod! Diolch anferthol i Sion a Lois am y croeso cynnes.
Mainc mêts! Buddy Bench
Rydym yn ffodus o gael plant mor feddylgar yn Ysgol Henblas. Cafodd Casi ac Ifan y syniad gwych o gael mainc ar gyfer cadw cwmni! Diolch o galon i deuluoedd Casi ac Ifan am roi rhodd ariannol tuag at brynu’r fainc newydd sydd wedi cyrraedd yr wythnos hon - ‘mainc mêts’. Mae’r fainc yn ddigon o sioe, ac mae Casi ac Ifan wedi penderfynu ar ei lleoliad terfynol. #gwnewchypethaubychain
Gwerthu llysiau!
Cafodd llysiau o ardd yr ysgol eu gwerthu ddiwedd y tymor – yn ol pob son roeddent yn flasus dros ben!
Wythnos ffitrwydd
Cafodd holl blant yr ysgol lawer o hwyl yng nghwmni Barry ac Emma ac Aaron. Mae ein diolch iddynt yn enfawr am ddod â gwên i wynebau’r plant. Roedd hon yn wythnos iechyd a ffitrwydd i’w chofio! Diolch i’r holl staff am helpu, i bob person ddaeth i’r ysgol gan ddarparu sesiynau bendigedig, ac yn enwedig i Mrs Legge am drefnu’r cwbl.
https://www.flickr.com/photos/154697350@N07/sets/72157719516206893/
Blwyddyn 6 yn ymweld ag Ysgol Gyfun Llangefni
Diolch i Ysgol Gyfun Llangefni am groesawu disgyblion blwyddyn 6. #dechraupennodnewydd
Dosbarth Oren yn ymweld a Cwt Llefrith
Cerddodd disgyblion y dosbarth oren i Cwt Llefrith. Ar ôl blasu'r gwahanol ysgytlaethau, aeth y plant ati i greu ysgytlaethau iach eu hunain. Diolch Lois, Sion a Sali am y croeso!
Mabolgampau cyfnod sylfaen 2021
Holl hwyl diwrnod mabolgampau y cyfnod sylfaen 2021.
Sesiwn peldroed gyda Chris
Diolch i Chris am sesiwn egniol o beldroed gyda’r dosbarth glas. Pob un wedi gweithio’n galed a Chris yn canmol eu sgiliau peldroed.
https://www.flickr.com/photos/154697350@N07/sets/72157719513407571/
Karate Cymru
Diolch arbennig i Dragon Karate Cymru am sesiynau bendigedig i holl blant yr ysgol. Profiad
gwerthfawr arall.
Gymmasteg gyda Mair
Cafodd pob disgybl sesiwn gymnasteg gwych gyda Mair Eluned. Diolch o galon i Mair heddiw a dros yr holl flynyddoedd. Mae plant Henblas wedi cael profiadau gwych!
https://flic.kr/s/aHsmWa8x6K
Mabolgampau yr adran iau!
Hwyl mabolgampau y dosbarth oren a glas!
https://www.flickr.com/photos/154697350@N07/sets/72157719508677906/
Criced
Cafodd disgyblion y dosbarth oren a glas sesiwn gwych gyda Steve Williams o Criced Cymru! Diolch o galon Steve!
https://youtu.be/Yy7r9Tfmfvg
Gwirfoddolwyr
Diolch o galon i bawb sydd wedi rhoi eu gwasanaeth i Ysgol Henblas dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn ffodus dros ben o gael rhieni ac aelodau’r gymuned sydd mor barod i gyfoethogi profiadau ein plant. Diolch i Mike a Barry am hyfforddi y clybiau peldroed a rygbi. Diolch i Mike Allen am helpu cymaint gyda’r ardd ysgol.
Diolch i Mr Rhys Parry (Cadeirydd) a Mr Stephen Keen am eu gwasaneth i’r corff llywodraethol dros yr holl flynyddoedd diwethaf – yn enwedig wrth ymgymryd â’r her o gadw Ysgol Henblas ar agor.
Diolch i Mair Eluned am flynyddoedd o wasanaeth yn hyfforddi gymnasteg yn yr ysgol – mae nifer o lwyddiannau wedi dod i Ysgol Henblas oherwydd hyfforddiant Mair dros gyfnod Cai ac Ariana.
Diolch hefyd i Elen Keen sydd wedi bod yn cydlynu gweithgareddau yr Urdd ers llawer o flynyddoedd. Mae Elen hefyd wedi rhoi oriau maith o’i hamser i hyfforddi plant yr ysgol a’u paratoi ar gyfer yr holl eisteddfodau Urdd dros y blynyddoedd, yn ogystal â chyngherddau amrywiol. Mae hyn wedi rhoi llwyfan arbennig i’r plant ac yn fodd o godi eu hyder er mwyn perfformio o flaen cynulleidfaoedd mawr.
Medi 2021
Bydd yr ysgol yn ail agor ar ddydd Iau, Medi 2il i’r plant. Byddwn yn dychwelyd ym mis Medi i oriau agor a chau arferol yr ysgol – sef bod angen i bob plentyn fod ar dir yr ysgol ddim hwyrach na 8:50a.m. Bydd yr holl blant yn gadael yr ysgol am 3:15p.m.
Dyddiadau HMS hyd at y Nadolig:
Medi 1af
Hydref 4ydd
Rhagfyr 3ydd
INSET dates up to Christmas:
September 1st
October 4th
December 3rd
Pris cinio/clwb brecwast
Bydd pris cinio yn gostwng i £2.20 a phris clwb gofal yn codi i £1.20 y sesiwn o fis Medi.
Caban newydd
Bydd caban y cylch yn cael ei ddymchwel ddydd Sadwrn yma 17/7/2021. Edrychwn ymlaen at weld y caban newydd yn cael ei roi yn ei le dros yr wythnosau nesaf.
Diolchiadau diwedd blwyddyn
Diolch i bawb am eich cydweithrediad dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn hynod ddiolchgar ein bod wedi llwyddo i gadw’r firws o’r ysgol.
Rhaid tynnu sylw yn y fan hyn at y plant – maent wedi bod yn ardderchog mewn cyfnod mor anodd, ac maent yn glod i chi fel rhieni.
Yn yr un modd mae ein diolch i’r staff yn enfawr ac fel pennaeth rwyf yn hynod o ddiolchgar iddynt am y cydweithio bendigedig ar hyd yr amser.
Mwynhewch y cyfnod dros weddill mis Gorffennaf ac Awst.
Newyddion Mehefin
Newyddion mis Mehefin 2021 Y Glorian
Cyfarfod yr awdures Casia William
Cafodd y dosbarth oren brynhawn gwych mewn sesiwn rhithiol gyda’r awdures, Casia William. Mae’r disgyblio eisoes wedi mwynhau darllen ei llyfr ‘Sw Sara Mai’!Gofynodd y disgyblion lawer o gwestiynau call ac aeddfed, ac roeddent wrth eu boddau yn clywed Caisa yn ateb eu cwestiynau yn fyw yn ystod y sesiwn. Cafwyd llawer o fwynhad wrth wrando ar Casia yn darllen detholiad o’i gwaith, ac maent yn edrych ymlaen yn arw at gael darllen ei llyfr newydd pan ddaw allan i’r siopau.
Te prynhawn
Mae disgyblion y dosbarth oren wedi bod yn brysur yn dysgu am bwysau, cyfaint ac arian yn ystod y tymor, a chafwyd y cyfle i roi eu sgiliau i ddefnydd wrth drefnu a pharatoi te prynhawn. Yr oedd angen i’r plant ddefnyddio eu medrau rhifl ar gyfer addasu rysáit ar gyfer holl ddisgyblion y dosbarth, ac yna symud ymlaen i ddod o hyd i brisiau ar gyfer y cynhwysion, cyn mynd ati i ddilyn cyfarwyddiadau a choginio teisennau a sgons. Gwisgodd y disgyblion yn drwsiadus ar gyfer eu te prynhawn arbennig, ac roedd y danteithion yn flasus tu hwnt!
Ewros 2020
Mae’r twrnament wedi cydio yn nychymyg y plant a llwyddiant tîm Cymru wedi tanio eu brwdfrydedd. Un fu ynghanol holl fwrlwm y twrnament oedd Dylan Griffiths - sylwebydd peldroed BBC Radio Cymru. Bu’n sylwebu ar gemau Cymru yn Baku, Rhufain ac Amsterdam. Ymunodd mewn sesiwn rhithiol gyda’r dosbarth glas gan sôn am y twrnament, ateb cwestiynau’r plant a rhoi gweithdy sylwebu. Ymunodd rhai o’r plant yn y sylwebu ac roeddent yn wych! Diolch o galon i Dylan am sesiwn bythgofiadwy a phwy a ŵyr - efallai fod sylwebwyr y dyfodol wedi eu hysbrydoli!
Plas Menai
Braint oedd cael treulio diwrnod yng nghwmni criw y dosbarth glas mewn cyd destun hollol wahanol - tu hwnt i waliau’r dosbarth ym Mhlas Menai. Roedd agwedd y disgyblion yn wych! Mi fuasai tywydd anffafriol mis Mehefin wedi gallu difetha’r dydd i rai - ond nid y dosbarth glas. Roedd eu hawydd i wynebu’r “antur” yn ysbaid i’r galon. Llongyfarchiadau ar ddangos gwaith tîm gwych a helpu ei gilydd –wrth ddringo’r wal, yn y weithgaredd saethyddiaeth ac ar y canw ar y Fenai. Does ryfedd bod y rhieni wedi curo ras rafft Menai 2019 o weld ymdrech y disgyblion wrth rwyfo! Dyma daith antur olaf blwyddyn 6. Braf oedd gweld agwedd bositif y criw a chlywed eu sylwadau mor werthfawrogol ar ddiwedd y dydd.
Myfyrwraig - Miss Owen
Diolch i Miss Owen am ei holl wasanaeth dros y chwe mis diwethaf - yn cwblhau ei chwrs T.A.R. mewn cyfnod heriol dan amodau’r cyfyngiadau presennol. Cafodd ddau brofiad gwerthfawr gyda’r dosbarth gwyrdd a’r dosbarth glas ac roedd y plant wedi elwa yn fawr o’i gwasanaeth. Dymuniadau gorau i’r dyfodol!
Hanes
Roedd yn wych i’r disgyblion hynaf yn y dosbarth glas weld copiau gwreiddiol o gylchgrawn ‘Cymru’. Dyma drysor arbennig a chyfraniad holl bwysig Owen M. Edwards tuag at sicrhau fod hanes a diwylliant Cymraeg yn cael ei statws yn ysgolion Cymru droad y ganrif ddiwethaf. Diolch i Cai am eu dangos - adnodd grymus fel rhan o thema’r dosbarth wrth ddysgu am gyfnod y Welsh Not.
Llysiau’r ardd
Ew – roedd yna wledd arbennig yn ystod wythnosau olaf y tymor wrth i Anti Sian ac Anti Aloma wneud defnydd o’r llysiau sydd wedi bod yn tyfu yn yr ardd ar gyfer y cinio ysgol! Diolch i’r plant am eu tyfu gyda chymorth Anti Nia a Mike.
Llyfrau newydd
Soniwyd yn y rhifyn diwethaf fod Ysgol Henblas wedi cael ei dewis o het arbennig siop Awen Menai i dderbyn casgliad o lyfrau. Bellach- mae’r llyfrau wedi cyrraedd. Diolch yn fawr iawn i Awen Menai am y llyfrau.
Ymweliad ysgol Gyfun
Bu disgyblion blwyddyn 6 ar ymweliad ag ysgol gyfun Llangefni ddechrau Gorffennaf yn cael blas o’r antur newydd sydd ar droed. Diolch am roi’r cyfle pwysig hwn i’r disgyblion a dymunwn yn dda iddynt.
Plant cylch meithrin Henblas
Mae plant y cylch wedi bod yn mynychu cyfnodau yn y dosbarth meithrin yn Ysgol Henblas gyda Mrs Owen – eu darpar athrawes ym mis Medi, ac Anti Ffion ac Anti Sophie. Maent yn griw arbennig iawn, ac mae’r croeso iddynt yma yn un cynnes iawn. Edrychwn ymlaen at eu gweld yn rheolaidd o fis Medi ymlaen.
Newyddion Mai
Newyddion mis Mai 2021 Ysgol Henblas
Etholiadau 2021 Ysgol Henblas
Bu plant y dosbarth oren a’r dosbarth glas yn brysur yn paratoi at etholiadau ffug. Bu’r plant i gyd yn ysgrifennu maniffesto, yn pleidleisio o fewn eu pleidiau er mwyn dewis arweinydd, creu logo a chreu maniffesto ar gyfer yr ysgol a’r gymuned leol. Yn ystod yr wythnos bu’r plant yn creu fideos ymgyrchu a’u rhannu gyda gweddill yr ysgol. Ar Fai 6ed, cafodd holl ddisgyblion yr ysgol y cyfle i bleidleisio. Ar ôl cyfri’r holl bleidleisiau yr enillwyr yn y dosbarth oren oedd plaid y ‘Cŵl Kids’,a chafodd Sara gynrychioli’r blaid fel pennaeth Ysgol Henblas (am y diwrnod!). Y blaid fuddugol yn y dosbarth glas oedd ‘PAR-TI’. Llongyfarchiadau i chi! Mae’n siwr fod gwleidyddion y dyfodol yn eu plith ac yn dilyn ôl troed ein gwleidydd lleol - Mr Rhun ap Iorwerth!Cynrychiolwyr buddugol y blaid oren
Mordaith y Mimosa
Fel rhan o thema ‘teithio’ mae’r dosbarth oren wedi bod yn dysgu am Batagonia. Cafodd y plant gyfle i wylio sioe rithiol ‘Mordaith y Mimosa’ gan gwmni ‘Mewn Cymeriad’, gan ymuno mewn gweithdy. Ar ôl gwylio’r sioe cynhyrchwyd dyddiadur byw o safbwynt plentyn fu ar y daith. Gwaith creadigol arbennig.Sbarduno
Bu plant y dosbarth oren yn mwynhau cynnal amrywiaeth o arbrofion gwyddonol oedd yn ymwneud â’r gylchred ddŵr gyda Mrs Awen Ashworth o gwmni Sbarduno. Fe wnaeth y plant fwynhau cael y cyfle i greu storm mewn jar yn defnyddio ewyn a lliw bwyd!RNLI
Cafodd y dosbarth oren sesiwn diddorol gyda Mr Alan McDonald o’r RNLI ar sut i gadw’n ddiogel yn y dŵr. Gofynodd y plant lawer o gwestiynau call ac aeddfed, gan ddysgu gwersi pwysig iawn - gwersi pwysig i’w cofio drwy’r flwyddyn.
Dawns i Bawb
Mae plant y dosbarth glas wedi bod yn mwynhau sesiynau dawnsio rhithiol gydag Elin a Lauren o gwmni Dawns i Bawb. Mae’r gwersi yn fywiog ac yn hwyliog ac yn sicr yn hybu eu hiechyd meddyliol a chorfforol. Mae’r plant yn creu dawns ar sail eu diddordebau.Bydd y gwersi yn parhau ar ôl gwyliau’r Sulgwyn. Edrychwn ymlaen i weld y ddawns derfynol!Amser Panad!
Bob bore dydd Gwener, mae’r plant yn y dosbarth glas (a staff!) yn mwynhau paned o de yn y dosbarth. Mae hyn yn gyfle iddynt ymlacio ar ôl wythnos brysur yn yr ysgol a chael sgwrsio gyda’u ffrindiau am eu penwythnos. Diolch i Anti Emma am helpu i weini 33 panad, ac i rai o’r disgyblion sydd wedi bod yn golchi y cwpannau!
Sbaeneg
Hola! Mae’r dosbarth glas wedi bod yn mwynhau gwersi Sbaeneg ac yn sicr wedi dysgu llawer yn barod! Maent yn dilyn cynllun Cerdd Iaith sy’n adnodd newydd a phwerus gan gyfuno cerddoriaeth a drama i helpu plant i ymarfer eu sgiliau llafaredd Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg. Y gobaith yn y pen draw yw ysgogi a thanio brwdfrydedd y plant i ddysgu’n weithredol yn ogystal â mwynhau siarad ieithoedd newydd.Amser Lego
Cyn mynd adref ar brynhawn dydd Gwener mae’r plant yn cael cyfle i chwarae gyda setiau lego newydd sydd wedi cyrraedd y dosbarth. Mae’r plant yn gweld y budd o gydweithio ar greu adeiladwaith penodol a rhydd, e.e. creu ystafelloedd ar sail gofynion perimedr ac arwybebedd. Dysgu yn dod yn fyw mewn cyd-destun bywyd pob dydd!Cadw’n iach!
Roedd plant y dosbarth melyn a gwyrdd wedi gwirioni cael cwrdd â masgot newydd Mon Actif - Dai y Ddraig yn ystod eu sesiynau ffitrwydd gyda Mr Barry Edwards. Mae’r plant wedi cael cymaint o brofiadau athletaidd gwych gyda Barry a’i staff ac yn gweld y budd o gadw mor iach ac heini.
M-SParc
Cafodd plant y dosbarth melyn fwynhau gwrando ar stori a chanu lliwiau’r enfys mewn sesiwn hwyliog gyda Manon o M-SParc. Yn ogystal, buont yn creu arbrofion i ddysgu am liwiau cynradd ac eilaidd, gan ail greu yn llwyddiannus mewn sesiynau dilynol yn y dosbarth!Bwyta’n iach
Croesawyd ffrind arbennig i’r ysgol - Nyrs Mandy i ddysgu holl blant y cyfnod sylfaen am gynnwys plat bwyd iach. Roedd y plant wedi dychryn o weld cymaint o siwgr sydd mewn amryw o ddiodydd parod maent yn yfed. Y neges bwysig yw bod angen yfed digon o ddwr a pharhau i fwyta ffrwythau blasus.Garddio
Mae gardd lysiau yr ysgol yn werth ei gweld ar hyn o bryd, a’r cynnyrch yn tyfu’n addawol. Mae plant y dosbarth meithrin wedi mwynhau helpu i dyfu rhai o’r llysiau fel rhan o’r gwaith thematig wrth astudio y llyfr ‘Swpertaten’ - ond cadwch lygad am y bysen ddrwg sydd o gwmpas!Dosbarth allanol newydd
Diolch i’r awdurdod lleol am grant ynghlwm a’r pandemig tuag at ariannu dosbarth allanol newydd yn ardal y cyfnod sylfaen. Mae’r plant wedi gwirioni wrth ddysgu yn y llecyn arbennig newydd hwn ac mae cael gweithio a dysgu yn yr awyr agored yn plesio’n fawr.Sbwriel
Diolch i griw gweithgar y dosbarth melyn. Maen nhw wedi sylwi fod llawer o sbwriel ar dir Ysgol Henblas ac wedi bod yn brysur gyda’r offer cywir yn codi’r sbwriel. Rydym yn cofio’r neges bwysig - Cadwch Cymru’n Daclus! ac fe gadwn Ysgol Henblas yn daclus hefyd!25/05/21
Chwaraeon
Mae plant y cyfnod sylfaen wedi bod yn mwynhau sesiynau ffitrwydd gyda Barry Edwards dros yr wythnosau diwethaf. Maent wedi cael blas ar bob math o athletau – neidio, rhedeg a thaflu. Mae’r clwb peldroed i ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4 hefyd wedi dechrau gyda Barry, tra mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn mwynhau sesiynau rygbi gyda Mike. Diolch i Mike a Barry am roi eu hamser unwaith eto.
Dangos y cerdyn coch i hiliaeth
Mae ymgyrch peldroedwyr yn tynnu sylw at atal hiliaeth wedi cael lle blaenllaw dros y misoedd diwethaf. Mae’r peldroedwyr yn ffigyrau amlwg i lawer o’n disgyblion ac mae’r ffaith eu bod yn hyrwyddo’r ymgyrch yn cael dylanwad mawr arnynt. Nid oes gan hiliaeth le yn ein cymdeithas, a dyma’r neges glywodd disgyblion blynyddoedd 3,4,5 a 6 yn ddiweddar. Roedd ymatebion aeddfed y disgyblion yn dangos pa mor gryf y maent hwythau hefyd yn deall ac yn gwerthfawrogi’r ymgyrch – nid oes lle yn ein bywydau i wahaniaethu ar sail lliw croen, diwylliant, crefydd na gwlad. Diolch i Noam am gyflwyno’r sesiwn mewn modd mor effeithiol. Dyma sut ymatebodd disyblion blynyddoedd 3 a 4 i’w neges.
Pythefnos Big Pedal
Am bythefnos ar ddiwedd mis Ebrill mae llond y lle o sgwters a beics wedi bod o flaen mynedfeydd Ysgol Henblas. Yn ogystal, mae llawer wedi bod yn cerdded i’r ysgol er mwyn cefnogi ein ymgyrch i deithio i’r ysgol mewn dull sydd yn helpu’r amgylchedd. Da iawn blant – a’r rhieni am fod mor heini ac am gefnogi.
Senedd Cymru
Bu’r dosbarth oren (blynyddoedd 3 a 4) yn mwynhau sesiwn gydag Ann Williams, Senedd Cymru. Cafwyd cyfnod i ddysgu am waith a phwerau’r Senedd. Roedd cyfle i’r plant feddwl am syniadau ar gyfer creu rheolau newydd i wella Cymru. Cafodd nifer o syniadau diddorol iawn eu hawgrymu gan gynnwys gwneud bwyd iach yn rhatach i’w brynu. Roedd hyn yn sbardun ar gyfer cynnal ffug etholiad yn y dosbarth ac hen drafod ar faterion pwysig iawn! Wedi’r sgwrs bu’r plant yn edrych am arwyddion pleidiau gwleidyddol o amgylch Ynys Môn!
Banksy
Mae plant y dosbarth gwyrdd wedi bod yn mwynhau dysgu am waith Banksy ac wedi astudio ei waith archarwyr yr GIG. Fe lwyddodd yr artistiaid ifanc greu gwaith penigamp yn efelychu ei arddull. Dyma waith un disgybl:
Cwis Dim Clem
Bu’r disgyblion hynaf yn llwyddiannus yn ol yn yr Hydref yn mynd trwodd i rownd nesaf cystadleuaeth Dim Clem – cwis yn cael ei drefnu rhwng ysgolion Ynys Mon. Roedd gofyn iddynt arddangos eu gwybodaeth gyffredinol ac fe gawsont lawer o hwyl wrth rannu syniadau fel tim!
Patagonia
Fel rhan o thema’r dosbarth bu disgyblion y dosbarth oren yn dysgu am Patagonia wrth iddynt gael cyflwyniad gan Sinead Harris. Bu Sinead yn byw ym Mhatagonia am flwyddyn ac roedd ganddi straeon difyr iawn.
Newyddion Ebrill
12/04/21
Hwyl gwyddoniaeth
Cafodd disgyblion hynaf yr ysgol sesiwn hwyliog dros ben yn dysgu am germau gydag Awen Ashworth o gwmni Sbarduno. Diolch i MSParc am drefnu y weithgaredd gan ddod a’r maes yn fyw i’r disgyblion.
Y fferm ar dir Ysgol Henblas
Cafodd plant y dosbarth melyn a gwyrdd ddiwrnod gwerth chweil yn dysgu sut i ofalu am ŵyn bach fel rhan o thema’r Gwanwyn. Diolch i Gwen, Sara a Ioan Coyne am adael i’r plant ieuengaf ofalu am y tri oen bach annwyl sef Steve, Milo a Billy – tri o ŵyn o frid arbennig ac unigryw fferm y teulu. Cafodd y plant wybodaeth arbennig am yr ŵyn gan Mrs Erin Ashton ac roeddent wedi gwirioni gyda’u tri cyfaill newydd, a rhai yn eu swyno drwy ganu er mwyn cadw cwmni iddynt!
Arwyddion y Gwanwyn
Aeth y dosbarth melyn a gwyrdd am dro o amgylch yr ardal i chwilio am arwyddion y Gwanwyn. Syniad dyfeisgar y plant oedd hyn ac fe fuont yn ymweld â Cwt Llefrith yn Fferam y Llan gan ddysgu o ble daw llefrith! Gofynnodd y plant gwestiynau diddorol iawn, ac ar ôl dychwelyd i'r ysgol cawsont sesiwn blasu ysgytlaeth gwahanol – gan gynnwys fanila, siocled a banana. Yna, defnyddiwyd y data i wneud graff o'r canlyniadau yn dangos hoff flas y dosbarth! A’r blas mwyaf poblogaidd oedd fanila!
Lesotho
Fel rhan o thema’r dosbarth ‘Breuddwydion’ bu disgyblion y dosbarth glas yn dysgu am daith Mrs Meinir Hughes i Lesotho. Dysgodd y disgyblion am dai, ysgolion, tirwedd ac effaith dyn ar yr amgylchedd. Diolch i Mrs Hughes am fore diddorol dros ben - a’r adlewyrchiad mwyaf o fwynhad y disgyblion oedd eu cwestiynau treiddgar ar ddiwedd y sesiwn.
Iaith ar daith
Mae gan rai o blant Ysgol Henblas feddwl mawr o Steve Backshall – naturiaethwr, anturiaethwr a chymeriad poblogaidd ar y teledu. Cafodd disgyblion hynaf yr ysgol eu cyfareddu ymhellach wrth wylio Steve yn gwireddu ei freuddwyd o siarad Cymraeg ar y rhaglen ‘Iaith ar daith’ ar S4C. Rhaglen i ysbrydoli’r plant ac oedolion.
Swmba
Mae symud y corff yn cael blaenoriaeth bob tro yn Ysgol Henblas, ac ar ddiwedd y tymor cafodd disgyblion y dosbarth oren a glas sesiwn egniol iawn yng nghwmni Emily Bratherton. Fe wnaeth Emily iddynt weithio yn galed ac mae’n amlwg fod disgyblion Ysgol Henblas yn heini dros ben!
Newyddion Mawrth
08/03/21
Croeso’n ôl
Braf iawn oedd cael croesawu plant y cyfnod sylfaen yn ôl ddechrau mis Mawrth wedi’r ail gyfnod clo. Yn ystod y cyfnod diweddar mae’r plant wedi bod yn dysgu’n ddiwyd yn y cartref ac mae’r cyswllt ysgol/cartref wedi cael ei gynnal drwy sesiynau byw yn ogystal ȃ darparu tasgau wythnosol. Yn yr un modd, mae plant yr adran iau yn parhau i gynhyrchu gwaith arbennig a braf yw eu gweld a’u clywed yn y sesiynau rheolaidd byw arlein.
- 080321-croeso
Plant y dosbarth melyn yn adeiladu mynachdy Dewi Sant ar ddydd Gwyl Dewi Sant 2021
Arwyddion y gwanwyn
Mae arwyddion y gwanwyn i’w weld yn ardal y cyfnod sylfaen - wedi i’r plant blannu bylbiau cennin pedr. Bellach mae’r blodau yn ferw ac yn harddu’r ardal chwarae. Ac os edrychwch yn ofalus yn y pwll ger giat y cyfnod sylfaen fe welwch arwydd arall o fywyd - sef y griff broga! Diolch i Mike am ei arweiniad wrth sicrhau bywyd cyffrous yn yr ardal yma.
- 080321-cennin-pedr
Y Cennin pedr yn ardal y cyfnod sylfaen
- 080321-broga
Griff broga yn y pwll dwr
Arlunwyr o fri
Wrth ddathlu dydd Gwyl Dewi bu plant y cyfnod sylfaen yn efelychu gwaith yr artist lleol Josie Russell yn darlunio’r cennin pedr. Cafwyd gwaith arbennig wedi ei greu gan y plant - yn wir mae arlunwyr y dyfodol yn yr ysgol!
- 080321-dosbarth gwyrdd
Arlunwyr o fri y dosbarth Gwyrdd
Cyswllt gydag ysgol yn India
Cafodd disgyblion y dosbarth glas fore arbennig yn siarad gyda’u ffrindiau newydd yn ysgol Solan, India. Buont yn holi prifathrawes yr ysgol am fywyd yn India, yn derbyn cwestiynau gan blant yr ysgol ac yn rhannu ychydig o eiriau Cymraeg! Gwych iawn oedd ymatebion aeddfed y plant, a braf cael creu cyswllt mor arbennig. #dinasyddiaethfydeang
A chyswllt gydag ysgol ym Mharis!
Yn ogystal ȃ chysylltu gyda’u ffrindiau yn India, mae gan y plant yn y dosbarth glas ffrinidau newydd o ysgol École Privée Sainte Élisabeth de Plaisance ym Mharis. Mae Elin Lloyd o Lanfairpwll yn addysgu yn yr ysgol ym Mharis ar hyn o bryd, ac wedi bod yn ymwneud ȃ phrosiect lle mae’r disgyblion yn ei dosbarth yn llythyru disgyblion o’r un oedran yn Ysgol Henblas. Diolch i Elin am ei holl waith yn cydgordio ac am roi profiad mor arbennig i’n disgyblion. Roedd plant Ysgol Henblas ar ben eu digon wrth dderbyn y llythyrau.
- 080321-llythyr-paris
Erin ac Erin o’r dosbarth glas gyda’u llythyrau o Paris
Lloches
Ddechrau mis Mawrth fe adeiladwyd lloches newydd ar dir Ysgol Henblas. Mae’n ychwanegiad arbennig i’r ysgol ac i’r gymuned gyfan, ac rydym yn ddiolchgar iawn i holl randdeiliaid yr ysgol a thrigolion yr ardal am y mewnbwn gwerthfawr wnaeth gynorthwyo tuag at ei sicrhau. Diolch diffuant i gronfa gymunedol y loteri cenedlaethol am y nawdd i ariannu’r datblygiad cyffrous newydd hwn.
Adnabod adar
Bu’r dosbarth oren yn brysur yn gwneud bwyd adar cyn iddynt fynd ati i gymryd rhan yn yr arolwg gwylio adar cenedlaethol. Roedd y plant yn adnabod gwahanol adar yn eu gerddi ac yn cadw cofnod tali. Diddorol iawn oedd cael gweld yr amrywiaeth o adar sydd o amgylch Llangristiolus, ac roedd y bwydwyr adar oeddent wedi eu creu yn ddyfeisfar dros ben!
- 080321-bwyd adar
Bwydwyr adar gan blant dyfeisgar y dosbarth Oren
Newyddion Ionawr
29/01/21
Gymnasteg
Llongyfarchiadau mawr Ariana (blwydyn 6) ar ennill gwobr gymnasteg gogledd Cymru. Yn ystod y cyfnodau clo mae Ariana wedi bod yn Ymarfer drwy sesiynau ar-lein, ac mae wedi parhau i ddatblygu ei sgiliau gymansteg a gwneud cynnydd pellach.Gwych iawn.
Ariana wedi gwneud cynnydd pellach yn ei sgiliau gymnasteg
Pont Britannia
Ymddangosodd dau o ddisgyblion blwyddyn 6 mewn eitem ar y rhaglen ‘Heno’ ar S4C. Roedd Ifan a Maiya yn rhoi adborth ar lyfr newydd am adeiladwaith Pont Britannia o’r enw ‘Llewod Pont Britannia’. Siaradodd y ddau yn arbennig am gynnwys y llyfr yn ogystal a’u profiad o ymweld â chanolfan treftadaeth Porthaethwy. Da iawn y ddau.
Sioeau
Bu pob dosbarth yn cynhyrchu eu cyflwyniadau arbennig ar gyfer ein rhieni i’w gwylio yn y cartref. Cafwyd perfformiadau bendigedig gan bob disgybl ac roedd yn wledd gweld pob un yn actio mewn llais clir a phawb yn morio canu. Diolch i’r rhieni am baratoi’r gwisgoedd ac am eu cefnogaeth arferol.
Gazebo
Ar ddechrau’r flwyddyn daeth y newyddion gwych fod yr ysgol wedi derbyn nawdd gan gronfa treftadaeth y loteri cenedlaethol tuag at godi gazebo ar dir yr ysgol. Ym mis Mawrth 2020 fe holwyd holl randdeiliaid yr ysgol am eu barn ar adnoddau oedd yn y pentref, ac fe ddefnyddwyd y wybodaeth yma er mwyn creu cais i’r gronfa. Diolch i bawb wnaeth ymateb, ac edrychwn ymlaen at weld y gazebo yn ei le erbyn dechrau’r gwanwyn.
Banc bwyd
Diolch o galon i bawb wnaeth helpu i gasglu cymaint o fwyd tuag at apel banc bwyd Ynys Môn. Daeth ein ffrindiau draw i gasglu llond fan o fwyd – ac roeddent yn ddiolchgar iawn i bawb am eu haelioni.
Elin a Taio yn helpu llwytho’r bwyd
Ras Sion Corn
Ar ddiwedd y tymor diwethaf bu 105 Sion Corn Ysgol Henblas yn rhedeg er mwyn codi arian tuag at yr ysgol. Diolch i’r gymdeithas rhieni athrawon am drefnu’r cwbl – roedd yn werth gweld y plant yn eu hetiau Sion Corn. Llwyddwyd i godi £1924.90 – swm cwbl anhygoel fydd yn mynd tuag at brynu adnoddau i’r ysgol.
Y dosbarth melyn wedi mwynhau rhedeg yn y ras Sion Corn
Addurn Nadolig
Llongyfarchiadau i Mari blwyddyn 6 am ennill cystadleuaeth rhaglen Trystan ac Emma ar Radio Cymru am greu addurn Nadolig o gardfwrdd. Gwych iawn Mari.
Addurn Nadolig Mari
Rhannu geiriau caredig
Mor braf oedd gweld disgyblion y dosbarth glas yn rhannu geiriau caredig wrth gofnodi ar gardiau oedd ar gefn pob disgybl. Bu’r dosbarth yn astudio’r thema rhyfel a heddwch ac roeddent yn gwerthfawrogi bod rhannu positifrwydd yn nodwedd mor bwysig yn hytrach na negyddiaeth.Diolch iddynt i gyd am ymateb mor aeddfed.
Y dosbarth glas yn rhannu geiriau caredig
Newyddion Tachwedd
Dysgu am ryfeloedd
Fel rhan o thema’r dosbarth ‘Rhyfel a heddwch’ cafodd disgyblion hynaf yr ysgol ddiwrnod o astudio arteffactau, dogfennau, llythyrau a ffotograffau yn ymwneud â thrigolion Ynys Môn yn ystod y ddau ryfel byd. Yn ogystal, fe ymunodd Mr a Mrs Merfyn Jones â’r sesiwn yn rhithiol gan sôn am berthnasau iddynt fu’n y ddau ryfel. Cafwyd diwrnod diddorol dros ben a’r plant yn ymholi yn fedrus cyn trosglwyddo eu darganfyddiadau ar ffurf cyflwyniad pwerbwynt. Diolch i’r plant am ddod â chymaint o adnoddau teuluol gyfranodd i gyfoethogi eu dysg.
Efa a Lucas yn darllen erthgyl er mwyn dysgu mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf
- 011220-efa-a-lucas-lrg
Efa a Lucas yn darllen erthgyl er mwyn dysgu mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf
Bocsus Nadolig Teams4U
Daeth oddeutu 30 o focsus Nadolig i’r ysgol eleni ar gyfer ymgyrch Teams4U – fydd yn sicrhau fod plant bach llai ffodus yn derbyn anrheg eleni. Diolch i bawb am gefnogi unwaith eto.
Wythnos diogelwch y we
Cafwyd wythnos o ddysgu am rinweddau y rhyngrwyd yn ogystal â dysgu am agweddau negyddol. Fe ymunodd PC Owain Edwards yn rhithiol i gyflwyno sesiwn i bob dosbarth – o’r plant ieuengaf yn dysgu am bobl sy’n ein helpu, i’r disgyblion hynaf yn dysgu am seiber fwlio. Yn ystod yr wythnos bu llawer o weithgareddau gwahanol yn cyfoethogi dealltwriaeth yr holl ddisgyblion o rinweddau’r byd digidol.
Y dosbarth glas yn rhannu geiriau caredig efo’i gilydd wrth ddysgu am seiber-fwlio
- 011220-dosbarth-glas-geiriau-caredig-lrg
Y dosbarth glas yn rhannu geiriau caredig efo’i gilydd wrth ddysgu am seiber-fwlio
Sgwtera
Bu plant y cyfnod sylfaen yn dysgu am deithio yn ddiogel wrth gael sesiwn sgwtera ar iard yr ysgol. Cafwyd llawer o hwyl yn haul mis Tachwedd a phob un yn gwrando’n astud ar yr hyfforddiant!
- 011220-scooters-lrg
Sesiwn sgwtera ar iard yr ysgol.
Sesiwn SKIP
Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Barry Edwards sydd wedi dechrau sesiynau ffitrwydd gyda phlant y cyfnod Sylfaen. Mae Barry yn ymweld â’r ysgol ddwywaith yr wythnos ac mae’r plant wrth eu boddau yn gweithio’n egniol yn ei gwmni.
- 011220-cadw-mon-yn-actif-lrg
SKIP Session
Plant mewn angen
Daeth plant yr ysgol yn eu dillad lliwgar eu hunain i’r ysgol ddydd Gwener Tachwedd 13eg i godi arian tuag at apêl Plant mewn angen y BBC. Diolch i’r plant a’r rhieni am godi swm arbennig o £264.75.
Selog
Cafodd disgyblion y cyfnod sylfaen lawer o hwyl wrth ymuno mewn sesiwn ganu a stori rhithiol gyda Selog. Mae Selog yn wyneb cyfarwydd iawn i blant Ysgol Henblas ac mae’r plant wedi cael llawer o brofiadau gwerthfawr yn ei gwmni. Diolch am fore hwyliog dros ben Selog!
Gwyddonwyr y dosbarth oren
Mae’r disgyblion yn y dosbarth oren wedi bod yn brysur iawn yn cynnal sawl arbrawf gwyddonol yn cyd fynd â thema’r dosbarth. Mae cadw’n iach yn bwysig iawn ac maent wedi bod yn ymchwilio i’r cwestiwn – pa hylif sydd yn gwneud y niwed mwyaf i ddannedd? Rhoddwyd pum wy mewn pum hylif gwahanol sef dwr, llefrith, sudd oren, coca cola a coffi. Roedd y canlyniadau yn ddiddorol dros ben, a lliw brown tywyll y plisgyn yn dangos effaith negyddol y coca cola a’r coffi ar ein dannedd, tra bod y dwr a’r llefrith yn achosi dim newid syfrdanol yn lliw y plisgyn. Yn ogystal, maent wedi bod yn blasu gwahanol fathau o fara er mwyn gwneud brechdan iachus.
Llyfrau darllen
Rydym yn ddiolchgar dros ben i'r Gymdeithas Rhieni Athrawon am roi cyfraniad ariannol arbennig o £400 tuag at brynu llyfrau darllen newydd i ddisgyblion yr adran iau. Mae’r dewis o lyfrau sydd ar gael i'r disgyblion wedi ei gyfoethogi yn fawr ac rydym yn ddiolchgar i staff yr adran iau am gael trefn gampus ar y llyfrau sydd ar gael. Diolch i’r Gymdethas Rhieni Athrawon am y llyfrau
- 011220-darllen-lrg
Diolch i’r Gymdethas Rhieni Athrawon am y llyfrau newydd sbon
Newyddion Hydref
Pennod Newydd
26/10/20
Erbyn hyn mae wyth o ddisgyblion oed derbyn ac wyth o ddisgyblion oed meithrin wedi setlo yn wych gyda staff y Dosbarth Melyn. Mae gweld eu datblygiad cynnar a’r twf mewn hyder yn rhoi boddhad mawr i Mrs Owen, Anti Diane ac Anti Carol.
Y plant bach newydd yn morio canu gyda’u ffrindiau o’r Dosbarth Melyn.
Cofion at Anti Nia
Rydym yn anfon ein cofion anwylaf at Anti Nia. Bu farw tad Anti Nia ganol fis Hydref. Mae teulu Henblas i gyd yn meddwl amdani yn ystod y cyfnod anodd hwn
Diolchgarwch
Eleni am y tro cyntaf fe gynhyrchwyd pedwar cyflwyniad Diolchgarwch a ranwyd gyda’r rhieni arlein. Bu’r Dosbarth Melyn yn diolch am greu’r byd ac am ryfeddodau’r byd o’n cwmpas; y Dosbarth Gwyrdd yn diolch i bawb sy’n eu helpu yn yr ysgol ac yn eu bywydau bob dydd; y Dosabrth Oren yn diolch mewn gwahanol ieithoedd gan gofio’r pwysigrwydd o werthfawrogi y rhai sy’n garedig; a bu’r Dosbarth Glas yn diolch am fwyd mewn byd heddychlon gan edrych ar brofiadau dau ifaciwi sef Betty Cambpell a Samuel Lewis yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd Anthem newydd Ysgol Henblas, gafodd ei hysgrifennu gan ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 2019-2020 ar y cyd gyda’r Prifardd Mei Mac ei pherfformio yn wych, a diolch i gyn ddisgybl yr ysgol sef Beca Lois Keen am gyfansoddi’r alaw. Cafwyd pedwar cyflwyniad arbennig a diolch i’r plant am berfformio mor dda. Diolch i’r rhieni hefyd am eu sylwadau canmoliaethus a’u geiriau positif o werthfawrogiad wedi iddynt wylio’r cyflwyniadau. Mae’r cyflwyniadau ar gael i’w gwylio ar wefan yr ysgol ysgolhenblas.org
Dosbarth Melyn Thanksgiving
Dosbarth Gwyrdd Thanksgiving
Dosbarth Oren Thanksgiving
Dosbarth Glas Thanksgiving
Diodydd Iach
Mae’r Dosbarth Oren wedi bod yn dysgu am y corff dros yr hanner tymor ac roeddent yn brysur iawn un diwrnod yn creu diodydd iach – sef smŵddis! Roedd y smŵddis yn gymysgedd o ffrwythau fel mango a phînafal. Da iawn blantos am greu diodydd mor faethlon. Cafodd y disgyblion fore hyfryd hefyd yn gwylio Mike Allen yn paratoi sudd afal gan ddefnyddio’r afalau oedd wedi tyfu yn ei gartref. Roedd gwasgu’r afalau yn waith caled – a’r canlyniad terfynol yn werth pob ymdrech!
- 261020-sudd
- 261020-dosbarth-oren-sudd-2
Y Dosbarth Oren yn mwynhau y daith yn gwylio Mike yn creu sudd afal.
- 261020-dosbarth-oren-sudd
Disgyblion y Dosbarth Oren yn mwynhau’r diodydd iach!
Garddio
Rydym yn ddiolchgar iawn i dri tad ac un taid sydd wedi bod yn brysur iawn ers dechrau Medi yn tacluso’r ardd, yn ogystal ac adeiladu sied er mwyn cadw’r offer. Diolch felly i Mike, Bryn, Sion a Wyn am eu gwaith di-flino – mae’n werth gweld yr ardd erbyn hyn, ac mae’n barod bellach ar gyfer tyfiant y gwanwyn. Ac i goroni’r cwbl bu plant y Dosbarth Gwyrdd yn gorffen y gwaith tacluso a pharatoi – gwaith tîm arbennig.
- 261020-garddio-1
- 261020-garddio-2
Yr ardd ar fore hyfryd o Hydref, a’r plant yn mwynhau’r gwaith garddio.
Ffitrwydd
Ar hyn o bryd mae’r plant drwy’r ysgol yn cynnal eu lefelau ffitrwydd yn gampus gyda sesiynau yn yr awyr agored. Mae’r Dosbarth Glas wedi bod yn gweithio’n egniol bob bore dydd Gwener ac mae’r disgyblion wrth eu boddau yn cymryd rhan yn y cylchdro ffitrwydd a’r gerddoriaeth ysgogol yn eu hysbrydoli ar yr iard. Da iawn bawb.
- 261020-ffitrwydd
Dwy genod blwyddyn 6 yn gweithio’n egniol.
Cylch Meithrin Henblas
Os ydi eich plentyn dros ddwy a hannwr oed cyn diwedd mis Rhagfyr, cofiwch fod croeso mawr iddynt fynychu’r Cylch gydag Anti Ffion ac Anti Sophie rhwng dydd Llun a dydd Iau. Yn ddiweddar mae’r plant wedi bod yn mwynhau yn yr ardal dwr newydd yn ogystal a mwynhau helfa drysor yn yr ardal gyfagos ar ddiwrnod bendigedig o Hydref. Am ragor o wybodaeth gallwch gysylltu gydag Anti Ffion ar y cyfeiriad ebost cylchhenblas@gmail.com
Coronafeirws
Prif symptomau coronafeirws yw:
• tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu'ch cefn yn teimlo'n boeth i'w gyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
• peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 neu fwy o byliau peswch mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer)
• methu arogli neu flasu neu golli eich synnwyr o arogl neu flas: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi nad ydych yn gallu arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i'r arfer
Os byddwch yn datblygu un o'r symptomau hyn, dylech
ddilyn y canllawiau hunanynysu
gwneud cais i gael prawf coronafeirws
Myfyrio ar yr hanner tymor
Ar ddiwedd cyfnod yr hanner tymor hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r plant am hanner tymor gwerthfawr o ddysgu yn Ysgol Henblas. Mae’r wyth wythnos wedi gwibio heibio ac mae pawb wedi setlo yn dda i’w dosbarthiadau yn dilyn y cyfnod o fod i ffwrdd o’r ysgol. Mae’r plant bellach yn hen gyfarwydd a’n trefniadau newydd ac yn cario ‘mlaen gyda bywyd ysgol heb lol. Clod mawr i bob un ohonynt. Mae presenoldeb yr ysgol wedi bod yn ganmoladwy iawn ers y cyfnod pan oedd pob disgybl yn dechrau yn ôl ar 14/9/2020. Presenoldeb yr ysgol yn ystod y cyfnod hwn yw 98%, felly diolch i chi gyd am sicrhau fod eich plentyn yn mynychu’r ysgol.
Unwaith eto, hoffwn nodi ein bod ni fel staff a’r corff llywodraethol yn ddiolchgar i chi rieni am eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn o ddychwelyd i drefn mor arferol a phosib.
- Ar ôl y gwyliau byddwn yn newid y drefn rhyddhau ychydig, gan ofyn I’r rhieni barhau i ddilyn y drefn un ffordd ar draws yr iard. Bydd:
• y dosbarth Melyn yn mynd adref am 3:10pm (yn ogystal a brawd neu chwaer hŷn)
• y dosbarth Gwyrdd yn mynd adref am 3:15pm (yn ogystal a brawd neu chwaer hŷn)
• y dosbarth Oren yn mynd adref am 3:20pm (yn ogystal a brawd neu chwaer hŷn),
• y dosbarth Glas yn mynd adref am 3:25pm
HMS:
Bydd HMS ddydd Llun (2/11/2020). Yn ogystal bydd yr ysgol ar gau i blant am HMS ar 12/2/2021 a 28/5/2021.
Newyddion Gorffennaf |
Diolch Mrs Owen
20/07/20
Hwyl fawr a diolch Mrs Owen. Mae wedi bod yn bleser pur cydweithio efo Mrs Clare Owen dros y 9 mis diwethaf. Diolch o galon a cofiwch y bydd croeso cynnes i chi bob tro yn Ysgol Henblas.
Croeso’n ôl i Ysgol Henblas
08/07/20
Croeso i Ysgol Henblas
01/07/20
Newyddion Mehefin |
Neges i blant Ysgol Henblas gan Nesdi Jones:
29/06/20
Waw! Mae disgyblion blwyddyn 5 a 6 wedi cael neges gan y gantores Nesdi Jones sydd wedi cael llwyddiant mawr ym myd cerddoriaeth. Mae wedi cael llwyddiant mawr hefyd yn India. Mae plant y dosbarth wedi bod yn dysgu am lwyddiant Nesdi fel rhan o'r thema diweddar yn astudio India. Diolch Nesdi am y neges arbennig yma.
India
24/06/20
Mae disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn parhau i fwynhau y thema India - thema gafodd ei ddewis gan y plant. Rydym yn ffodus o allu holi ffrind yr ysgol sef Avantika sydd yn bennaeth ysgol yn Delhi. Dyma ateb Avantika i gwestiwn un o’r plant ym mlwyddyn 5 a 6 am India a chrefydd.
India
08/06/20
Dewisodd disgyblion blwyddyn 5 a 6 eu thema ar gyfer yr hanner tymor hwn sef India. Lluniodd y disgyblion restr o gwestiynau i'w holi i Avantika Sharma. Mae Avantika yn bennaeth ysgol Rishikul World Academy Sonepat Haryana India yn Delhi. Ffrind arbennig i Ysgol Henblas yw Avantika ac fe fuodd yn ein hysgol ym mis Gorffennaf 2019. Dyma atebion Avantika i'r cwestiynau campus ofynodd y disgyblion.
Newyddion Mai |
Campau yn y cartref.
27/05/20
Dros yr wythnosau diwethaf mae plant Ysgol Henblas wedi bod yn brysur iawn.
Sêr Ysgol Henblas yn parhau i serenu. Gwanwyn 2020. ‘Gyda’n gilydd yn gryfach.’
Diolch i Mr Arfon Wyn am ddiddanu ein plant. Mae'r plant wrth ei boddau yn canu gydag Arfon yn y cartref.
19/05/20
Codwyr pwysau o fri:
Mae disgyblion blwyddyn 5 a 6 wedi paratoi cwestiynau ar gyfer dau athletwr rhyngwladol fel rhan o thema Gemau Olympaidd. Cafwyd cwestiynau aeddfed iawn a diolch i Gareth Evans a Catrin Jones am eu hymatebion manwl. Cafwyd dau gyfweliad fideo diddorol dros ben gan y ddau sydd wedi ennill medalau aur yng nghamp codi pwysau.
Newyddion Mawrth |
Llythyr i rieni Mawrth 27ain: CANOLFAN OFAL HENBLASAr ddiwedd yr wythnos rwyf yn ysgrifennu atoch yn y gobaith eich bod i gyd yn cadw’n ddiogel ac yn iach. Mae wedi bod yn wythnos ryfedd iawn yn Ysgol Henblas – nid ysgol yw hi bellach wrth gwrs ond canolfan ofal. Dydi’r adeilad ddim yr un peth heb y plant ac rydym yn gweld eu colli yn arw. Rwyf hefyd yn siwr fod trigolion Llangristiolus a’r ardal gyfagos yn ei gweld hi’n dawel heb swn hapus a bwrlwm y plant ar yr iard. |
Mrs Williams a Ted
Dyma lun i godi calon. Mae Ted Arthur yn werth ei weld, a’i fam wrth gwrs. Rydym i gyd yn anfon ein cofion atoch Mrs Williams a’r teulu, ac yn edrych ymlaen at eich gweld yn fuan. |
Beth i’w wneud yn y cartref?Os ydach chi awydd rhai syniadau i’w gwneud yn y cartref gwyliwch fideo Ifan! |
Siop ffrwythau blwyddyn 3 a 4
Bu siop ffrwythau ar agor yn nosbarth blwyddyn 3 a 4 - yn hybu dealltwriaeth o drin arian. Dyna dda yw gweld plant Ysgol Henblas yn bwyta’n iach! |
Canu i godi calon Dyma ein plant yn morio canu ‘Mam wnaeth got imi’. Mwynhewch. |
Wythnos Gwyl DewiYn ystod wythnos Gwyl Ddewi 2020 bu holl ddisgyblion yr ysgol yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau i ddathlu ein Cymreictod a'n diwylliant. Cliciwch yma i weld fwy o luniau wythnos Gwyl Dewi.
Cacennau criAr ol cyfnod o goginio gyda Mrs Owen ac Anti Nia mae plant blwyddyn 1 a 2 yn feistri ar greu cacennau cri. |
Dawnsio Gwerin
Dyma’r dosbarth derbyn yn dawnsio gwerin yn egniol yn eu gwisg ar gyfer diwrnod y llyfr! |
Cystadleuaeth BarddoniaethBu rhai o ddisgyblion yr ysgol yn cystadlu mewn cystadleuaeth ysgrifennu barddoniaeth Gwyl Ddewi ar gyfer Ysgolion y dalgylch. Llongyfarchiadau i Casi (bl 3) ddaeth yn 2il drwy’r dalgylch am ysgrifennu barddoniaeth ar y thema Cymru, ac i Bedwyr (bl6) ddaeth yn 2il am ysgrifennu barddoniaeth ar y thema Dewi Sant. |
Huw Roberts a Bethan Roberts – Telyn a ChrwthCafodd disyblion blwyddyn 5 a 6 fore hyfryd yng nghwmni Huw a Bethan Roberts yn dysgu am offerynnau traddodiadol Cymru a’r wisg Gymreig, yn ogystal a chanu a dawnsio gwerin! |
Diwrnod y llyfr
Ar ddiwrnod y llyfr bu disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn darllen i blant y dosbarth derbyn. Gwych iawn oedd y rhyngweithio.
|
Newyddion Chwefror |
Clwb ffitrwydd Rydym yn ddiolchgar am yr holl glybiau sydd yn Ysgol Henblas ar ol 3:15pm. Mae’r clybiau Urdd, rygbi a phel droed yn mynd o nerth i nerth. Yn ddiweddar mae dau glwb newydd wedi dechrau sef dawnsio gyda Katie Jones i’r adran iau a ffitrwydd i blant y cyfnod Sylfaen gyda Mrs Clare Owen. Maent yn egniol iawn ac yn mwynhau yn fawr. |
Dydd Miwsisg CymruCafodd disgyblion yr adra iau fore arbennig yn Ysgol Llangefni gyda’u ffrindiau o ysgolion y dalgylch yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Diolch i Arfon Wyn am yr holl ganu a da oedd gweld bandiau ifanc Môn yn cael y cyfle.
|
Newyddion Ionawr |
Gala nofio Bu cryn dipyn o ddisgyblion yn cymryd rhan yng ngala nofio’r Urdd. Daeth llawer o lwyddiannau i’w rhan a llongyfarchiadau i aelodau’r ras gyfnewid blwyddyn 3 a 4 ddaeth i’r brig sef Erin Quinn, Ela Edwards, Efa Lois ac Efa Torr. Yn ogystal aeth Erin yr holl ffordd i Gaerdydd i gystadlu yn unigol gan ddod yn bedwerydd a phumed drwy Gymru. Tipyn o gamp! |
Gymnasteg Llongyfarchiadau mawr i’r criw gymansteg fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth Urdd y sir. Cafwyd llwyddiannau lu - y grwp yn gyntaf, y triawd yn ail a’r parau yn drydydd. Diolch i Mair, Ruth a Mrs Owen am eu hyfforddi a dymuniadau gorau i’r grwp – sef Ifan Gilford, Ioan Coyne, Erin Quinn, Ariana Hardy, Mari Roberts a Gwen Coyne yn Aberystwyth. |
Cylch Meithrin Henblas
Rydym wrth ein boddau fod y cylch meithrin wedi ail agor y mis hwn. Cafwyd bore arbennig i lansio’r cyfnod newydd pan ddaeth Hanna Huws a Selog draw i gyfarfod y plant. Dymuniadau gorau i bawb ynghlwm a’r cyfnod newydd hwn a diolch i’r pwyllgor gweithgar am sicrhau fod y cylch wedi agor eu drysau eto. |
|
|
Bedydd Braint i holl ddisgyblion yr ysgol oedd cael bod yn rhan o fedydd Anti Aloma ac Anti Pat yn neuadd yr ysgol yn ddiweddar. Cafwyd gwasanaeth hyfryd dan arweiniad y Canon Emlyn Williams a’r holl ddisgyblion yn cymryd rhan. Yn ogystal cafodd disgyblion blwyddyn 3 a 4 brynhawn diddorol yn holi’r Canon Williams a Mrs Tracy Jones am Eglwys Sant Cristiolus. |
Cogydd ysgol y flwyddyn Llongyfarchiadau mawr Anti Sian ar ddod yn ail trwy Gymru yng nghystadleuaeth cogydd ysgol y flwyddyn. Rydym eisoes yn gwybod fod Anti Sian yn paratoi cinio ardderchog i’n plant ac fe gafodd gydnabyddiaeth haeddiannol am hynny. |
Achub bywyd Cafodd disgyblion yr adran iau sesiwn gwerthfawr iawn yng nghwmni Stephen o Ambiwlans St John’s yn dysgu beth i’w wneud petai person ddim yn anadlu. Yn ogystal cafwyd gwybodaeth sut i ddefnyddio’r deffibriliwr sydd ar gael i drigolion y pentref pe cyfyd anghydfod. |
|
|
|
Siaradwyr gwadd Rydym wrth ein boddau yn gwahodd siaradwyr yn rheolaidd i Ysgol Henblas. Dros y mis diwethaf rydym yn ddiolchgar i’r canlynol am eu cyfraniadau gwerthfawr: Sian Parry ar ran ‘Paid Cyffwrdd Dweud’, Agor y Llyfr, Parchedig Emlyn Williams a PC Owain. |
Noson Siopa Nadolig Cafwyd noson hyfryd yn y noson siopa Nadolig a’r ysgol yn llawn o drugareddau a chrefftau ar gyfer y Nadolig. Ac wrth gwrs roedd y dyn ei hun yno – Sion Corn yn sgwrsio a thynnu lluniau gyda’r plant. Diolch i bawb am gefnogi ac am helpu i godi £600 tuag at yr ysgol. |
Anthem Ysgol Henblas gyda Mei Mac
Braint i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 oedd cael treulio bore yng nghwmni’r prifardd Mei Mac ddechrau Tachwedd. Llwyddodd Mei a’r plant i greu anthem Ysgol Henblas yn seiliedig ar ein gweledigaeth ‘gwreiddiau i dyfu - adenydd i hedfan’. Dyma hi: Anthem Ysgol Henblas Lle bu Ifan o Baradwys, Cytgan: O dan un to mae awch am wybod, Cytgan: Fel bu adar T.G.’n mentro, Cytgan:
|
|
|
|
Bocsus Nadolig Diolch i bawb gefnogodd ein ymgyrch Teams 4U eleni. Llwyddodd Bedwyr ac Alfie i sicrhau bod yr holl focsus wedi cyrraedd Ysgol Llangefni yn ddiogel. |
Athletau dan do Llongyfarchiadau i dîm Ysgol Henblas ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth athletau dan dô ym Mhlas Arthur. Cafwyd sawl perfformiad arbennig a phob aelod o’r tîm wedi cyfrannu’n werthfawr i’r llwyddiant. |
|
|
Adnodd i’r gymuned - diffibriliwr Gosodwyd adnodd hanfodol i’r gymuned tu allan i fynedfa’r ysgol ddechrau Tachwedd. Mae’r diffibriliwr bellach yn ei le ac ar gael petai ei angen mewn argyfwng. |
|
|
|
|
NSPCCDaeth Rhian draw i’r ysgol i siarad gyda’r holl ddisgyblion am sut y dylent ymateb pan fo heriau yn eu hwynebu. Cafwyd cyngor doeth iawn a‘r plant yn ymateb yn aeddfed wrth drafod gyda Rhian. |
Sioe hanes Cymru Dysgodd y plant am fwy o ffigyrau hanesyddol Cymru wrth wylio’r sioe ‘Tales of Wales’. Daeth y sioe i ben gyda hanes Betsi Cadwaladr a chyfle i’r plant ddysgu am ei phrofiadau yn teithio ar hyd a lled y byd yn helpu eraill mewn helyntion. Bu llawer o’r plant yn actio yn y sioe ac roedd eu mwynhad yn amlwg o’r wynebau siriol! |
Dosbarth derbyn a meithrinMae plant bach y dosbarth derbyn a meithrin wedi hen setlo gyda Mrs Owen, Anti Diane ac Anti Carol. Mae’r 23 ohonynt yn werth eu gweld yn eu gwisg ysgol ac maent yn griw hapus a chyfeillgar dros ben!
|
Golchi dwylo Bu Nyrs Mandy yn yr ysgol yn siarad am y dull cywir o olchi dwylo gan ddangos mor gyflym mae’r germau yn gallu ymledu. Diolch unwaith eto iddi am y cyngor doeth. |
Diogelwch yn yr haul Daeth Cerys o Tenovus i’r ysgol i roi cyngor i’r plant ar sut i gadw’n ddiogel yng ngwres yr haul – cyngor doeth o ystyried yr ha bach Mihangel a gafwyd. Eli haul, cap, diod a gorchuddio’r croen rhag gwres yr haul oedd y neges bwysig. |
|
|
|
|
|
|
Bingo hafCafwyd noson dda yn y bingo haf wedi ei drefnu gan y gymdeithas rhieni/athrawon. Diolch i bawb am gefnogi gan helpu i godi £248 tuag at yr ysgol. |
|
|
|
|
|
|
|
|
Garddio
Blas i chi o’r gwaith diweddar yn yr ardd. Diolch i bawb sydd wedi helpu a chlod mawr i Mike Allen. Mae’r plant ar draws yr ysgol wedi cael budd mawr o’r garddio ac wedi meithrin sgiliau newydd yn ogystal â mwynhau gweld y dilyniant o’r ardd i’r blât fwyd. |
|
|
|
|
|
|
|
Croeso i’r dosbarth derbynDaeth 16 o blant y cylch meithrin i Ysgol Henblas i gael blas o fywyd yr ysgol cyn iddynt drosglwyddo ym mis Medi. Roedd Mrs Owen, Anti Diane ac Anti Carol wedi cael bore difyr ac hwyliog dros ben yn eu cwmni ac maent yn edrych ymlaen yn eiddgar at eu croesawu yn barhaol ym mis Medi. Croesawyd y rhieni yn ogystal a chafwyd prynhawn hyfryd wrth iddynt flasu bwyd y gegin,profi cynnyrch yr ardd a chael blas o fwrlwm yr ysgol. Yn ogystal, mewn datblygiad cyffrous i Ysgol Henblas bydd plant oed meithrin - sef y flwyddyn islaw’r derbyn yn cael eu haddysgu yn yr ysgol am 10awr yr wythnos o fis Medi ymlaen. Edrychwn ymlaen at groesawu’r criw meithrin i’n plith yn ogystal ym Medi 2019. |
Athletau sir yr UrddAeth 31 o sgwad athletau’r ysgol i Ysgol Uwchradd Bodedern i gymryd rhan yng nghystadleuaeth athletau sir yr Urdd ynghyd ag oddeutu 1000 o blant yr ynys. Cafwyd perfformiadau da gan y plant a’r cystadlu’n frwd. Llongyfarchiadau i’r canlynol ar gyrraedd y tri uchaf: |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Eglwys CristiolusYn ystod yr wythnosau cyn y Pasg roedd Mr Emlyn Williams wedi tywys y plant drwy’r prif ddigwyddiadau arweiniodd at y croeshoelio. Yn ddiweddar bu disgyblion blwyddyn 3 a 4 yn Eglwys Sant Cristiolus lle cawsont brynhawn difyr yn dysgu rhagor am yr eglwys. Diolch arbennig i Mr Emlyn Williams am y croeso cynnes. |
PeldroedTra bod seibiant yn y gystadleuaeth cwpan Ieuan Wyn Jones cafwyd gem gyffrous rhwng tîm Ysgol Henblas a thîm Ysgol Parc y Bont. Diolch eto i Barry Edwards am roi ei amser yn hyfforddi a llongyfarchiadau i’r ddau dîm am chwarae gem mewn ysbryd iach. Diolch Ysgol Parc y Bont am y croeso a phob hwyl am weddill y tymor. |
|
Eisteddfod Sir yr UrddRydym yn falch iawn o’r holl ddisgyblion fu’n cystadlu yn enw Adran Henblas yn eisteddfod sir yr Urdd. Roeddent i gyd yn wych a phob un yn perfformio o’r galon. Diolch arbennig i Elen Keen sydd wedi rhoi oriau o’i hamser yn paratoi’r plant. Pob hwyl i Eluned a Jasmine fydd yn cynrychioli’r adran a’r sir yng Nghaerdydd ddiwedd Mai. |
DingleAeth disgyblion blynyddoedd 3 a 4 i chwilio am wiwerod goch yn y Dingle, a do wir fe ddaeth sawl un i’r golwg. Buont hefyd yn creu bwyd i’r adar bach gan ddefnyddio cangen a chwyr. Bore difyr iawn yn y goedwig. |
Eisteddfod yr UrddCafwyd diwrnod prysur o gystadlu yn Eisteddfod cylch yr Urdd gyda llawer o lwyddiannau i’r plant fu’n cystadlu yn enw Adran Henblas. Da iawn blant a phob hwyl yn Eisteddfod y sir. A diolch anferthol i Elen am ei holl waith hyfforddi di-flino. |
Wythnos Gwyl DewiAr ddechrau Mawrth bu wythnos o ddathlu Gwyl Dewi Sant. Aeth plant y cyfnod sylfaen i ganu gyda’u cyfoedion o weddill y dalgylch yn Ysgol y Graig. Bu disgyblion yr adran iau yn gorymdeithio gyda’u ffrindiau o ysgolion y dalgylch yn Llangefni ac yna’n mwynhau brwydr y bandiau ysgolion uwchradd yn Ysgol Gyfun Llangefni. Cafwyd disgo cerddoriaeth Gymreig yn ogystal a chydtadleuaeth creu cacennau yn cyfleu Cymreictod a lwyddodd i hofi £107. |
Te pnawn CymreigRoedd yn hyfryd gweld neuadd yr ysgol yn orlawn i ddathlu Gwyl Dewi. Diolch i’r plant am yr adloniant ac i’r rhieni am baratoi te a chacennau blasus. Llwyddwyd i godi £277 tuag at yr ysgol. |
KarateDaeth Karate Cymru i gynnal sesiynau karate gyda holl blant yr ysgol. Roedd tipyn o ffocws ar y gallu i ganolbwyntio ac roedd yn werth gweld y plant yn llwyr ymroi i’r gamp. |
Arweinwyr ifancDiolch i Barry ac Aaron am roi hyfforddiant arbennig i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 - diwrnod o baratoi y disgyblion fel arweinwyr chwaraeon o dan y cynllun Playmaker. Cawsont y cyfle i ddysgu llawer o sgiliau allweddol a hynny mewn modd hwyliog ac ymarferol. |
LegoDiolch i Catrin Williams o Coleg Menai am ddod draw i gynnal sesiwn o greu mecanweithiau gyda Lego. Roedd bwrlwm pendant yn y dosbarth a’r disgyblion wedi ymgolli yn y creu. Braf oedd eu gweld yn arbrofi a dyfalbarhau. |
BeicioLlongyfarchiadau i holl ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 ar lwyddo i gael eu cymhwyster beicio yn ddiogel ar y ffordd. Diolch i Mrs Ashworth a Martina am eu hyfforddi’n drylwyr a phob hwyl ar y beicio diogel dros y misoedd nesaf - a chofiwch wisgo’r helmed. |
Peldroed/ Cwpan Ieuan Wyn JonesYn dilyn y llwyddiant diweddar ym maes chwaraeon daeth rhagor o newyddion da pan gipiodd y tim peldroed 5 bob ochr yr ail safle yn nhwrnament Ynys Môn. Yn ogystal, cafwyd buddugoliaeth yn ddiweddar yn ail rownd cwpan Ieuan Wyn Jones. Diolch i Barry am hyfforddii’r tim unwaith eto. Perfformiad graenus ac aeddfed. Ymlaen i’r rownd nesaf. |
|
BeicioMae’r holl feics a’r sgwters tu allan i fynedfa’r ysgol yn tystio i ymroddiad y plant a’r rhieni i’r ymgyrch Big Pedal. Dyma ddangos ymwybyddiaeth o fod yn ddinasyddion sydd yn parchu’r byd o’u cwmpas. |
|
|
|
|
|
Tim gymnasteg Ysgol HenblasMae unigolion a thîm gymnasteg Ysgol Henblas wedi mwynhau cryn lwyddiant dros yr wythnosau diwethaf – yng nghystadleuaeth ysgolion Ynys Môn, yn ogystal a chystadleuaeth sirol yr Urdd. Yn dilyn y llwyddiant hwn aeth y tîm yr holl ffordd i Aberystwyth i gystadlu yng nghystadleuaeth cenedlaethol yr Urdd ac wedi perfformiad campus fe gawsont y wobr gyntaf. Llongyfarchiadau mawr i’r 6 aeth lawr i Aberystwyth ac yn arbennig i Mrs Mair Eluned, Mrs Ruth Gilford a Mrs Kelly Owen am eu hyfforddi. |
Gala nofioCafodd disgyblion yr ysgol lawer o lwyddiant yng ngala nofio Cefni a Borth ym Mhlas Arthus bore Dydd Iau yr 21ain o Chwefror. Enillodd Osian Keen y ras dull rhydd i fechgyn blwyddyn 3 a 4, daeth Lena Clode yn ail yn y dull rhydd i ferched blwyddyn 6, Leo Saxon ac Erin Quinn yn ail yn y ras broga i flwyddyn 3 a 4, a Sara Coyne, Sion Williams, Sian Rowlands, Ioan Coyne a Freya Tomblin yn 3ydd yn eu rasus hwy. Daeth tîm ras gyfnewid blwyddyn 3 a 4 yn 3ydd. Llongyfarchiadau i bawb ar eu llwyddiant.
|
Gymnasteg unigolLlongyfarchiadau i Cairon Rowlands ar ei lwyddiant mewn cystadleuaeth gymnasteg a gynhaliwyd yn ddiweddar. Mae Cai wedi bod yn gweithio’n galed ar ddatblygu ei sgiliau gymnasteg dros yr wythnosau diwethaf ac mae’r holl ymarfer wedi talu ar ei ganfed. Bydd yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf yn Bala yn fuan, pob lwc iddo. |
Pel droedMae wedi bod yn fis llwyddiannus i’n pedroedwyr – maent drwodd i rownd nesaf cystadleuaeth Ieuan Wyn Jones, daeth tîm yr adran yn fuddugol yng nghystadleuaeth 5 bob ochr yr Urdd, a daeth llwyddiant pellach yng nghystadleuaeth 5 bob ochr ysgolion y dalgylch. Camp a hanner. |
Coginio da’n gilyddRoedd arogl arbennig yn Ysgol Henblas yn ddiweddar wrth i’r 86 o ddisgyblion goginio gyda Richard Shaw ‘o gwmni ‘coginio da’n gilydd) a Carla Desmond (ysgolion iach). Paratowyd myffins bendigedig ac roedd y wraps hefyd yn flasus dros ben. Yn ogystal daeth rhieni y dosbarth cyfnod sylfaen yn y prynhawn i goginio gyda’u plant. Diolch i Richard a Carla am roi profiadau mor arbennig i’n plant. |
|
Ardal allanolMae tipyn o newid wedi bod yn ardal allanol y cyfnod sylfaen dros yr wythnosau diwethaf – ac mae’r diolch am hyn i Mr Elfyn Roberts (tad Awel, Sion ac Elis). Mae Elfyn wedi bod yn brysur yn creu cegin fwd a mainc ac maent bellach yn eu lle. Ond roedd adeiladwyr bach prysur Mrs Manon Roberts yn barod i’w helpu wrth osod y celfi newydd yn eu lle yn y concrit. Diolch o galon i Eryl ac yn ogystal i Lisa am eu holl waith. |
Coginio da’n gilyddRoedd arogl arbennig yn Ysgol Henblas yn ddiweddar wrth i’r 86 o ddisgyblion goginio gyda Richard Shaw ‘o gwmni ‘coginio da’n gilydd) a Carla Desmond (ysgolion iach). Paratowyd myffins bendigedig ac roedd y wraps hefyd yn flasus dros ben. Yn ogystal daeth rhieni y dosbarth cyfnod sylfaen yn y prynhawn i goginio gyda’u plant. Diolch i Richard a Carla am roi profiadau mor arbennig i’n plant. |
FfarwelioRoedd yn hyfryd cael croesawu Mrs Helen Pritchard yn ol i’r ysgol yn ddiweddar i ddiolch iddi am ei gwasanaeth arbennig tra yn gweithio yn y gegin. Gydag Anti Sian ac Anti Aloma roedd Anti Helen yn dîm ardderchog a phlant Ysgol Henblas yn ffodus dros y blynyddoedd o’i gofal. Cofiwch Anti Helen – bydd croeso yma i chi bob tro. |
GymnastegCafodd tim gymnasteg Ysgol Henblas lwyddiant yn nghystadleuaeth gymnasteg Urdd y sir pan ddaeth nifer o wobrau i’w rhan. Daeth Ifan Gilford yn ail yn unigol; Martha Gilford ac Ariana Hardy yn ail yn y gystadleuaeth i barau; Martha, Ariana a Gwen Coyne yn ail yn y triawd, a daeth y tim yn fuddugol. Llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu a phob lwc iddynt yn cynrychioli’r Sir yn Aberystwyth mis nesaf. Hoffem ddiolch hefyd i Mair Eluned a Ruth Gilford am eu hyfforddi ac i Mrs Owen am gydlynu’r holl baratoi. |
|
Robert RecordeDaeth cwmni drama ‘Mewn Cymeriad’ i’r ysgol i gyflwyno sioe hwyliog yn ymwneud a rhifedd. Cafodd y disgyblion awr ddifyr dros ben ac roedd eu mwynhad yn amlwg wrth ddilyn anturiaethau’r prif gymeriad Robert yn gofyn am eu cymorth i ddatrys problemau mathemategol. Yn raddol roedd yr atebion i bob problem yn arwain at lythyren oedd yn creu gair mathemategol penodol. |
Gwylio adarMae disgyblion blwyddyn 3 a 4 wedi bod yn cymryd rhan mewn arolwg gwylio adar gan gynnal awdit o’r adar sydd yn ymweld a gardd yr ysgol dros gyfnod o bythefnos. Maent wedi mwynhau dysgu am y gwahanol fathau o adar. Dyma gyfle arbennig i ddatblygu medrau rhifedd y disgyblion ymhellach! |
GwyddoniaethDaeth Ms Awen Ashworth o gwmni Horizon draw i addysgu disgyblion blwyddyn 3 a 4 am ol traed carbon. Roedd yn sesiwn gwybodus a diddorol dros ben a’r plant yn deall yr effaith mae dyn yn ei gael ar yr amgylchedd. |
ChristingleCafwyd gwasanaeth hyfryd yn Eglwys Sant Cristiolus ychydig cyn y Nadolig dan arweiniad y Parchedig Emlyn Williams. Yn ystod y dydd roedd holl blant yr ysgol wedi bod yn creu Christingle gan ddysgu am arwyddocad yr holl elfennau sy’n perthyn iddo. Diolch i’r plant am berfformio mor swynol dan arweiniad Mrs Legge ac i’r Parchedig Emlyn Williams am ei amser yn rhoi profiadau arbennig i’r plant. |
|
Noson siopa NadoligRoedd yr ysgol wedi trawsnewid ar nôs Iau Tachwedd 29ain – yn llawn stondinau Nadolig ar gyfer y noson siopa Nadolig a drefnwyd gan y gymdeithas rhieni athrawon. Roedd yn hyfryd gweld yr ysgol yn orlawn a’r holl nwyddau a chrefftau arbennig oedd yn cael eu harddangos. Diolch i bawb am gefnogi a sicrhau fod y noson mor llwyddiannus, gydag awyrgylch arbennig yn llenwi’r holl ysgol. Gwnaethpwyd elw campus o £891. |
|
DiolchgarwchRoedd yn hyfryd gweld neuadd yr ysgol dan ei sang ar gyfer gwasanaeth diolchgarwch eleni. Diolch i bawb am gefnogi ac i’r holl blant am roi ymdrech mor dda wrth berfformio - o’r rhai ieuengaf yn y cylch meithrin i’r hynaf ym mlwyddyn 6. Casglwyd £333 tuag at ein ffrindiau yn Hafan Henblas, Kenya. |
Gwasanaeth gan y Parchedig Hywel Davies a’r Cynghorydd Dylan ReesHoffem fel ysgol ddiolch i’r Parchedig Hywel Davies a’r Cynghorydd Dylan Rees am ddod draw i gynnal gwasanaeth yn son am y parc sglefro yn Llangefni. Bu’r ddau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd gwisgo dillad addas i sglefrio ac i “beidio bod fel melon” - h.y. rhaid cofio gwisgo helmed! Roedd y ddau yn canmol y plant am eu hymateb gwych a chwestiynau da. |
|
|
Bake OffOs oeddech yn pasio Ysgol Henblas ar nos Lun Hydref 22ain mae’n siwr eich bod wedi cael eich swyno gan yr arogleuon bendigedig. Ie – arogl y cacennau blasus oedd yn rhan o gystadleuaeth coginio Henblas Bake Off. Rhaid diolch a chanmol yr holl blant a rhieni am eu cynnyrch gwych, roedd llawer iawn o waith wedi mynd i mewn i’r coginio a’r beirniaid Anti Sian ac Anti Aloma wedi mwynhau y dasg o feirniadu a blasu’r cynnyrch! Braf oedd gweld neuadd yr ysgol yn orlawn ac yn llawn bwrlwm. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth ac i’r Gymdethas Rhieni Athrawon am eu gwaith caled yn trefnu. |
|
Diwrnod ffitrwyddAeth yr ysgol gyfan draw i gae sioe Mona ar gychwyn y mis i gymryd rhan mewn gweitgaredd ‘Go Fun Run’. Cafodd y plant ddiwrnod o weithio’n gorfforol a chafwyd hwyl wrth gynhesu fyny gyda’r masgot a dawnsio i gerddoriaeth amrywiol! Fe wnaeth yr holl ddisgyblion yn wych gan redeg o amgylch y trac a chwblhau’r ras! |
Croeso i’r plant NewyddHoffai Mrs Roberts groesawu plant newydd i’r dosbarth Derbyn eleni, mae pawb wedi setlo yn wych! |
DeinosoriaidRydym yn y Cyfnod Sylfaen wedi cael mis prysur iawn a llawn hwyl. Ein thema ar hyn o bryd yw ‘Deinosoriaid’. Cwsom fynd ar ymweliad i Stone Science er mwyn dysgu mwy am ddeinosoriaid, ac fe gafodd y plant gyfle hyd yn oed i afael mewn esgyrn deinosor!! |
|
Siarter IaithMae’r Siarter Iaith yn fyw yn Ysgol Henblas. Cafwyd etholiad i ddewis aelodau i’r grwp Siarter Iaith sydd yn barod wedi bod yn brysur iawn. Maent wedi trefnu cystadleuaeth i greu logo i’r grwp ac wedi bod yn sicrhau fod plant yr ysgol yn gwrando ar gerddoriaeth band y mi. Y mis hwn Yr Ods yw band y mis ac mae’r plant wrth eu boddau yn gwrando ar eu caneuon. Hefyd mae’r grwp Siarter Iaith yn ceisio annog plant yr ysgol i ddefnyddio idiom y mis yn ddyddiol a’r mis hwn mae pawb wedi bod yn torchi llewys! |
|
|
|
Archifdy MônDaeth Lia o’r archifdy i rannu gwybodaeth am effaith y rhyfel ar Ynys Môn. Roedd y disgyblion wedi paratoi rhestr o gwestiynau ar ei chyfer a chafwyd llawer o ffeithiau diddorol gan gynnwys data am y nifer o fomiau oedd wedi disgyn ar drefi fel Caergybi, Llangefni a Phorthaethwy. Diolch hefyd am adael nifer o arteffactau fydd yn cyfoethogi dysgu’r disgyblion. |
Pobi baraRoedd yn werth gweld pob un o ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 yn eu hetiau pobi wrth iddynt greu a siapio bara gyda Blodwen a Bryony o gwmni Caterlink. Diolch i Anti Sian, Anti Aloma ac Anti Helen am bobi’r bara yn y popty. Yn ôl y sôn roedd y bara yn flasus dros ben! |
Golchi dwyloMae golchi dwylo yn gywir yn andros o bwysig a dyna’r neges gan Nyrs Mandy pan ddaeth draw i siarad gyda’r holl blant. Dangosodd yn effeithiol sut mae’r germau yn gallu ymledu mor hawdd o berson i berson e.e. wrth ysgwyd llaw. Bu Freya, Erin a Morgan yn modelu sut i olchi’r dwylo yn gywir gan wneud yn siwr fod y sebon yn mynd rhwng y bysedd a’r ewinedd. Diolch nyrs Mandy! |
Parch Emlyn WilliamsMae’r plant wrth eu boddau yn cael gwasanaeth gan y Parch Emlyn Williams ar fore Mercher. Mae’n hyfryd clywed y plant yn morio canu ac yn symud yn egniol ar ôl clywed neges bwysig. Edrychwn ymlaen at ragor o straeon ac hanesion diddorol. |
|
Blwyddyn 6Rydym yn dymuno pob hwyl i ddisgyblion blwyddyn 6 ar eu hantur nesaf a’r cam cyffrous sydd yn eu hwynebu wrth ddechrau yn yr ysgol uwchradd. Maent yn griw arbennig iawn ac rydym yn gwybod y byddant yn gwneud yn gampus yn Ysgol Llangefni. Amdani a mwynhewch! |
Gwobrau chwaraeon Gwynedd a MônRydym yn andros o falch o’r ffaith fod Ysgol Henblas wedi cael yr ail wobr yng ngwobrau chwaraeon Gwynedd a Môn wythnos diwethaf. Mae hyn yn dipyn o gamp ac yn adlewyrchiad o’r holl weithgarwch sydd wedi digwydd ym maes addysg gorfforol dros y flwyddyn ddiwethaf. Llongyfarchiadau mawr i bawb a diolch i’r holl bobl sydd wedi helpu i sicrhau fod plant yr ysgol yn cael y profiadau niferus hyn. |
Prynhawn prysurDiolch i’r grwp iach a blwyddyn 6 am drefnu prynhawn o weithgareddau ffitrwydd a chadw’n iach ar gae’r ysgol. Roedd pedair gweithgaredd yn cylchdroi a’r plant yn gweithio’n egniol ymhob gorsaf. |
Talent HenblasGan fod cymaint o dalentau yn Ysgol Henblas penderfynodd y cyngor ysgol drefnu bore arbennig yn rhoi cyfle i holl blant yr ysgol arddangos eu talentau – dawnsio, gymnasteg, canu, actio a mwy. Roedd pawb yn wych a llongyfarchiadau i Jasmine a Sion Gwilym am gael y nifer mwyaf o bleidleisiau yn y cyfnod sylfaen a’r adran iau. |
Jac JonesCroesawyd y dylunydd Jac Jones i’r ysgol at ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4 gan eu bod wedi bod yn darllen y nofel Diwrnod Ofnadwy gan Haf Llewelyn. Jac Jones oedd wedi dylunio’r lluniau yn y nofel ac fe ddangosodd i’r plant sut y mae’n mynd ati i greu darluniau ar gyfer llyfrau o’r fath. Cafwyd bore bendigedig yn ei gwmni a’r plant wrth eu boddau yn rhyfeddu at ei sgiliau arlunio. |
Pobl sy’n helpu – Anti JulieHoffai blwyddyn derbyn ac un ddiolch yn fawr iawn i Anti Julie am ddod atom fel rhan o’n gwaith ar y thema ‘Swyddi- Pobl sy’n helpu’. Roedd y plant wedi paratoi amryw o gwestiynau, a dysgu sut i ddefnyddio llawer o offer meddygol. Cafodd pawb hwyl yn dysgu am swydd bwysig nyrs. Diolch i Anti Julie am roi ei hamser. |
FfarwelioRydym yn diolch yn fawr iawn ac yn hynod werthfawrogol o gyfraniad dwy aelod o staff sydd wedi ein gadael sef Miss Ceri Roberts a Miss Medwen Humphreys. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i’r ddwy am eu gwasanaeth arbennig yn Ysgol Henblas ac am roi profiadau gwerthfawr i’r plant. Rydym yn dymuno yn dda i Anti Ceri yn Ysgol Bodedern ac i Miss Humphreys yn Ysgol Brynsiencyn. |
Croeso yn ôl!Ar ddechrau blwyddyn newydd rydym yn croesawu’r plant yn gynnes yn ôl i Ysgol Henblas. Mae’r disgyblion yn nosbarth derbyn Mrs Roberts wedi hen setlo bellach ac yn mwynhau eu dyddiau cynnar yn yr ysgol! |
|
Bethan Wyn JonesDaeth y naturiaethwraig Bethan Wyn Jones i siarad gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6 am gynefinoedd Ynys Môn. Roedd y plant wedi paratoi rhestr o gwestiynau a rei chyfer ac fe gafwyd atebion i’r cwbl gan Bethan. Roedd yn wych dysgu termau cywir am blanhigion, adar ac anifeiliaid sydd i’w darganfod ar yr ynys. Diolch yn fawr iawn Bethan am brynhawn i’w gofio. |
|
Halen MônAeth disgyblion blwyddyn 2 i ymweld a Halen Môn er mwyn dysgu am y broses o gael halen o’r môr. Cafodd y disgyblion lawer iawn o hwyl yn cymharu halen a hidlo dwr yn y gweithdai amrywiol yn ogystal ag ymweld a’r ffatri gynhyrchu. Roedd y plant wedi rhyfeddu gyda’r broses a bod posib gwneud busnes wrth ddefnyddio adnodd sydd mor hygyrch i ni fel pobl sy’n byw ar yr ynys. |
Royal Charter/Canolfan Copr AmlwchAeth disgyblion blynyddoedd 5 a 6 i Moelfre i ddysgu am hanes y Royal Charter. Yn disgwyl amdanynt yn y capel oedd y Parchedig Huw John Hughes a roddodd gefndir y llong cyn ei llongddrylliad drasig. Fe welodd y plant leoliad y suddo yn ogystal a gwerthfawrogi prydferthwch arfordir Môn. Diolch i Mr Hughes am fore bythgofiadwy. Ar ôl cinio aeth pawb ar y bws i Ganolfan Copr Amlwch i ddysgu am y diwydiant copr ym mynydd Parys a phwysigrwydd Porth Amlwch yn ei ddydd er mwyn allforio’r copr i weddill y byd. Mae Porth Amlwch a’r Ganolfan yn fendigedig – ewch yno os cewch gyfle yr haf yma. |
Haf LlywelynMae disgyblion blynyddoedd 3 a 4 wedi bod yn astudio ‘Diwrnod Ofnadwy’ gan Haf Llywelyn ac yn ddiweddar fe ddaeth yr awdures i’r ysgol i drafod ei llyfr a’r hyn oedd wedi ei chymell i ysgrifennu’r nofel. Roedd y plant wedi paratoi cwestiynau addas ac fe gafwyd awr ddifyr yng nghwmni Haf. Diolch yn fawr iawn iddi am ei amser unwaith eto yn cyfoethogi addysg plant Ysgol Henblas. |
Twrnament rygbiLlongyfarchiadau i dim rygbi blwyddyn 3 a 4 a thim 5 a 6 am roi perfformiadau da iawn yn nhwrnament yr ynys gynhaliwyd ar gaeau clwb rygbi Llangefni. Diolch i Mrs Sue Legge a Mrs Eleri Stephen ac i’r rhieni am gefnogi. |
Canolfan Thomas TelfordAeth disgyblion blynyddoedd 5 a 6 i Ganolfan Thomas Telford Porthaethwy i ddysgu am hanes y ddwy bont sy’n croesi’r afon Fenai a strwythurau pontydd yn gyffredinol. Ar ddiwrnod heulog o Fehefin roedd cerdded dros bont Menai yn brofiad bendigedig. Bu’r disggyblion wrthi yn adeiladu pontydd eu hunain ac fe lwyddodd pont pob grwp i gynnal y pwysau a roddwyd arnynt. Da iawn bawb a diolch i staff y ganolfan am eu hamser. |
Mabolgampau sir yr UrddBu cystadlu brwd ym mabolgampau rhanbarth yr Urdd yn dilyn llwyddiant y cylch. Da iawn bawb am roi o’u gorau. Llongyfarchiadau i’r canlynol ar eu llwyddiant pellach: |
CydymdeimloFel ysgol a chymuned rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf a Ms Carol Jones neu Anti Carol fel mae’r plant yn ei galw yn ei phrofedigaeth o golli ei mam. Rydym i gyd yn meddwl amdanoch Carol yn eich colled. |
Edward Morus JonesEw – son am forio canu oedd i’w glywed yn Ysgol Henblas ddechrau Mehefin.Braf iawn oedd cael croesawu Mr Edward Morus Jones i'r ysgol am brynhawn bendigedig o ganu a morio. Rydym bob tro yn falch o groesawu Mr Jones i Ysgol Henblas ac mae ei frwdfrydedd heintus yn ysbrydoli'r plant bob tro. Edrychwn ymlaen i'w groesawu eto yn fuan! |
Ffair HafCliciwch yma i weld holl luniau'r Ffair Haf yn dilyn ein mabolgampau campus. Diolch i bawb am gefnogi ac i'r tim egniol am drefnu mor effeithiol. |
Edward Morus JonesPlant Ysgol Henblas yn morio gyda Mr Edward Morus Jones. Hwyl a sbri!! Cliciwch yma i weld y lluniau a'r fideo |
Ffair WanwynCafwyd noson hyfryd o gymdeithasu ddechrau Mai yn ffair wanwyn yr ysgol. Roedd y Neuadd yn orlawn a’r caeau yn fwrlwm. Diolch i bawb fu’n cynnal y stondinau amrywiol a’r gweithgareddau chwaraeon ar y cae, y perfformiadau cerddorol bendigedig gan aelodau’r adran yn ogystal a’r bwyd blasus yn y gegin. Cliciwch yma i weld y lluniau |
AberystwythRydym yn falch iawn o’r tim pel-rwyd a’r tim pel-droed fu’n cynrychioli’r adran ym mhenwythnos chwaraeon cenedlaethol yr Urdd. Roedd canmol mawr i berfformiadau’r timau dros y ddau ddiwrnod a phawb wedi cael hwyl a mwynhad wrth roi eu gorau glas. Diolch i bawb fu’n cefnogi ac yn arbennig i Eleri Stephen a Barry Edwards am eu holl waith hyfforddi. |
|
Mabolgampau’r UrddLlongyfarchiadau mawr i’r holl blant fu wrthi yn cystadlu ym mabolgampau cylch yr Urdd nôs Fawrth. Daeth llwyddiannau lu mewn llawer o gystadlaethau ac rydym yn dymuno yn dda i’r plant fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth y rhanbarth. Da iawn bawb a diolch i Siwan Gwilym am ei holl waith trefnu. |
|
|
|
|
Gwellhad buanRydym yn dymuno gwellhad buan i Anti Dianne sydd yn gwella yn dilyn llawdriniaeth yn ddiweddar, ac yn falch ei bod yn cryfhau. Brysiwch wella! |
Beicio i’r ysgolYn ystod wythnos olaf Ebrill ac wythnos gyntaf mis Mai rydym ni yn Ysgol Henblas yn cymryd rhan yn her “Big Pedal” 2018. Bob diwrnod mae plant, rhieni ac aelodau o’r staff yn cael eu hannog i feicio, sgwtro neu gerdded i’r ysgol. Mae dalgylch Ysgol Henblas yn eang ac mae’n ardal wledig. Golyga hyn bod rhai plant yn gorfod teithio hyd at 2-3 milltir bob dydd ac eraill yn gorfod dringo elltydd serth sydd yn ymdrech fawr iawn. Ar ddiwrnod olaf yr her rydym yn cael gwisgo fel ein harcharwyr. Y flwyddyn diwaethaf daeth yr ysgol yn ail drwy Gymru yn y gystadelaeth ac rydym yn gobeithio gwneud yn well eleni. |
KerbcraftAc nid yn unig beicio neu sgwtera i’r ysgol sydd yn digwydd – mae plant blwyddyn 1 wedi bod yn cael gwersi er mwyn croesi lôn yn ddiogel gan edrych o ochr i ochr i wneud yn siwr nad oes cerbyd yn dod. Wrth wrando yn ofalus a cherdded mewn parau mae’r plant wedi datblygu sgiliau pwysig. Da iawn chi blant blwyddyn 1. |
Llwyddiant yr UrddRydym yn falch iawn o’n holl ddisgyblion fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd cyn gwyliau’r Pasg. Diolchwn yn fawr iawn i bawb fu ynghlwm a’r hyfforddi ac wrth gwrs i’r holl blant am roi o’u gorau. Dymunwn yn dda yn awr i Greta (unawd chwythbrennau), Eluned (unawd cerdd dant blwyddyn 3 a 4) a’r Parti Adran Unsain fydd yn teithio i’r Eisteddfod Genedlaethol ddiwedd mis Mai. Pob hwyl i chi a llongyfarchiadau mawr ar eich llwyddiant! |
Taith Melin Llynnon |
Ardal allanolMae’n hyfryd gweld ardal allanal y Cyfnod Sylfaen wedi trawsnewid dros yr wythnosau diwethaf. Diolch i’r holl rieni sydd wedi bod wrthi yn gwirfoddoli ac wedi darparu adnoddau ac offer. Yn ogystal, diolch i’r plant fu wrthi yn weithgar a hynny yn ystod gwyliau’r Pasg. Bellach mae cegin fwd, byd mawr ac ardal dywod ar waith ac mae’r plant wrth eu boddau yn dysgu trwy chwarae yno. |
Cystadlaethau Celf a Chrefft yr UrddLlongyfarchiadau mawr i blant Adran yr Urdd ar eu llwyddiant arbennig yn y cystadlaethau Celf a Chrefft eleni. Daeth pedair gwbr gyntaf, dwy ail wobr a dwy drydydd wobr i’r ysgol. Gwych! |
Eisteddfota! Llongyfarchiadau i bawb fu'n cystadlu yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn diwethaf. Bu'n ddiwrnod llwyddiannus dros ben gyda'r Adran yn cipio'r darian eto eleni.Mawr ddiolch i Mrs Keen a Mrs Roberts am eu gwaith caled a hei lwc yn yr Eisteddfod Sir ar Mawrth 21ain. |
Llwyddiant I’r Côr
|
Llysgenhadon Addysg GorfforolLlongyfarchiadau i Osian Iorwerth ac Elin Rowlands ar gael eu dewis i fod yn Lysgenhadon Ifanc Addysg Gorfforol yr ysgol am eleni. Maent wedi cael bore o hyfforddiant gyda staff yr Uned Datblygu Chwaraeon ym Mhlas Arthur ac wedi cael cyfle gyd-drafod a rhannu syniadau gyda Llysgenhadon o ysgolion eraill y Sir. |
Y Ffram Ddringo!
|
Y Goeden Hapus – Mis Hydref
|
Plant Mewn Angen
MMM! Cacenau blasus! |